Oes y Seintiau

<<< Yn ôl i Hanes Cristnogaeth Cymru | Ymlaen i Penllanw’r Oesodd Canol >>>

Gallwn ddweud gyda sicrwydd fod Cristionogaeth wedi cyrraedd Prydain yn ystod yr oruchafiaeth Rufeinig. Ond pa bryd? Nid yw dyddiad cyn OC 200 yn amhosibl, ond haws credu mai at ganol y drydedd ganrif y digwyddodd. Pwy ddaeth â Christionogaeth i Brydain? Ni wyddom. Ac nid yw’r dystiolaeth archaeolegol o fawr help chwaith.

Y peth a wyddom i sicrwydd yw fod eglwysi Cristionogol ar gael ym Mhrydain, o leiaf yn y canolfannau poblog, erbyn OC 314. Yn y flwyddyn honno cynhaliwyd cyngor eglwysig yn Arles yn ne Ffrainc, wedi ei gynnull ar orchymyn yr Ymerawdwr Cystennin Fawr. Yr oedd tri esgob o Brydain yno. Erbyn 314, yr oedd Cristionogaeth wedi ymsefydlu mewn dinasoedd o bwys ym Mhrydain ac yr oedd cysylltiad agos rhyngddynt a’r Cyfandir. Nid oes fawr ddim yn wybyddus am hynt Cristionogaeth ym Mhrydain rhwng 300 a 400. Y mae peth tystiolaeth ei bod yn dal i ennill tir er bod paganiaeth hithau’n dal yn fywiog a themlau’n cael eu hadeiladu neu eu hadnewyddu.

Yr oedd diwygiad crefyddol nerthol ar fin digwydd ac fe’i cysylltir â’r “saint”, neu’r mynachod Celtaidd. Ni wyddom sut y daeth mynachaeth i Brydain gyntaf ond aeth enwau llawer o’r gwroniaid hyn yn rhan o waddol atgofion y genedl. Mae’r ffaith fod enwau lleoedd ym mhob rhan o Gymru’n diogelu’r cof am Dewi, Padarn, Cybi, Cadfan, Garmon, Illtud a llu o rai eraill, yn dangos fel yr oedd dylanwad y genhedlaeth hon wedi ymestyn i bob cwr o’r wlad. Gadawsant eu hôl yn drwm ar fywyd cynnar y genedl ac ar ei dychymyg ar ôl hynny.

<<< Yn ôl i Hanes Cristnogaeth Cymru | Ymlaen i Penllanw’r Oesodd Canol >>>