Yr Eglwys Fethodistaidd

Cychwynodd y Parchedig John Welsey y mudiad Methodistaidd yn ôl yn yr ail ganrif ar bymtheg, yn cynnwys cynulleidfaoedd Saesneg eu hiaith yng Nghymru. Anfonodd y Parchedig Thomas Coke siaradwyr Cymraeg fel cenhadon i’r Cymry ar ddechreuad y ddeunawfed canrif.

Erbyn hyn, mae’r Eglwys Fethodistaidd yng Nghymru yn cynnwys Synod Cymru, sef gwaith Cymraeg yr enwad yng Nghymru, a Wales Synod, sef y gwaith Saesneg ei iaith yn y wlad, a’r ddau yn perthyn i Eglwys Fethodistaidd Prydain. Mae cynrhychiolwyr y ddwy Synod yn cyfarfod i annog gwaith ar y cyd mewn cyfarfod o’r enw Y Cyngor. Ymhlith y gwaith hwn, mae gennym waith ieuenctid o dan ymbarél ‘Momentwm Cymru Wales’ a gwaith Rhywdwaith Dysgu Cymru Wales yr Eglwys Fethodistaidd.

Mae gwaith ecwmeniadd yn bwysig i’r enwad: mae nifer o gynulleidfaoedd Wales Synod yn Bartneriaethau Ecwmenaidd Lleol, yn arbennig efo’r United Reformed Church, ac mae nifer o gynulleidfaoedd Synod Cymru yn rhan o Weinidogaethau Bro.

Fel enwad, mae gan yr Eglwys Fethodistaidd enw da am gynnhesrwydd ei groeso ac am ganu da!

Gwefan: www.synodcymru.org.uk