<<< Yn ôl i Medi Cynhaeaf y Diwygiad | Ymlaen i Her yr Hydref 1945-1990 >>>
Un o nodweddion ail hanner oes Victoria yng Nghymru oedd cymryd yn ganiataol fod deffroadau ysbrydol cynhyrfus yn rhan naturiol o’r profiad Cristionogol. Ni ellir gwneud cyfiawnder â hanes Cristionogaeth yng Nghymru fodern heb gymryd hyn i ystyriaeth.
Yn ystod Diwygiad 1859 digwyddodd Etholiad Cyffredinol. Dyma pryd y dechreuodd yr ymyriad Ymneilltuol yn y brwydrau seneddol. Ym Meirion etholwyd W. W. E. Wynne, Peniarth, ond cosbwyd 19 o denantiaid stad Rhiwlas am wrthod pleidleisio iddo. Cawsant eu troi o’u ffermydd. Pan ddaeth Etholiad Cyffredinol 1868 anfonodd Cymru 21 o Ryddfrydwyr a dim ond 12 Tori i’r Senedd. Ymhlith y Rhydfrydwyr yr oedd Henry Richard (1812–88), y lladmerydd effeithiol cyntaf yn y Senedd tros iawnderau Ymneilltuol a materion Cymreig, yn ogystal â heddwch cydwladol. A chafodd Ymneilltuaeth lais gwleidyddol yn y wasg pan sefydlodd Thomas Gee (1815–98) Y Faner ym 1857 a’i chyfuno â’r Amserau ym 1859. O hyn ymlaen daeth Ymneilltuwyr i deimlo mai dim ond ymgyrchu gwleidyddol a allai sicrhau iddynt eu hiawnderau. A’r cyfrwng oedd y Blaid Ryddfrydol.
Un o’r pethau mwyaf trawiadol yn Oes Victoria oedd cynnydd yr ymwybod ymhlith y Cymry eu bod yn genedl, ymwybod a oedd wedi marweiddio o dan ganrifoedd o lywodraeth estron. Ganol y ganrif rhoddwyd ffurf fwy pendant arno trwy waith pobl fel Gwilym Hiraethog, Ieuan Gwynedd a Chymdeithas Clerigwyr Cymraeg Sir Gaerefrog. Bu Michael D. Jones (1822–98) a’i ymdrech i sefydlu Gwladfa Gymreig yn yr Ariannin, heb sôn am ei ysgrifennu diorffwys am flynyddoedd ar ôl hynny, yn foddion i gyfoethogi syniad y Cymry am oblygiadau eu cenedligrwydd. A thrwy’r wyth-degau grymusai’r ymwybod a chyfoethogwyd ef ymhellach gan waith gwŷr fel Emrys ap Iwan (1851–1906).
Rhwng 1850 a 1900 bu arweinwyr meddwl Cymru’n ymdrechu’n galed i ddod i delerau â syniadau newydd a oedd yn corddi diwinyddiaeth Ewrob. Gwnaeth Lewis Edwards (1809–87) gyfraniad sylweddol yn hyn o beth. Daliai gafael Calfinyddiaeth yn gryf ar yr eglwysi ond yr oedd Arminyddiaeth y Wesleyaid yn ennill tir ac o 1870 ymlaen yn prysur ddisodli Calfinyddiaeth. Yn yr Eglwys yng Nghymru yr oedd yr hen safbwynt Efengylaidd yn ildio i ddylanwad Mudiad Rhydychen. Ond yr oedd amheuon ar gynnydd hefyd. Rhwng popeth yr oedd pobl yn codi cwestiynau miniog ynglŷn â phethau sylfaenol Cristionogaeth erbyn troad y ganrif.
Dechreuodd diwygiad crefyddol yn ne Sir Abertiefi yn Ionawr 1904 ac yn yr haf cafwyd cynyrfiadau tebyg yn Rhosllannerchrugog. Yn yr hydref lledodd y diwygiad gyda grym anghyffredin trwy gymoedd y De ac erbyn y gwanwyn, 1905 ysgubodd trwy’r Gogledd ac hyd yn oed i Lerpwl. Er bod sylw mawr wedi ei roi i Evan Roberts (1878–1951), un o nodweddion y diwygiad hwn oedd cynhyrchu llawer o arweinyddion lleol, pobl fel Joseph Jenkins, R. B. Jones, Nantlais Williams, D. M. Phillips ac eraill. Yr oedd yn ddiwygiad hynod gynhyrfus a theimladol, yn cyffwrdd â phob dosbarth o bobl, yn rhoi lle blaenllaw i ferched ac yn gyfrifol am argyhoeddi llu mawr o bobl a ddaeth yn ddiweddarach yn golofnau yn yr eglwysi. Tawelodd yn ystod haf 1905 ond daliodd y tân gynnau mewn rhai mannau tan haf 1906.
<<< Yn ôl i Medi Cynhaeaf y Diwygiad | Ymlaen i Her yr Hydref 1945-1990 >>>