<<< Yn ôl i Y Diwygiad Efengylaidd | Ymlaen i O Ddiwygiad i Ddiwygiad >>>
Erbyn tua 1775 yr oedd dylanwad y Diwygiad Efengylaidd yn dechrau effeithio’n drwm ar yr eglwysi Ymneilltuol. O safbwynt ystadegaeth a dylanwad, y datblygiad mwyaf arwyddocaol oedd gwaith y Methodistiaid Calfinaidd yn torri’r cysylltiad olaf â’r Eglwys Sefydledig. Digwyddodd hynny pan ordeiniwyd naw pregethwr o’r Gogledd yn Y Bala, 19–20 Mehefin 1811, a thri ar ddeg o’r De yn Llandeilo ar 7–8 Awst 1811.
Yr oedd y cyfnod hwn yn nodedig am ei bregethu. Gellid llunio rhestr faith o bregethwyr grymus ond y mae enwau rhai’n amlycach na’i gilydd. Cynrychiolai David Davies (1763–1816) benllanw’r dylanwad Methodistaidd ar bregethu’r Annibynwyr, tra oedd William Williams o’r Wern (1781–1840), gyda’i arddull dawel ond gyfareddol, yn cynrychioli traddodiad hŷn. Yn Christmas Evans (1766–1838), hedegog ei ddychymyg, gwelir fel yr oedd egni dramatig y pregethu Efengylaidd yn treiddio i bulpud y Bedyddwyr. Cyrhaeddodd huodledd y Methodistiaid uchafbwynt newydd ym mhregethu Robert Roberts (1762–1802), Clynnog, John Elias (1774–1841), John Jones (1761–1822), Edern ac Ebenezer Morris (1769–1825), Tŵr-gwyn. Gwyddai’r gwŷr hyn beth oedd pregethu i dyrfaoedd enfawr a dengys hynny un o nodweddion amlycaf eu dawn – eu gallu i gyfareddu gwerin gymharol ddiaddysg a hynny heb lastwreiddio na darostwng urddas y genadwri.
Erbyn hyn yr oedd y drefniadaeth enwadol, sydd mewn bodolaeth o hyd, yn cael ei chadarnhau. Ymddangosodd sefydliadau eraill hefyd. Y mwyaf dylanwadol ohonynt oedd yr Ysgol Sul. Dechreuodd hi o gwmpas 1785 ac ennill cefnogaeth frwd y Methodistiaid. Araf ar y cyntaf oedd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr i’w chofleidio ond ni fuont yn hir cyn sylweddoli ei mantais fel cyfrwng addysg. Lledodd tros Gymru a dod yn hynod boblogaidd.
Un o ganlyniadau’r Diwygiad Efengylaidd a’i bwyslais ar y Beibl, yn ogystal â chynnydd yr Ysgol Sul, oedd creu miloedd o ddarllenwyr newydd. Yr oedd angen mawr paratoi defnyddiau ar eu cyfer.
Thomas Charles oedd prif arweinydd y Methodistiaid erbyn hyn, cafodd dröedigaeth wrth wrando ar Daniel Rowland yn pregethu. Ar wahân i’w waith fel pregethwr, arweinydd y Methodistiaid, trefnydd Ysgolion Sul, hyrwyddwr Cymdeithas y Beibl a golygydd ei hargraffiad o’r Beibl, yr oedd yn awdur prysur. Os oedd pobl i ddarllen eu Beiblau’n ddeallus yr oedd angen arweiniad arnynt. Dyma a’i cymhellodd i gyhoeddi’r Geiriadur Ysgrythurol. Ymddangosodd y rhan gyntaf ym 1805 a’r rhan olaf ym 1811. Ynddo gwelir yn eglur hyd a lled ysgolheictod cyfoethog yr awdur yn ogystal â’i allu i ysgrifennu’n glir a diddorol.
Blynyddoedd caled i dlodion oedd rhain ac ni allai’r arweinwyr crefyddol lai na chydymdeimlo â’u haelodau a cheisio gwell amgylchiadau iddynt. Yr oedd rhai Cymry wedi dangos cydymdeimlad ag egwyddorion y Chwyldro Ffrengig – dynion fel Richard Price (1723–91). Ond ym mlynyddoedd argyfyngus y rhyfel cyngor arweinwyr yr eglwysi i gyd oedd bod yn llonydd. Gyda chyhoeddi Seren Gomer gan Joseph Harris (1773–1825) yn 1814, gwelwn ddechrau’r newid. Daw’r ysbryd rhyddfrydig yn amlycach gyda threiglad amser yng ngwaith Caledfryn (William Williams, 1801–69), Roger Edwards (1811–86), David Rees (1801–69) a’u tebyg ac erbyn canol y ganrif yr oedd yr eglwysi Ymneilltuol yn barod i gofleidio’r radicaliaeth honno y daethpwyd i’w galw’n Rhyddfrydiaeth.
<<< Yn ôl i Y Diwygiad Efengylaidd | Ymlaen i O Ddiwygiad i Ddiwygiad >>>