Y Gideoniaid

Cymdeithas anenwadol yw’r Gideoniaid ac mae’n cydweithio â sefydliadau addysgol, y gwasanaethau brys a’r lluoedd arfog er mwyn rhannu Beiblau am ddim. Maen nhw’n credu bod y Beibl yn llyfr i bawb am byth, ac mae’n siŵr eu bod nhw fwyaf adnabyddus am ddosbarthu Beiblau mewn gwestai, ysbytai, carchardai, colegau, prifysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau meddygol.

Mae gan y Gideoniaid Destament Newydd Cymraeg sydd ar gael yn rhad ac am ddim i’w gyflwyno mewn ysgolion, ysbytau, carchardai ayb. Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r Brif Swyddfa yn Lutterworth ar 01455 554241.

Gwefan: www.gideonsuk.com/