Mae modd eu lawrlwytho fel delweddau statig neu fel clipiau wedi eu hanimeiddio.
Addas i’w dangos fel eitem neu ddefosiwn mewn oedfa Nadolig, neu i’w defnyddio i drefnu oedfa garolau gyflawn os nad oes cyfeilydd ar gael. Y ffilmiau yn cynnwys y geiriau er mwyn i’r gynulleidfa ymuno yn y canu.
Ydach chi’n chwilio am weithgaredd i’r teulu dros gyfnod yr Adfent, neu efallai yn unigolyn sy’n mwynhau gwneud jig-so’s? Mae’r jigso Nadoligaidd newydd hwn yn cynnwys 1,000 darn, a fydd, wedi ei gwblhau, yn portreadu golygfa’r geni gwyrthiol ym Methlehem 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r jig-so wedi ei rannu i 24 bocs gwahanol, ac felly mae na gyfle i greu darn o’r llun yn ddyddiol, gan gymryd y cyfle i drafod neu myfyrio ar gynnwys yr olygfa.
Pecyn creu golygfa’r preseb y Nadolig Cyntaf
Croeso i’r ‘Pecyn creu golygfa’r preseb y Nadolig Cyntaf’ i chi adeiladu’ch hun. Mae’n amser i gasglu eich cyflenwadau a gadael i’r hwyl ddechrau! Y cyfan sydd ei angen arnoch yw bocs cardbord bach (bocs esgidiau yn gweithio’n dda), cerdyn maint A4 ar gyfer argraffu’r cymeriadau, cyflenwadau crefft (tâp, siswrn, creonau, marcwyr, ac ati). Gallwch ddefnyddio’r pecyn Nadolig hwn gartref neu yn yr Ysgol Sul / eglwys i helpu plant ddeall a dathlu’r newyddion da bod Iesu Grist wedi’i eni i fod yn Waredwr y byd!
Dyma galendr Adfent sy’n troi’n addurn Nadolig wrth iddo gael ei greu dros gyfnod yr Adfent tuag at ddydd Nadolig. Y cyfan fydd arnoch ei angen yw:
– 8 darn o gerdyn maint A4
– Cortyn- hyd o tua 3 metr
– 24 o begiau dillad (rhai bychan os yn bosib)
Gosodwch yr hyd o gortyn ar nenfwd neu ar hyd wal yn eich cartref.
Argraffwch allan y cardiau yn yr atodiad hwn – mae yna 29 cerdyn i gyd, ond mae’r rhai ohonynt yn mynd cefn wrth gefn.
Gellir addurno a lliwio’r cardiau, a thrafod yr adnod o dan sylw, cyn gosod y cardiau i fyny fesul diwrnod o Ragfyr 1af tan ddydd Nadolig.
Adnoddau ar gyfer y teulu a’r cartref
Pecyn yn cynnwys llyfryn newydd sbon i blant, drama hwyliog a rhyngweithiol a chyflwyniad PowerPoint.
Adnoddau Gwil Gŵyl yn Cael Hyd i’r Rhodd Fwyaf
Archebu y llyfryn
Drama’r geni sydyn (PDF)
Cyflwyniad PowerPoint i gyd fynd gyda’r ddrama (PowerPoint)
Llyfryn newydd yn adrodd stori’r Nadolig ar ffurf cerdd i’r plant lleiaf.
Archebu y llyfrynMae Ac fe Ddaeth Duw fel Fi? yn adrodd ar ffurf penillion pam y daeth Iesu i’n byd, gymaint y mae’n ein caru a’r ffaith ei fod yno bob amser ar ein cyfer. Mae’n cynnwys lluniau trawiadol i’r plant eu lliwio wrth fyfyrio ar y geiriau.
