Newyddion da i Bawb (Good News For Everyone)

Cymdeithas anenwadol yw Newyddion Da i Bawb (Y Gideoniaid gynt) ac mae’n cydweithio â sefydliadau addysgol, y gwasanaethau brys a’r lluoedd arfog er mwyn rhannu Beiblau ac adnoddau eraill am ddim. Maen nhw’n credu bod y Beibl yn llyfr i bawb am byth, ac mae’n siŵr eu bod nhw fwyaf adnabyddus am ddosbarthu Beiblau mewn gwestai, ysbytai, carchardai, colegau, prifysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau meddygol.

Mae gan Newyddion Da i bawb tri adnodd yn Gymraeg ar hyn o bryd sef:

Testament Newydd Cymraeg sy’n defnyddio testun beibl.net sydd ar gael yn rhad ac am ddim i’w gyflwyno mewn ysgolion, ysbytau, carchardai ayb.

Cylchgrawn GOBAITH – cylchgrawn 98 tudalen yn cynnwys detholiad o adranau pwysig o’r Beibl mewn diwyg lliwgar a Chymreig.

Cylchgrawn plant DARGANFOD – adnodd 98 tudalen lliw llaw sy’n addas i ysgolion ac ysgolion Sul i gyflwyno hanfodion y neges Gristnogol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r Brif Swyddfa yn Lutterworth ar 01455 554241.

Gwefan: https://goodnewsuk.com/