Pererindod

Roedd pererindod yn bwysig iawn yn y Canol Oesoedd, ac mae’n parhau ar raddfa lai. Y gyrchfan fwyaf poblogaidd yw Israel, i ymweld a nifer o safleoedd cysylltiedig a gyrfa Iesu Grist. Yn y Canol Oesoedd yn arbennig, roedd pererindod i Rufain yn boblogaidd iawn, a hefyd i Santiago de Compostela yn Sbaen ar hyd y Camino de Santiago, cyrchfannau sy’n parhau’n boblogaidd. Yng Nghymru roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cael ei hystyried yn gyfwerth a phererindod i Rufain.

Beth yw pererindod?
Taith Gristnogol yw pererindod pan fydd pobl yn ymweld â llefydd sanctaidd, boed yn adeilad, yn gerflun neu’n leoliad arbennig neu hanesyddol.

Pam mynd ar bererindod?
Mae pererinion yn mynd ar bererindodau am lawer o resymau. Mae rhai yn annog pobl i fynd ar bererindod er mwyn mynegi eu ffydd. Mae rhai yn mynd ar bererindod er mwyn ceisio cael eu iachàu os ydynt yn sâl. Yna aml, bydd pererinion yn mynd ar bererindod er mwyn dysgu mwy am eu ffydd.

Mae llawer o fannau sanctaidd o gwmpas y byd. Dyma restr o’r rhai mwyaf poblogaidd heddiw:
• Y Fatican yn yr Eidal – Pencadlys yr Eglwys Gatholig
• Wittenberg yn yr Almaen – Lle dechreuodd y Diwygiad Protestannaidd

Mae’r rhestr o’r mannau sanctaidd yng Nghymru yn un faith! Dyma ambell i fannau poblogaidd ar gyfer pererindodau:

• Tyddewi
• Ynys Enlli
• Capel Soar y Mynydd
• Ynys Bŷr
• Eglwys Sant Cybi
• Capel y Beirdd ger y Lôn Goed
• Salem Cefncymerau (a anfarwolwyd yn llun enwog Sydney Curnow Vosper)

Rhai teithiau yng Nghymru:
Taith Pererin Gogledd Cymru o Dreffynnon i Enlli
Taith Pererindod Llwybr Cadfan o Dywyn i Enlli
Taith Pererindiod Melangell o Ddyffryn Fyrnwy i Ddyffryn Tanat
Taith Llwybr Pererindod Penrhys o Gadeirlan Llandaf i Penrhys yn y Rhondda
Llwybr Pererindod Llŷn o Aberdesach i Borthmadog

Adnoddau Digidol:
Gwasanaeth Pob Oed ar thema Pererindod gan yr Annibynwyr (PDF)
Pecyn Adnoddau Taith Pererin Gogledd Cymru gan Cadw (PDF)

Llyfrau:
Llwybr Cadfan
Torf Ardderchog: Teithiau Cristnogol Trwy Gymru (Cyfrol 1) gan John Aaron
Llwybrau Llonyddwch – Teithiau Cerdded Myfyrgar ar hyd a Lled Cymru gan Aled Lewis Evans