Ac fe Ddaeth Duw fel Fi? (Dolen i wefan Scripture Union) Ac fe Ddaeth Duw fel Fi? (Lawrlwytho ffilm) Ac fe Ddaeth Duw fel Fi? – Nadolig Cymunedol (Lawrlwytho PDF) Ac fe Ddaeth Duw fel Fi? – Chwilio am y Nadolig (Lawrlwytho PDF) Ac fe Ddaeth Duw fel Fi? – Anrhegion addas i Frenin (Lawrlwytho PowerPoint)
Mae Wseia a’r baban yn sioe newydd a ysgrifennwyd gan Andy Hughes ar gyfer perfformiad gan CA2. Bu Andy ar daith o amgylch ysgolion adeg y Nadolig gyda thimau o bypedwyr am flynyddoedd lawer ac mae’r sgript newydd hon – sydd i’w lawr lwytho a’i pherfformio am ddim – wedi’i seilio’n fras ar rai syniadau o sioe bypedau yn 2002 ond wedi’i diweddaru i blant ei pherfformio a gyda 5 cân newydd sbon. Mae’n adrodd stori’r Nadolig o safbwynt angel ifanc, dibrofiad.
Bydd recordiadau o’r caneuon ar Youtube hefyd er mwyn i athrawon a phlant gael eu clywed.
Sgript Wseia a’r baban (PDF)Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Andy Hughes ar 07968 826401.
Mae gan Embrace the Middle East daflen newydd sbon ar gael sy’n rhad ac am ddim i’w lawrlwytho ac yn cynnwys 20 carol boblogaidd. Cliciwch isod i fynd i wefan Embrace the Middle East lle mae modd lawrlwytho y PDF.
BETHLEHEM CAROL SHEET – WELSH/BILINGUAL EDITION (Dolen allanol)Cliciwch YMA i lawrlwytho’r ffilm i’ch cyfrifiadur
Mae Cyngor Ysgolion Sul wedi paratoi cyfres o adnoddau a fydd yn galluogi Eglwysi i gyflwyno neges a llawenydd y Nadolig o fewn ein cymunedau mewn ffordd drawiadol ac effeithiol.
Yn ganolbwynt i’r cyfan mae cylchgrawn lliwgar 16 tudalen sy’n cynnwys darlleniadau Beiblaidd, erthygl yn sôn am ‘Beth yw’r Nadolig?’ gan Arfon Jones, posau, croesair, rysáit Cacen Nadolig, cerddi, gweddïau, tudalen i’r plant a nifer o erthyglau diddorol.
Cliciwch YMA i wybod mwyMaent yn ddelfrydol i’w cyflwyno i blant oed cynradd ac ar gael am y pris arbennig o 75c yr un mewn pecynnau o 10, neu 99c yr un. Gellir hefyd archebu pecynau mawr o 50 am £35 neu 100 am £50. Mae hyn yn cynnwys cost cludiant. Cysylltwch gyda Cyngor Ysgolion Sul i archebu.
Cliciwch YMA i weld sampl ac yna sgrolio i lawr i’r adran comics
Dyma’r rhai rydym yn ymwybodol ohonytnt ar hyn o bryd – cofiwch rannu gyda ni os gwyddoch am eraill.
Ffilm ddyddiol gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Bob dydd dros gyfnod yr adfent bydd neges fer drwy gyfrwng ffilm yn cael ei gyflwyno gan rywun gwahanol.
Yn ystod yr adfent mi fydd myfyrdodau, adnodau, carolau a cherddoriaeth yn cael eu rhannu gan ein cyfranwyr gyda thema’r Adfent yn amlwg.
https://www.facebook.com/annibynwyr
Mae’r prosiect ‘Bagiau Bendith’ yn syniad syml iawn sy’n gwahodd eglwysi i rannu bagiau anrhegion bach gyda chymdogion, teuluoedd, cartrefi gofal, hosteli, llochesi ac aelwydydd yn eu cymunedau lleol. Yn ogystal â bod yn anrheg, mae’r bag bach hefyd yn gyfle i atgoffa pobl o wir obaith y Nadolig.
