<<< Yn ôl i Y Piwritaniaid | Ymlaen i Medi Cynhaeaf y Diwygiad >>>
Mewn llawer ffordd, gellir ystyried cyfnod y Diwygiad Efengylaidd fel yr amser pan welwyd yr had a heuwyd gan y Piwritaniaid yn egino, yn tyfu ac yn aeddfedu i’r cynhaeaf. Blaenffrwyth y Diwygiad Efengylaidd oedd Howel Harris (1714-73). Ym 1735, rhwng y Pasg a’r Sulgwyn, aeth trwy argyfwng ysbrydol mawr a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn ei dröedigaeth. Meddiannwyd ef gan awydd angerddol i rannu ei fywyd newydd ag eraill a dechreuodd fynd o dŷ i dŷ yng nghymdogaeth ei gartref i “gynghori”, hynny yw, i’w goleuo am eu cyflwr a’u hangen am iachawdwriaeth. O’r gweithgarwch hwn y tyfodd ei seiadau. Lledodd ei ddylanwad a lluosogodd y seiadau.
Digwyddodd rhywbeth tebyg yn sir Aberteifi. 1735 oedd y flwyddyn pan gafodd Daniel Rowland (1713-90) dröedigaeth hefyd wrth wrando ar Griffith Jones, Llanddowror, yn pregethu. O ganlyniad i’w dröedigaeth, trawsnewidiwyd ei bregethu. Parodd gryn gyffro trwy ei lymder yn lachio pechodau ei wrandawyr. Cafodd gyngor gan Phylip Pugh (1679–1760), gweinidog Annibynwyr Cilgwyn a’r cylch, i bwysleisio gras yn ogystal â’r ddeddf. Dilynodd y cyngor a dechreuodd ei yrfa fel un o bregethwyr mwyaf grymus ac atyniadol ei genhedlaeth. Er mwyn cynorthwyo ei blwyfolion yn eu tyfiant ysbrydol, dechreuodd gynnal cyfarfodydd defosiynol yn Llangeitho a dyma ail wreiddyn y seiadau. Buan y daeth Llangeitho’n ganolfan i bererinion o bob rhan o Gymru, pobl a’i cyfrifai hi’n fraint cael clywed Rowland yn pregethu ac yn gweinyddu’r Cymun.
Y trydydd ffigwr pwysig yn y cyfnod oedd William Williams (1717-91), Pantycelyn. Pan oedd yn fyfyriwr clywodd Harris yn pregethu ym mynwent eglwys Talgarth ac yn y fynwent honno y cafodd dröedigaeth – “gwŷs oddi uchod”, chwedl yntau. Cafodd ei ordeinio yn ddiacon ym 1740, ond oherwydd ei Fethodistiaeth, gwrthododd yr esgob ei ordeinio’n offeiriad ac ni ddaliodd Williams swydd eglwysig wedyn. Ymfwriodd i’r mudiad Methodistaidd a dod gyda Rowland a Harris yn un o’i brif arweinyddion. Ond yn fwy na dim yn ei lyfrau a’i emynau ef, yn anad unman arall, y gallwn ni ymglywed heddiw â naws ac ysbryd y Diwygiad Efengylaidd.
I Harris a Rowland, mudiad Anglicanaidd oedd Methodistiaeth. Ond ni fynnai’r esgobion roi sêl eu bendith arno a thrwy hynny collasant y cyfle i roi eu ffurf gymeradwy eu hunain arno. O ganlyniad datblygodd yn ôl dymuniad ei arweinwyr.
Pwyslais mwyaf nodweddiadol y cyfnod oedd fod yn rhaid profi’n bersonol waith yr Ysbryd Glân yn y galon. Yr Ysbryd, fe gredai’r Diwygwyr, sy’n cymhwyso gwaith achubol Crist at bersonoliaeth dyn. Felly, fe gawn Williams yn mynnu (fel Morgan Llwyd o’i flaen) nad digon crefydd pen neu grefydd weddus. Williams oedd y diwethaf i ddirmygu’r athrawiaeth ond Crist yn y galon sy’n goleuo’r deall ac yn trawsnewid bywyd dyn a’i wneud yn etifedd iachawdwriaeth. A diben y seiadau, fel yr esboniodd Williams yn Drws y Society Profiad, oedd diogelu, amddiffyn, grymuso a chyfoethogi ysbrydoledd y dychweledigion. Ac o’r profiad hwn, o’r uno ysbrydol â Christ, yr oedd gorfoledd ac egni’n tarddu. Yma yr oedd cyfrinach gwefr y Diwygiad.
<<< Yn ôl i Y Piwritaniaid | Ymlaen i Medi Cynhaeaf y Diwygiad >>>