Yr Eglwys yng Nghymru

Y gangen Gymreig o’r Eglwys Anglicanaidd yw’r Eglwys Yng Nghymru. Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr ar 31 Mawrth 1920, dan Ddeddf yr Eglwys Gymreig (1914). Mae’r corff yn berchen ar bron i 1,400 o eglwysi yng Nghymru mewn dros 900 o blwyfi. Diffinia ei hun fel, “eglwys hynafol y tir hwn… sy’n gafael yn dynn yn yr athrawiaeth a’r weinidogaeth o un Eglwys gatholig ac efengylaidd.”.

John Davies yw Archesgob Cymru er 2017, a bu’n Esgob Abertawe ac Aberhonddu er 2008.

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod Archesgob Caergaint fel canolbwynt undod, ond nid oes ganddo awdurdod dros yr Eglwys yng Nghymru.

Esgobaethau
Mae talaith yr Eglwys wedi’i rhannu’n chwe esgobaeth.

Esgobaeth Bangor
Esgobaeth Bangor yw’r hynaf o chwech esgobaeth Anglicanaidd Cymru. Gorwedd tiriogaeth yr esgobaeth yng ngogledd-orllewin y wlad, gan ymestyn o Ynys Môn i ran o ogledd Powys ; mae’n cyfateb yn fras i diriogaeth teyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol. Canolfan yr esgobaeth yw cadeirlan Bangor, sedd esgob Bangor, lle ceir Eglwys Gadeiriol Bangor.

Esgobaeth Llanelwy
Esgob Llanelwy yw pennaeth Esgobaeth Llanelwy yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae’r esgobaeth yn cynnwys Sir Ddinbych a Sir y Fflint rhai rhannau o Sir Conwy a Powys ac ychydig o sir Gwynedd. Mae’r gadeirlan yn Llanelwy.

Esgobaeth Tŷ Ddewi
Llywodraethwr eglwysig Esgobaeth Tyddewi yng ngorllewin Cymru yw Esgob Tyddewi. Yn draddodiadol ystyrir Dewi Sant fel Esgob cyntaf Tyddewi. Mae cofnodion am y cyfnod cynnar yn gyfyngedig i ambell gofnod yn yr Annales Cambriae a Brut y Tywysogion. Er enghraifft, cofnodir i’r Daniaid anrheithio Tyddewi yn 999, a lladd yr esgob Morgeneu; y cyntaf o Esgobion Tyddewi, meddir, i dorri ar draddodiad Dewi o ymwrthod a bwyta cig.

Yn yr 11g roedd yr esgobion Sulien a’i fab Rhygyfarch ap Sulien yn ysgolheigion nodedig. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidiis (“Buchedd Dewi”), a gyfansoddwyd i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint. Yn 1176, enwebwyd Gerallt Gymro yn esgob, ond gwrthododd y brenin Harri II o Loegr ei dderbyn, yn ôl pob tebyg oherwydd ei ymgyrch dros annibyniaeth yr esgobaeth, ymgyrch a gafodd gefnogaeth Llywelyn Fawr.

Yn ystod ymrysonau crefyddol yr 16g, carcharwyd yr esgob Robert Ferrar am heresi gan Mari Tudur, ac, ar ôl gwrthod datgyffesu, fe’i llosgwyd wrth y stanc ar sgwâr y farchnad yng Nghaerfyrddin ar 30 Mawrth 1555.

Yr esgob presennol yw’r Gwir Barchedig Joanna Penberthy.

Esgobaeth Llandaf
Esgobaeth yn ne-ddwyrain Cymru yw Esgobaeth Llandaf. Ei ganolfan yw cadeirlan Llandaf yn Llandaf, ger Caerdydd. Mae’r esgobaeth yng ngofal Esgob Llandaf.

Creadigaeth gymharol ddiweddar oedd yr esgobaeth fel uned weinyddol yn yr Eglwys. Cyn cyfnod y Normaniaid roedd yna esgobaeth gynnar a sefydlwyd gan y seintiau Dyfrig a Teilo yn y 6g. Apwyntiwyd Esgob cyntaf Llandaf yn 1108, yn fuan wedi i’r Normaniaid ymsefydlu ym Morgannwg. Dechreuwyd adeiladu’r gadeirlan o 1190 ymlaen, ac fe’i cwblhawyd ym 1290. Bu William de Braose yn Esgob Llandaf o 1266 hyd 1287, ac efe a adeiladodd Capel y Forwyn Fair yno. Dinistriwyd plasdy’r esgob a gwnaed llawer o niwed i’r gadeirlan yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr yn y 1400au.

Esgobaeth fechan o ran ei thiriogaeth yw Esgobaeth Llandaf. Mae’n gorwedd yn ne-ddwyrain Cymru ac yn cyfateb yn fras i hen deyrnasoedd Morgannwg a Gwent.

Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu
Mae Abertawe ac Aberhonddu yn esgobaeth Anglicanaidd yng nghanolbarth a de Cymru. Mae’n ymestyn o Abertawe i Aberhonddu. Y Gwir Barchedig John Davies yw’r esgob, â’i sedd yn Eglwys gadeiriol Aberhonddu.

Esgobaeth Mynwy
Mae Mynwy yn esgobaeth yn ne-ddwyrain Cymru. Y Gwir Barchedig Cherry Vann yw Esgob presennol Mynwy.

Rhennir yr Eglwys yng Nghymru yn chwe esgobaeth, a gofelir am bob un gan Esgob. Ym mhob un o’r esgobaethau y mae dwy neu dair o archddiaconiaethau; mae pymtheng archddiaconiaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru. Penodir Archddiacon i bob un, ac y mae’r Archddiacon yn atebol i’r Esgob am eu gweinyddu. Rhennir yr Archddiaconiaethau ymhellach yn Ddeoniaethau.

Mae gan bob un o’r chwe esgobaeth yn Yr Eglwys yng Nghymru Gadeirlan. Hi yw mam-eglwys yr esgobaeth. Yma hefyd y mae ‘cadair’ yr Esgob. Yn y Gadeirlan y cynhelir digwyddiadau pwysig, megis Sefydlu Esgob newydd. Mae i bob Cadeirlan ei Deon. Fe’i penodwyd i redeg y Gadeirlan, gyda chymorth y Siapter. Ynghyd â’r Archddiaconiaid, y mae Deon y Gadeirlan yn un o glerigion mwyaf blaenllaw’r esgobaeth ar ôl yr Esgob.

Rheolir pob Cadeirlan yng Nghymru gan Siapter, sy’n cynnwys y Deon a nifer o Ganoniaid, a ddewisir o blith clerigion yr esgobaeth.

Gwefan Yr Eglwys yng Nghymru: www.churchinwales.org.uk/cy/