Efengylu ac Eciwmeniaeth 1990–2017

<<< Yn ôl i Her yr Hydref 1945-1990 | Yn ôl i ddechrau’r stori >>>

Erbyn gwawrio’r mileniwm newydd cafwyd un ymdrech arall tuag at uno’r enwadau ymneilltuol. Ers 1995 bu cynrychiolwyr yr enwadau ymneilltuol yn cyfarfod i lunio dogfen a fyddai’n sail i drafodaeth. Cyhoeddwyd y ddogfen, Y Ffordd Ymlaen yn 2000. Hanfod y cynllun oedd cyfuno annibyniaeth yr eglwys leol gyda strwythur canolog ar gyfer talu cyflogau gweinidogion. Methiant fu’r ymgais oherwydd amrywiaeth o resymau. I rai, roedd y cynllun yn rhoi gormod o annibyniaeth i’r eglwysi lleol ond roedd eraill yn ddrwgdybus o ymyrraeth strwythur canolog. Ond yn y bôn, methodd y cynllun oherwydd problemau mwy ymarferol. Yn bennaf yn eu plith, oedd bod llawer wedi sylweddoli y byddai’n rhaid cau peth wmbredd o eglwysi mewn trefi a phentrefi er mwyn cyrraedd y nod, ac yn ychwanegol at hynny, byddai goblygiadau ariannol ychwanegu nifer sylweddol o weinidogion cyflogedig i’r corff canolog wedi bod ddigon i suddo’r eglwys unedig newydd i fethdaliad cyn iddi ddechrau ar ei gwaith. Erbyn Ebrill 2001 roedd eglwysi’r Annibynwyr wedi pleidleisio bron 2:1 yn erbyn y cynllun; yr oedd y Presbyteriaid yn rhanedig eu barn a’r Wesleaid yn llawn amheuon, ac ni fwriodd y Bedyddwyr bleidlais o gwbl.

Erbyn 2002/3 yr oedd holl argraffiadau y Beibl Cymraeg Newydd bron a gwerthu yn gyfan gwbl a thrwy ddyfal bwyso o gyfeiriad y Cydbwyllgor a Gweithgor yr Eglwysi Efengylaidd, penderfynwyd mynd ati i gyhoeddi argraffiad diwygedig o’r Beibl. Cyhoeddwyd yr argraffiad diwygedig o’r Beibl Cymraeg Newydd y Sadwrn olaf o Chwefror 2004 mewn gwasanaeth arbennig yn Seion, Aberystwyth. Cafodd y cyfieithiad diwygedig groeso cyffredinol ac unwaith eto gwerthwyd llawer iawn mwy nag a ragdybiwyd.

Ond parhaodd y galw, fodd bynnag, am gyfieithiad o’r Beibl i Gymraeg agosach at iaith bob dydd pobl ifanc. Yr oedd cyfieithiad o’r fath ar gael ar y we o dan yr enw beibl.net. Yr oedd hwn yn ffrwyth llafur chwarter canrif i Arfon Jones, oedd yn gweithio i’r elusen Gobaith i Gymru a gafodd ei sefydlu’n rhannol dan anogaeth Dr Dewi Arwel Hughes (1947–2017), diwinydd ac awdur Cymreig a oedd ar y pryd yn gweithio fel diwinydd preswyl i’r elusen Tearfund. Yn wreiddiol, dim ond ar y we y bwriadawyd i’r cyfieithiad ymddangos, ond wedi cryn bwyso o wahanol gyfeiriadau, ildiodd y cyfieithydd i’r galw am ei argraffu a daeth o’r wasg yn 2015. Gwerthwyd y 5,000 cyntaf ar unwaith a bu’n rhaid wrth ail argraffiad yn fuan iawn.

Sefydlwyd pwyllgor cydenwadol yn 1993 er mwyn paratoi llyfr emynau cydenwadol newydd. Cafodd y gyfrol groeso cyffredinol gan y rhan fwyaf o gapeli. Cyhoeddwyd y gyfrol yn 2001 o dan yr enw Caneuon Ffydd a gwerthwyd miloedd lawer o gopïau.

