Canllaw ymarferol · Practical guide

Addoliad Dwyieithog
Bilingual Worship

Canllawiau ar gyfer trefnu a chynnal addoliad dwyieithog mewn capeli ac eglwysi yng Nghymru.

Guidelines for planning and organising bilingual worship in chapels and churches in Wales.

✦ Darllen / Read
01 / 15

Cyflwyniad

Mae addoliad dwyieithog yn gyfle i groesawu pobl sy’n siarad Cymraeg, Saesneg neu’r ddwy iaith, gan sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan mewn ffordd ystyrlon ym mywyd y gynulleidfa leol. Y nod yw creu addoliad naturiol, cynhwysol ac ystyrlon, lle mae’r ddwy iaith yn cael eu gwerthfawrogi ac nad oes neb yn teimlo ei fod yn cael ei gadael allan.

Y gobaith yw adeiladu cymuned sy’n addoli gyda’i gilydd, gan barchu ieithoedd a thraddodiadau pawb

Introduction

Bilingual worship is an opportunity to welcome people who speak Welsh, English or both languages, ensuring that everyone can participate fully in the life of the congregation. The aim is to create worship that is natural, inclusive and meaningful, where both languages are valued and nobody feels left out.

The aim is to build a worshipping community together, respecting everyone’s languages and traditions.

GUIDELINES IN ENGLISH FOR PLANNING A SERVICE

02 / 15

RHAN 1: CANLLAWIAU CYNLLUNIO GWASANAETH / 1. Cynllunio'r addoliad

Cyn dechrau paratoi'r gwasanaeth, mae’n bwysig ystyried pwy fydd yn bresennol a pha fath o addoliad fydd yn gwasanaethu’r gynulleidfa orau.

Pethau i'w hystyried

  • Adnabod y gynulleidfa: A yw'r mwyafrif yn siarad Cymraeg, Saesneg neu'r ddwy iaith? A oes pobl sy'n dysgu Cymraeg neu sydd heb fawr o ddealltwriaeth ohoni?
  • Penderfynu ar gydbwysedd yr ieithoedd: Nid oes rhaid defnyddio'r ddwy iaith yn union yr un faint ym mhob rhan o'r gwasanaeth, ond dylai'r cynllun cyffredinol ddangos parch at y ddwy.
  • Pennu amcan y gwasanaeth: A yw'r pwyslais ar addoli, dathlu, cenhadu, dysgu, gwasanaeth teuluol neu achlysur arbennig?
  • Cynllunio ymlaen llaw: Dylai'r sawl sy'n arwain, y darllenwyr, y cerddorion a'r rhai sy'n gweddïo wybod pa iaith neu ieithoedd fydd yn cael eu defnyddio ar ba adeg.
  • Cynnwys y gynulleidfa: Gofynnwch am adborth yn rheolaidd, yn enwedig gan y rhai sy'n llai hyderus yn un o'r ieithoedd.

Egwyddor allweddol: Dylai'r Gymraeg a'r Saesneg fod yn gyfrwng gwirioneddol i addoli, nid yn ychwanegiad symbolaidd at y gwasanaeth.

1. Planning the service

Before preparing the service, consider who will be attending and what kind of worship will best serve the congregation.

Points to consider

  • Know your congregation: Are most people Welsh-speaking, English-speaking or bilingual? Are there visitors, learners or people with limited understanding of either language?
  • Agree on the balance of languages: The two languages do not have to be used in exactly equal proportions in every part of the service, but both should be valued in the overall plan.
  • Identify the purpose: Is the service focused on worship, celebration, mission, teaching, family participation or a special occasion?
  • Plan ahead: The worship leader, readers, musicians and prayer leaders should know which language or languages they will use.
  • Consult the congregation: Seek feedback regularly, particularly from people who are less confident in one of the languages.

Key principle: Welsh and English should both be genuine languages of worship, rather than one language being included merely for symbolic purposes.

03 / 15

2. Strwythur a llif y gwasanaeth

Mae strwythur clir yn helpu'r addoliad i lifo'n naturiol ac yn atal y gwasanaeth rhag teimlo'n ailadroddus neu'n rhy hir.

Croeso a chyfarchiad

Croesawch bawb yn y ddwy iaith, neu newidiwch rhwng yr ieithoedd yn naturiol.

Galwad i addoli

Defnyddiwch eiriau syml, cynnes a hygyrch yn y ddwy iaith.

Emynau a chaneuon

Dewiswch gyfuniad o emynau Cymraeg, Saesneg a chaneuon sy'n addas i'w canu yn y ddwy iaith.

Mae rhestr gynhwysfawr o emynau sydd ar gael yn y ddwy iaith ar wefan www.gobaith.cymru

Gweddïau

Defnyddiwch y ddwy iaith dros y gwasanaeth; sicrhewch fod ystyr y weddi yn hygyrch i bawb.

Mae adnodd Roots for Churchres yn cynhyrchu gweddïau Cymraeg a Saesneg yn wythnosol. Ewch i wefan www.rootsforchurches.com

Darlleniadau Beiblaidd

Gellir cael darlleniadau mewn un iaith ac yna yn y llall, neu ddefnyddio crynodeb cyfatebol.

Mae fersiwn Cymraeg syml www.beibl.net yn addas ar gyfer dysgwyr.

Pregeth neu fyfyrdod

Defnyddiwch ddull dwyieithog wedi'i gynllunio'n ofalus, gyda chrynodebau, sleidiau neu adrannau mewn ieithoedd gwahanol.

