Y Diwygiad Protestannaidd

<<< Yn ôl i Penllanw'r Oesoedd Canol | Ymlaen i Y Piwritaniaid >>>

Erbyn tua 1530 yr oedd yr Eglwys Gatholig yng Nghymru yn llesgau. Aeth ei gofynion ariannol yn faich llethol, ac yr oedd bywyd moethus prif swyddogion yr Eglwys yn cyferbynnu’n llwyr â thlodi’r offeiriaid plwyf. Yr oedd llawer o’r rheini’n ddiaddysg ac anwybodus, a’r gwaith bugeiliol ac addysgol yn dioddef yn enbyd o’r herwydd. Dirywiodd yr addoli’n ddefodaeth fecanyddol. Gwir fod eithriadau, gwŷr goleuedig ac ymroddgar, ond prin oeddent a bychan oedd eu dylanwad. Ymhlith mwyafrif y werin bobl dirywiodd Cristionogaeth i fod yn gylch o ddefodau’n porthi ofergoeliaeth gydag anwybodaeth gyffredinol am gynnwys y Beibl ac arwyddocâd ei athrawiaethau sylfaenol. Mewn gair, yr oedd angen dybryd am ddeffroad ysbrydol mawr. A dyna’n union beth oedd y Diwygiad Protestannaidd.

Unwyd Cymru â Lloegr trwy’r Deddfau Uno a basiwyd ym 1536 a 1542. O ganlyniad yr oedd y cyfnewidiadau cyfreithiol a wnaethpwyd o dan Harri VIII yn effeithio ar Gymru. Mynnodd Harri dorri’r cysylltiad â Rhufain a datgan nad y Pab bellach oedd “prif Ben yr Eglwys” ond y brenin.

Yr arwydd cyntaf a gafodd pobl Cymru fod newid mawr ar ddigwydd oedd diflaniad y mynachlogydd. Er bod ambell fynachlog wedi llwyddo i ymestyn ei hoes am ychydig amser, yr oedd y cwbl ohonynt wedi eu diddymu erbyn 1539.

Daeth Edward VI i’r orsedd gyda marw Harri VIII, ei dad, ar 28 Ionawr 1547. Cytunir bellach mai yn ystod teyrnasiad Edward y cyrhaeddodd Protestaniaeth y wlad yn ei grym. Nid nad oedd llu o unigolion, yn ogystal â mudiadau fel Lolardiaeth a’r Ailfedyddwyr wedi bod yn gweithio tros Brotestaniaeth yng nghyfnod Harri VIII.

Ond os gallai’r llywodraeth lunio dyfodol gwahanol i’r Eglwys, gallai hefyd droi’r cloc yn ei ôl. Gyda marw’r brenin Edward VI ar 6 Gorffennaf 1553, daeth Mari, ei hanner chwaer, i’r orsedd. Yr oedd yn gas gan Mari bopeth cysylltiedig â Phrotestaniaeth. Adferwyd y deyrnas i ufudd-dod Rhufain ac ail-ddatganwyd y deddfau yn erbyn heresi. Yn Chwefror 1555 dechreuwyd llosgi Protestaniaid. Cafwyd tri merthyr yng Nghymru. Yr enwocaf ohonynt oedd Robert Ferrar, cyn-esgob Tyddewi.

Yn ystod cyfnod Harri VIII ac Edward VI ni wnaeth y llywodraeth unrhyw ymgais i baratoi fersiynau o’r Llyfr Gweddi mewn ieithoedd heblaw Saesneg nac ychwaith i sicrhau Beibl Cymraeg. Byddai pob gwasanaeth trwy Gymru yn awr yn Saesneg yn lle Lladin a byddai’r Eglwys yn cael ei harneisio wrth y polisi “un genedl” a ysbrydolodd y Ddeddf Uno. Y peth sy’n arbennig o gwmpas y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru yw fod cylch o ddynion, a’u gwreiddiau yn Nyffryn Clwyd a Dyffryn Conwy, wedi sylweddoli’r perygl a bwrw ati i’w symud.

Yr arloeswr oedd William Salesbury (1520?–1594?), mab Cae-du, Llansannan. Cafodd ei addysg yn Rhydychen ac Ysbytai’r Frawdlys yn Llundain. Cyfunai ynddo’i hun y diwylliant clasurol Cymraeg, addysg orau’r oes a gwefr y Dadeni Dysg. Pan oedd yn fyfyriwr cafodd dröedigaeth a’i taniodd â’r argyhoeddiad fod angen Beibl Cymraeg i sicrhau pregethu goleuedig. Meddai wrth y Cymry, “Mynnwch ddysg yn eich iaith” a “mynnwch yr Ysgrythur Lân yn eich iaith”. A dyma’r ysgogiad i gyhoeddi Kynniver llith a ban (1551). Ynddo ceir cyfieithiad o 183 o lithiau’r Llyfr Gweddi Gyffredin. Yn fwy na dim, yr oedd wedi gwneud yr ymdrech Brotestannaidd gyntaf i gyfieithu rhannau o’r Beibl i’r Gymraeg.

Yn Ebrill 1563 llwyddodd ei gyfeillion, yr Esgob Richard Davies a Humphrey Llwyd o Ddinbych, i gael gan ddau Dŷ’r Senedd basio Deddf Cyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’r Gymraeg. Ffrwyth hyn oedd cyhoeddi’r Lliver gweddi gyffredin ym 1567 a’r Testament Newydd Cymraeg yn Hydref 1567, gwaith Richard Davies, Thomas Huet a Salesbury. Yna, ym Medi 1588, cyhoeddwyd Y Beibl Cyssegr-lan o waith William Morgan (1545–1604), ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar y pryd. Yr oedd yn uchafbwynt gorchestol i waith y cwmni bach brwd a fynnai roi inni Feibl Cymraeg.

<<< Yn ôl i Penllanw'r Oesoedd Canol | Ymlaen i Y Piwritaniaid >>>