Mae’r Gynghrair Efengylaidd yn cynnwys cannoedd o sefydliadau, miloedd o eglwysi a degau o filoedd o unigolion, wedi’u huno er mwyn yr efengyl. Yn cynrychioli ein haelodau ers 1846, y Gynghrair Efengylaidd yw’r mudiad undod efengylaidd hynaf a mwyaf yn y DU.
Yn unedig mewn cenhadaeth a llais, rydym yn bodoli i wasanaethu a chryfhau gwaith yr eglwys yn ein cymunedau a thrwy gymdeithas. Gan amlygu’r cyfleoedd a’r heriau sylweddol sy’n wynebu’r eglwys heddiw, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i roi adnoddau i Gristnogion fel eu bod yn gallu gweithredu ar eu ffydd yn Iesu, i siarad dros yr efengyl, cyfiawnder a rhyddid yn eu meysydd dylanwad.
Gan weithio ar draws y DU, gyda swyddfeydd yn Llundain, Caerdydd, Stockport, Glasgow a Belfast, mae ein haelodau’n dod at ei gilydd o wahanol enwadau, lleoliadau, grwpiau oedran ac ethnigrwydd, i gyd yn rhannu angerdd i adnabod Iesu a’i wneud yn hysbys.
Gwefan: www.eauk.org