Ar ôl blwyddyn mor heriol, byddai dosbarthu bagiau o’r fath yn gyfle i’r eglwys leol fendithio eraill gyda’r cariad, y llawenydd a’r heddwch a geir yn Iesu.
Amgaeaf yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gychwyn. Nid oes angen ichi fod yn eglwys fawr i wneud hyn, dim ond dewis cymaint o fagiau ag y credwch sy’n ymarferol ichi eu dosbarthu a meddyliwch am bwy yr hoffech eu derbyn.
Mae’r syniad hwn yn rhodd ichi gan nifer o fenywod ordeiniedig sy’n gweinidogaethu ymhlith Bedyddiedig y DU, ac sydd wedi rhannu eu syniadau am sut y gellid gwneud y mwyaf o gyfnod yr Adfent, y Nadolig a’r Ystwyll er mwyn ein heglwysi, ein teuluoedd a’n cymdogion.
Bagiau Bendith (PDF)
Byw Ben i Waered – Adnodd Adfent (PDF)
Living Upside Down (PDF)
Mae gan Gymorth Cristnogol apel Nadolig arbennig ar gyfer 2023.
Mae pob merch yn haeddu’r cyfle i godi allan o dlodi, ac yn Bangladesh mae merched ifanc yn goleuo’r daith i eraill yn eu cymunedau. Ardal Kurigram yng ngogledd Bangladesh yw un o’r ardaloedd tlotaf yn y wlad ac mae hefyd yn dioddef llifogydd difrifol. Mae bywyd yma’n heriol iawn, ac mae’r cyfleoedd i ferched hyd yn oed yn fwy heriol. Wrth edrych yn ôl mae Kakoli Khatun, 21 oed, o Kurigram yn cofio: ‘Doedd gen i ddim breuddwydion ychydig flynyddoedd yn ôl. Er mwyn gwneud unrhyw beth roedd yn rhaid i mi ofyn am arian gan fy nhad a’m brodyr.’
Heddiw, mae Kakoli yn rhannu ei hamser rhwng rhedeg busnes llewyrchus ac astudio ar gyfer ei gradd yn y coleg. Mae Kakoli wedi dod o hyd i gymuned o ferched eithriadol o ddawnus – crefftwyr ac entrepreneuriaid – sydd wedi sefydlu busnes i werthu eu cynnyrch hardd ar lein. Mae’r merched yma wedi trawsnewid eu cymuned. Gall eich rhoddion dros y Nadolig helpu merched fel Kakoli i lunio’u dyfodol disglair. Mae’r ddolen isod yn cynnwys adnoddau i’ch helpu i oleuo’r ffordd i eraill y Nadolig hwn:
Adnoddau Apel Cymorth Cristnogol 2023Maent hefyd wedi cyhoeddi carol newydd:
Cliciwch YMA i lawrlwytho ffilm o’r garol wedi ei pherfformio gan Cadi Gwyn a Meilyr GeraintAdnodd dyddiol gan Undeb Bedyddwyr Cymru ar gyfer y Nadolig.
I lawer ohonom bydd y Nadolig hwn yn ymddangos yn wahanol iawn eleni ond dyma daith drwy’r Adfent fan hyn y gallwn oll wneud gyda’n gilydd. Gyda darlleniadau a myfyrdodau i helpu, bydd yr adnodd hwn yn eich helpu i wneud y daith bwysicaf oll. Rhannwch ef gyda’ch eglwys neu dilynwch y negeseuon ar dudalen facebook UBC drwy Adfent 2020.
Cliciwch YMA i lawrlwytho ‘Taith drwy’r Adfent’ (PDF)Teuluoedd Esgobaeth Bangor Families
Chwilio am ysbrydoliaeth ar gyfer yr wythnosau nesaf? Beth am bori drwy ein Padlet?
