Y Piwritaniaid

<<< Yn ôl i Y Diwygiad Protestannaidd | Ymlaen i Y Diwygiad Efengylaidd >>>

Y cyntaf o Biwritaniaid amlwg Cymru oedd John Penry (1563?–1593). Yr hyn a roes arbenigrwydd ar ei waith oedd ei bryder angerddol tros gyflwr ysbrydol Cymru. Roedd yn llym iawn ar yr egsobion am beidio ag ymegnïo i sicrhau digonedd o bregethwyr Cymraeg yng Nghymru gan mai felly’n unig y gellid symud ofergoeliaeth a’r anwybodaeth am bethau’r Efengyl a oedd yn peryglu eneidiau miloedd o’r Cymry.

Daeth William Wroth (1576–1641) yn brif arloeswr Piwritaniaeth ar dir Cymru. Buasai Wroth yn rheithor Llanfaches, Gwent, am flynyddoedd cyn ei dröedigaeth ac ar ôl hynny daeth yn bregethwr dylanwadol, a phobl yn dod o bell i’w wrando. Gwysiwyd ef o flaen yr Uchel Gomisiwn, y corff oedd yn arolygu ymddygiad yn yr Eglwys, ym 1635. Ymddengys iddo ymostwng i’r Llys ym 1638. Yr oedd eraill mewn trybini cyffelyb. Yr oedd William Erbury (1604–54) yn ficer Eglwys Fair, Caerdydd, a Walter Cradoc (1610?–59) yn gurad iddo. Daeth y ddau o dan sylw’r Archesgob William Laud am eu pregethu piwitanaidd a chollodd Cradoc ei drwydded a chilio i Wrecsam, lle cafodd ddylanwad eang a gorfod ffoi oherwydd y gwrthwynebiad i’w Biwritaniaeth. Yr oedd eraill hefyd wedi mabwysiadu’r un egwyddorion, dynion fel Morgan Llwyd (1619–59), John Miles (1621–83) ac Vavasor Powell (1617–70. Ffrwyth y gweithgarwch hwn oedd sefydlu’r eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru ym 1639 a hynny yn Llanfaches, o dan adain William Wroth gyda Walter Cradoc yn weinidog cyntaf iddi.

Ym mis Awst 1642 dechreuodd y Rhyfel Cartref rhwng y brenin, Siarl I, a’i senedd. Brenhinwyr tanbaid oedd pobl Cymru a bu’n rhaid i bobl Llanfaches ffoi, yn gyntaf i Fryste ac wedyn i Lundain, gyda Cradoc yn gweinidogaethu iddynt. Gwŷr ar grwydr oedd arweinwyr Piwritaniaeth Cymru yn ystod y rhyfel.

Gyda goruchafiaeth Oliver Cromwell cafwyd cefnogaeth y llywodraeth i sefydlu cynllun uchelgeisiol i drefnu pregethu trwy’r wlad. Pasiwyd Deddf Taenu’r Efengyl yng Nghymru yn Chwefror 1650. Gosodwyd holl adnoddau’r Eglwys yng Nghymru o dan awdurdod comisiwn cryf o 70 o flaenwyr y Piwritaniaid.

Gwŷr ar dân ac ar frys oedd y Piwritaniaid. Yr oeddent ar frys oherwydd y teimlad cryf yn eu plith fod hanes yn cyrraedd uchafbwynt dramatig ac, o bosibl, yn nesu at ei ddiwedd gydag Ailddyfodiad Crist. Ac hyd yn oed os nad oeddent yn rhannu’r argyhoeddiad hwn, yr oeddent yn unfarn fod bywyd yn fyr a miloedd yn wynebu colledigaeth oni phregethid yr Efengyl iddynt ar fyrder. Iddynt hwy pregethu oedd allwedd iachawdwriaeth.

Ceir amrywiadau diddorol yn athrawiaeth Piwritaniaid Cymru. Gwyrai Morgan Llwyd oddi wrth y safbwynt Calfinaidd, gan gadw llawer o’i athrawiaethau nodweddiadol a chanolbwyntio yr un pryd ar waith Duw yn y galon a gwefr y profiad Cristionogol. Y cyntaf o Grynwyr Cymru oedd John ap John (1625?–97). Perthynai ar y cychwyn i gynulleidfa Morgan Llwyd yn Wrecsam ond yng Nghorffennaf 1653 anfonodd Llwyd ef i weld George Fox, arweinydd y Crynwyr, i gael rhagor o wybodaeth am ei olygiadau. Argyhoeddwyd John ap John gan Fox, cefnodd ar yr Annibynwyr a throi’n lladmerydd egnïol i’r Crynwyr. Teithiodd tros rannau helaeth o Gymru gan ennill cefnogwyr. Bu ymweliad George Fox ei hunan â Chymru ym 1657 yn hwb i’r mudiad.

Gyda marw Oliver Cromwell ar 3 Medi 1658 dechreuodd y mudiad Piwritanaidd ymddatod fel grym gwleidyddol. Pasiwyd Deddf Unffurfiaeth newydd ym Mai 1662. Y Llyfr Gweddi Gyffredin oedd y safon bellach. Felly dyma ysgubo’r Piwritaniaid olaf o’r Eglwys. O hyn allan cyfarfodydd anghyfreithlon fyddai rhai’r Annibynwyr, y Bedyddwyr, y Presbyteriaid a’r Crynwyr. Yn ddiweddarach pasiwyd cyfres o ddeddfau i wahardd eu cyfarfodydd ac i ysgaru’r gweinidogion oddi wrth eu cynulleidfaoedd. Dyma felly dechrau Ymneilltuaeth fodern yng ngwir ystyr y gair.

<<< Yn ôl i Y Diwygiad Protestannaidd | Ymlaen i Y Diwygiad Efengylaidd >>>