<<< Yn ôl i Oes y Seintiau | Ymlaen i Y Diwigiad Protestannaidd >>>
Yn niwedd yr unfed ganrif ar ddeg cyrhaeddodd y Normaniaid gyda’u creulondeb, eu rhaib a’u duwioldeb. Nid oeddent yn deall y traddodiad eglwysig Cymreig ac felly rhaid oedd diwygio’r Eglwys er mwyn iddi gydymffurfio â phatrymau’r Cyfandir. Ac wrth ddiwygio yr oeddent yn distrywio.
Mynegai’r Normaniaid eu duwioldeb trwy godi mynachdai newydd. Nid oedd yr hen fynachaeth Gymreig wedi llwyr ddarfod amdani, ond buan y disodlwyd hi gan urddau newydd. Roedd yn hoff gan y Normaniaid noddi’r urddau yr oeddent yn gyfarwydd â hwy ar y Cyfandir, ac yr oedd mwyafrif y tai newydd yn gelloedd neu ganghennau o dai Ffrengig. Felly sefydlwyd 19 o dai Benedictaidd yn ne Cymru a dau yn y Gogledd.
Gyda dyfodiad y Sistersiaid y dechreuodd y Cymry gynhesu at y fynachaeth Normanaidd. Gwir mai Normanaidd hollol oedd y tŷ cyntaf i’w sefydlu, sef Tyndyrn (Tintern) a godwyd gan Walter fitz Richard, Arglwydd Cas-Gwent, ym 1131. Ond bu newid gyda sefydlu cangen o abaty enwog Clairvaux yn Trefgarn Fach ym Mhenfro gan Bernard, Esgob Tyddewi, ym 1140. Mudodd y mynachod hyn i Hendy-gwyn ym 1151 ac oddi yno lledodd canghennau i’r ardaloedd a oedd o dan nawdd y tywysogion. Sefydlwyd Ystrad Fflur ym 1164 a daeth yr abaty hwnnw a Hendy-gwyn o dan nawdd Rhys ap Gruffydd (Yr Arglwydd Rhys, 1132–97). Dyma’n awr ddechrau denu Cymry i gofleidio’r bywyd mynachaidd.
Archddiacon enwog o’r cyfnod oedd Gerallt Gymro (1146?–1223). Trwy ei waith llenyddol, down i wybod llawer am ei bersonoliaeth, ei ddiddordebau a bywyd crefyddol Cymru ar y pryd. Uchelgais mawr Gerallt Gymro oedd cael bod yn esgob Tyddewi. Er ei enwebu i’r swydd ym 1176 a 1198, ni chafodd ei ethol. Safodd y Goron a Chaer-gaint yn gadarn yn ei erbyn. Nid rhyfedd hynny. Yr oedd rhywbeth mwy nag uchelgais bersonol yn ei gorddi. Bu’n feirniadol o’r esgobion Seisnig a etholwyd i esgobaethau Cymru. Breuddwyd Gerallt oedd gweld yr Eglwys Gatholig yng Nghymru’n cael ei harchesgob ei hun ac felly’n cael rhyddid oddi wrth iau Caer-gaint.
<<< Yn ôl i Oes y Seintiau | Ymlaen i Y Diwigiad Protestannaidd >>>