Cliciwch YMA i weld yr adnoddauTaith gerdded yw ‘Chwilio am y Nadolig’ sy’n annog teuluoedd gyda phlant ifanc i chwilio am gliwiau yn yr ardal – posteri gyda chodau QR – er mwyn datrys cod, ac yna ddatgloi gofod rhithiol lle y gallant glywed am wir ystyr y Nadolig. Bydd y codau QR yn arwain teuluoedd at fideos sy’n cynnwys cliwiau a sialensau hwyliog i’w gwneud wrth iddynt chwilota. Ceir manylion llawn yma.
Chwilio am y Nadolig (PDF)Cliciwch YMA i beth sydd ar gael ac i’w lawrlwytho
Noder hefyd bod llawer iawn o’r rhain i’w clywed (a’i gweld) yn aml iawn ar Youtube. Gwnewch chwioliad am y garol rydych yn chwilio amdani i weld beth sydd ar gael.
Y casgliad mwyaf erioed o garolau Cymraeg, a chaneuon a gyfansoddwyd ar gyfer y Nadolig, sy’n cyfuno’r hen a’r newydd, y traddodiadol a’r cyfoes. Clywir y corau a’r carolau cyfarwydd, yn cynnwys recordiad hanesyddol Corau Ysgol Glan Clwyd, yn ogystal â chaneuon diweddar yn cael eu canu gan rai o gantorion poblogaidd heddiw, gyda dogn da hefyd o garolau Plygain di-gyfeiliant. Pecyn 5 disg a’r cyfan am £14.99!
Cliciwch YMA i archebu y casgliad CD’s o wefan SainYn ôl eu harfer mae gan Cymdeithas y Beibl adnoddau cyfoes yn gynnwys llyfrau i’w cyflwyno i blant, ffurf ar wasanaeth ar gyfer oedfa Nadolig a ffilmiau wedi eu hanimeiddio.
Mae’r gyfrol fach hwylus hon yn ffrwyth cydweithio rhwng Cymdeithas y Beibl, a Cyhoeddidau’r Gair. Cymerwyd adran stori’r Nadolig allan o gyfrol Stori’r Fwya’r Byd gan Bob Hartman, gan ei ddarlunio mewn lliw a’i animeiddio ar gyfer creu llyfryn a ffilm ‘Yr Addewid Amhosibl’. Cawn hanes y Nadolig yn cael ei adrodd yn hwyliog ac mewn arddull sy’n llawn hiwmor, a braf oedd cael Casia William i fod yn leisydd ar gyfer y ffilm Gymraeg. Er mai stori’r Nadolig yw’r brif stori, mae’r gyfrol hefyd yn mynd ymlaen i son am holl fywyd Iesu a’i bwrpas yn dod i’n byd.
Dyma dudalen olaf y llyfryn:
Ond dim ond dechrau’r hanes oedd ei eni. Mae’r Beibl yn mynd ymlaen i son amdano yn iachau’r sâl, bwydo’r newynog a chroesawu’r rhai nad oedd eraill yn eu hoffi – a hynny er mwyn dangos sut beth oedd bywyd yn nheyrnas Dduw. Mae’n cysylltu ymlaen â’i farwolaeth, lle trechodd ei aberth bŵer drygioni trwy ddileu’r cywilydd a’r euogrwydd a’r gosb am bob peth anghywir y byddai unrhyw un byth yn ei wneud. Mae’n son am ei atgyfodiad a sut y paratôdd ar gyfer ein hatgyfodiad ni. Mae’n son am ei esgyniad, a sut mae’n teyrnasu wrth ochr Duw hyd heddiw. Ac mae’n son am ddyfodiad yr Ysbryd Glân – sy’n byw y tu mewn i bawb sy’n ei ddilyn ac yn ein helpu i fyw yn ôl ei esiampl ef. Ac yn olaf mae’n son am ba mor bwysig ydy Iesu i’th fywyd di, ac i fi, ac i bob un arall yn y byd heddiw, a hyd dragwyddoldeb, pan fydd Duw yn creu nefoedd newydd a daear newydd, lle y bydd yntau yn frenin am byth!