Sefydlwyd y Cyngor Ysgolion Sul yn 1966 ac un o’i amcanion oedd “cyhoeddi llenyddiaeth, llyfrau, pamffledi … ffilmiau a chylchgronau …” at wasanaeth yr ysgolion Sul yn yr iaith Gymraeg. Yn 1992 sylweddolwyd bod bwlch mawr ym maes cyhoeddi llyfrau crefyddol a gwerslyfrau yng Nghymru a phenderfynwyd sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair. O dan gyfarwyddyd y Parchedig Aled Davies gwnaed gwaith aruthrol o ddarparu adnoddau ar gyfer plant, ieuenctid ac oedolion oedd yn parhau i fynychu Ysgolion Sul a chapeli ac eglwysi yng Nghymru. Y mae’r bennod hon yn hanes eglwysi Cymru yn brawf digamsyniol o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithrediad rhwng yr enwadau.

Stori llwyddiant arall yw yr egni ysbrydol a welir ymysg rhai pobl ifanc ac oedolion a fu’n trefnu cynhadledd Llanw bob gwyliau Pasg ers 2008. Amlygwyd diddordeb mawr ymysg pobl o bob oed i ddod i fwynhau astudiaethau beiblaidd, pregethau heriol, addoliad cyfoes a chwmniaeth Gristnogol egniol. Dyma un o lwyddiannau trawiadol y cyfnod hwn. Daw rhai cannoedd ynghyd i’r cyfarfodydd cyhoeddus i wrando ar wahanol bregethwyr yn annerch, llawer ohonynt yn bobl ifanc. Ceir bwrlwm tebyg yng ngweithgareddau’r Haf yng Ngholeg y Bala hefyd.

Ar y pegwn arall mae rhai sy’n dod o’r safbwynt diwinyddol Rhyddfrydol, ond sydd bellach yn ffafrio cael eu hadnabod fel Cristnogion ‘radical’, wedi taflu eu hymdrechion i weithgarwch y mudiad Cristnogaeth 21 sydd yn trefnu cynadleddau ac yn cyhoeddi erthyglau ar y we.

Ymhlith holl amrywiol ganghennau yr Eglwys Gristnogol gellir dweud mai Pentecostaliaeth yw’r gangen sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf yn ystod yr ugeinfed ganrif. Un o’r mudiadau Pentecostalaidd mwyaf trefnus ym Mhrydain oedd Eglwys Apostolaidd Cymru a sefydlwyd yn 1917 ym Mhenygroes o dan arweiniad glöwr lleol o’r enw Daniel Powell Williams – un a ddaeth o dan ddylanwad Evan Roberts ym Moreia, Llwchwr ar ddydd Nadolig, 1904. Gydag ychydig o eithriadau, ychydig iawn o ddylanwad a gafodd y mudiad hwn ar y Gymru Gymraeg. Yn gyffredinol, aeth y dylanwadau hyn heibio i’r prif enwadau yng Nghymru, er bod ambell eithriad fel rhai eglwysi Esgobol ac eglwysi Bedyddiedig efengylaidd yn bennaf, a ddaeth o dan gyfaredd y mudiad Carismataidd a’r hyn a alwyd yn ‘fendith Toronto’.

I ymateb i her y newid mawr sydd ar droed yng nghymunedau Cymru mae galw am arfogi meddwl pobl nid yn unig yn y Beibl a’i neges ond hefyd yng nghyfoeth yr etifeddiaeth sydd gennym fel Cristnogion yng Nghymru. Does dim dwywaith bod patrymau addoliad yn newid yn chwyldroadol wrth i’r hen gyfundrefnau raddol ddatgymalu a diflannu. Serch hynny, bydd pobl angen rhyw foddion i fynegi eu ffydd mewn addoliad.

<<< Yn ôl i Her yr Hydref 1945-1990 | Yn ôl i ddechrau’r stori >>>