TCC – Teledu Cristnogol Cymru

 

 

Mae Teledu Cristnogol Cymru yn un o brojectau Cyngor Ysgolion Sul, ac yn ceisio gweithredu fel hwb canolog i arddangos yr ystod a’r cyfoeth o adnoddau ffilm sydd ar gael yn y Gymraeg erbyn hyn. Mae yma dros 25 ‘sianel’ o gynnwys, a dros 500 o eitemau cyfrwng ffilm, ac yn tyfu’n wythnosol. Noder mai cynnwys trydydd parti a geir ar y sianel hon gan fwyaf, trwy greu dolenni i sianeli YouTube partneriaid a chysylltiadau enwadol. Er pob ymgais i sicrhau bod y cynnwys yn addas ac yn briodol, ni allwn warantu na chymeradwyo holl gynnwys y sianel. Os ydych yn darganfod unrhyw wallau technegol neu gynnwys amhriodol, gofynnwn yn garedig i chi gysylltu gyda ni ar unwaith.