Mae’r gyfrol ar gael a £2, ond trwy brynu cyflenwad i’w rhannu am ddim yn y gymuned mae modd archebu copïau am 50c yr un. Cysylltwch gyda aled@ysgolsul.com am fwy o wybodaeth.
Lawrlwytho ‘Yr Addewid Amhosib’ (67mb)Pam fod plant yn gwisgo i fyny mewn dramâu geni ac yn casglu o amgylch doli babi mewn mymryn o wair? Pwy oedd y babi hwnnw? Beth wnaeth e? A beth oedd pwynt hyn i gyd?
Mae’r ateb i’w gael yn y gyfrol Cerdd y Nadolig gan Cymdeithas y Beibl.
Yn y gyfrol ceir cerdd hyfryd gan Bob Hartman, sy’n ailadrodd y stori fwyaf a adroddwyd erioed mewn ffordd newydd a hudolus a fydd yn swyno plant ifanc. Mae’n stori sy’n sôn am Dduw, amdanon ni ac am bopeth yn y byd. Ceir cerdd gan Bob Hartman, wedi ei addasu i’r Gymraeg gan
Bethan Jones a lluniau lliwgar gan Honor Ayers. Mae’n ddelfrydol ar gyfer ei darllen i blant ifanc ac i deuluoedd. Mae modd gwylio ffilm o’r stori hon hefyd ar wefan cymdeithasybeibl.cymru/cerddynadolig
Mae’r gyfrol ar gael a £2, ond trwy brynu cyflenwad i’w rhannu am ddim yn y gymuned mae modd archebu copïau am 50c yr un. Cysylltwch gyda aled@ysgolsul.com am fwy o wybodaeth.
Un o rinweddau’r gerdd yw ei bod yn mynd ti hwnt i stori’r Nadolig, gan roi’r hanes mewn cyd-destun ehangach. Sylwer ar ddiweddglo’r gerdd:
Ond daeth Iesu yn ôl; yn ôl o’r bedd!
A dod at ei ffrindiau, a’u cyfarch mewn hedd,
‘Adroddwch fy stori wrth bawb yn y byd
Fy mod i am faddau eu drygioni i gyd
A’ch gosod yn rhydd i fyw fel gwnes i
I garu eich ffrindiau – a’ch gelynion chi.’
Dyna pam y daeth Dolig – croesawn y dydd –
Y canu, y twrci, y ddrama a’r ffydd,
Wrth wisgo angylion a chael ambell degan
Nid oherwydd y baban bach diddan
Ond y dyn a dyfodd a rhoi i ni’r ateb
Sy’n newid bywydau a lladd hen gasineb,
I fyw a charu – dyna gynllun Duw i ni
A throi’r hyn sy’n gas yn arwydd o ras
A throi’r hyn sy’n gas … yn arwydd o ras!
Drama Nadolig Sydyn
Ydych chi’n chwilio am fersiwn hwyliog a rhyngweithiol o stori’r Geni, sydd ddim angen ei ymarfer cyn ei pherfformio yn eich eglwys? Peidiwch ag edrych ymhellach! Mae na ddrama yma i chi ei lawrlwytho. Yn addasiad gan Bob Hartman o’r llyfryn plant, bydd pawb o bob oed yn mwynhau’r sgript egnïol hon mewn gwasanaeth Nadolig. Lawrlwythwch y cyflwyniad Pwynt Pŵer sy’n cynnwys lluniau cefndirol i gyd-fynd â’r sgript. Rydym hefyd wedi creu fersiwn gyfeillgar ar-lein, felly hyd yn oes os na allwch fod gyda’ch gilydd yn yr eglwys gall bobl dal wisgo fel cymeriadau o stori’r Geni a pherfformio’r sgript gyda’i gilydd ar-lein.