<<< Yn ôl i O Ddiwygiad i Ddiwygiad | Ymlaen i Efengylu ac Eciwmeniaeth 1990- >>>
Ym 1956 ffurfiwyd Cyngor Eglwysi Cymru. Cyn hyn, ym 1954, cynigiodd Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru gynnal trafodaeth gydag unrhyw enwad a oedd â diddordeb mewn ffurfio eglwys unedig. O’r gwahoddiad hwn y tarddodd Pwyllgor y Pedwar Enwad, yn cynnwys yr Annibynwyr, y Bedyddwyr, yr Eglwys Bresbyteraidd a’r Eglwys Fethodistaidd. Ym 1961 cyhoeddodd y Pwyllgor, Paratoi’r Ffordd ac fe’i dilynwyd gan Tuag at Uno ym 1963. Yna ym 1965 daeth ei adroddiad llawn yn Y Cynllun Uno. Bu trafod brwd arno ond methwyd â chael yr enwadau i gytuno i weithredu’r cynllun.
Yn gyffredinol yr oedd y lleihad cyson yn aelodaeth yr eglwysi’n gorfodi sylw ar yr angen am efengylu. Bu cytundeb cyffredinol ymhlith yr arweinwyr mai un gwendid yw tlodi ysbrydoledd yr eglwysi. Mewn llawer eglwys diddymwyd y cyfarfod gweddi ac y mae tystiolaeth mai ychydig sy’n darllen y Beibl yn gyson. Un o’r cymhellion tros alw am ailgyfieithu’r Beibl oedd fod angen ei gyflwyno mewn idiom gyfoes. Cyhoeddwyd y Testament Newydd ym 1975, y Salmau ym 1979, a’u cynnwys yn y Beibl cyfan a gyhoeddwyd ym 1988. Bu gwerth mawr i’r cyfieithiad newydd a gwneir defnydd helaeth ohono yn yr eglwysi, mewn ysgolion a cholegau.
Yn y cyfnod rhwng 1945 a 1990 lleihaodd nifer y bobl sy’n aelodau eglwysig yn sylweddol. Yn sgîl hyn collodd yr enwadau’r dylanwad a fu ganddynt ym mywyd y genedl. Mae’r cilio i’w weld hyd yn oed y tu mewn i’r eglwysi gan nad oes ond rhyw un o bob tri o’r aelodau’n mynychu’r oedfeuon.
Ond un peth diddorol am y maes crefyddol yng Nghymru rhwng 1945 a 1990 yw bywiogrwydd y drafodaeth ddiwinyddol. At ei gilydd ar ddiwedd y rhyfel, Rhyddfrydiaeth oedd hoff safbwynt y diwinyddion er eu bod yn amrywio yn eu pwyslais. Dyma oedd osgo O. R. Davies, Tom Ellis Jones, G. Wynne Griffith a W. T. Gruffydd. Parhaodd rhai i lynu wrth y safbwynt, meddylwyr fel Pennar Davies, Iorwerth Jones, R. H. Evans, D. R. Thomas a Hywel D. Lewis. Gyda J. R. Jones, Abertawe, cafwyd ffurf ar Radicaliaeth Ddiwinyddol a oedd yn ddyledus i Paul Tillich a Dietrich Bonhoeffer.
Symudodd eraill at safbwynt a oedd yn fwy cyson â’r Ddiwinyddiaeth Feiblaidd a ddechreuodd flodeuo yn yr Almaen rhwng y ddau ryfel, gwŷr fel Gwilym Bowyer, Bleddyn Jones Roberts, W. B. Griffiths a Trebor Lloyd Evans. Ym 1947 sefydlwyd Mudiad Efengylaidd Cymru, a bwysleisiai argyhoeddiadau uniongrededd Brotestannaidd, ac yn ystod y blynyddoedd cynyddodd ei ddylanwad. Yr oedd Rheinallt Nantlais Williams (1911–1993) yn cynrychioli’r pwyslais hwn, fel y gwna ei fab, Stephen. Yr un argyhoeddiad a geir yng ngwaith ysgrifenwyr fel Emyr Roberts (1915–1988), J. Elwyn Davies (1925–2007), R. M. (Bobi) Jones (1929–2017), R. Geraint Gruffydd (1928–2015) a Noel Gibbard (1932– ). Ac y mae’r safbwynt Efengylaidd, fel y’i gelwir, wedi grymuso ymhlith gweinidogion ifainc o bob enwad, heb eithrio’r Eglwys yng Nghymru, er bod y traddodiad Eingl-Gatholig yn dal yn gryf ynddi hi.
<<< Yn ôl i O Ddiwygiad i Ddiwygiad | Ymlaen i Efengylu ac Eciwmeniaeth 1990- >>>