Cyhoeddiadau

Darparwch wybodaeth bwysig yn y ddwy iaith.

Y Fendith ac anfon allan

Sicrhewch fod pawb yn deall neges olaf y gwasanaeth ac yn teimlo eu bod yn rhan o'r gymuned.

Nid oes un patrwm sy'n addas i bob capel neu eglwys. Gall un gynulleidfa ffafrio newid iaith rhwng gwahanol rannau o'r gwasanaeth, tra gall un arall ffafrio defnyddio'r ddwy iaith o fewn yr un rhan.

2. Structure and flow of the service

A clear structure helps worship flow naturally and prevents the service from becoming repetitive or unnecessarily long.

Welcome and greeting

Welcome everyone in both languages, or alternate naturally between them.

Call to worship

Use warm, accessible language in Welsh and English.

Hymns and songs

Choose a combination of Welsh, English and, where appropriate, bilingual songs.

A comprehensive list of hymns available in both Welsh and English are avaialble from www.gobaith.cymru

Prayers

Use both languages throughout the service and ensure the meaning is accessible to everyone.

Welsh and English prayers are produced weekly from bilingual worship and are available from www.rootsforchurches.com

Bible readings

Read passages in one language followed by the other, or provide an equivalent summary.

For a Welsh bible translation suitable for Welsh learners, the text is available to download and copy from www.beibl.net

Sermon or reflection

Plan a bilingual approach using summaries, slides or sections in different languages.

Notices

Provide important information in both languages.

Blessing and sending out

Ensure everyone understands the closing message and feels part of the worshipping community.

There is no single format that works for every chapel or church. Some congregations may prefer to alternate languages between different parts of the service, while others may prefer to use both languages within the same section.

04 / 15

3. Y defnydd o'r Gymraeg a'r Saesneg

Dylid defnyddio'r ieithoedd mewn ffordd sy'n teimlo'n naturiol, yn barchus ac yn hawdd ei dilyn.

Arferion da

  • Osgoi cyfieithu pob brawddeg yn syth os yw hynny'n gwneud y gwasanaeth yn hir ac yn torri ar lif yr addoliad.

Peidio â chymryd yn ganiataol fod pawb sy'n siarad Cymraeg yn rhugl yn deall Saesneg yn dda, neu i'r gwrthwyneb.

  • Defnyddio crynodebau neu ailadrodd y prif negeseuon mewn iaith arall pan fo angen.
  • Sicrhau bod pobl sy'n siarad y naill iaith yn unig yn gallu deall prif bwrpas y gwasanaeth.
  • Caniatáu i bobl weddïo, darllen neu rannu tystiolaeth yn yr iaith y maent yn fwyaf cyfforddus ynddi.
  • Defnyddio Cymraeg cywir a naturiol, gan osgoi cyfieithiadau llythrennol sy'n swnio'n annaturiol.
  • Parchu amrywiadau tafodieithol a gwahanol lefelau o hyder ieithyddol.

Pwynt pwysig: Nid oes rhaid i bob un fyd dyn cyfrannu at yr addoliad fod yn gwbl ddwyieithog. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y trefnwyr yn creu amgylchedd lle gall pawb gymryd rhan.

3. Using Welsh and English

Both languages should be used naturally, respectfully and in ways that are easy to follow.

Good practice

  • Avoid translating every sentence immediately if this makes the service too long or interrupts the flow of worship.
  • Do not assume that everyone who speaks Welsh fluently also understands English well, or vice versa.
  • Use summaries or repeat key messages in the other language when necessary.
  • Ensure that people who speak only one language can understand the main purpose and message of the service.
  • Allow people to pray, read Scripture or share their testimony in the language in which they feel most comfortable.
  • Use accurate, natural Welsh and English, avoiding literal translations that sound awkward.
  • Respect dialect differences and varying levels of language confidence.

Important: Not every participant needs to be fully bilingual. The responsibility lies with the organisers to create an environment in which everyone can participate.

05 / 15

4. Emynau a cherddoriaeth

Mae cerddoriaeth yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddod â phobl ynghyd, ond gall hefyd fod yn un o'r rhannau mwyaf heriol o addoliad dwyieithog.

Wrth ddewis emynau, ystyriwch:

  • Emynau cyfarwydd a phoblogaidd: A fydd y gynulleidfa'n adnabod yr emyn neu'r dôn?
  • Iaith: A oes cyfle i ganu yn Gymraeg ac yn Saesneg dros gyfnod y gwasanaeth?
  • Cynulleidfa: A yw'r geiriau a'r dôn yn addas i blant, pobl hŷn ac ymwelwyr?
  • Diwinyddiaeth a thema: A yw geiriau'r emyn yn cyd-fynd â thema'r gwasanaeth ac yn mynegi'r ffydd yn briodol?
  • Cynhwysol i bawb: A fydd pawb yn gallu canu, neu a fydd angen taflenni geiriau, taflunio'r geiriau neu ddewis emyn mwy cyfarwydd?
  • Hawlfraint: Sicrhewch fod y geiriau, y cyfieithiadau, y gerddoriaeth a'r defnydd ar sgrin yn cael eu defnyddio yn unol â'r trwyddedau perthnasol.

Mae rhestr gynhwysfawr o emynau sydd ar gael yn y ddwy iaith ar wefan www.gobaith.cymru

Ffyrdd o drefnu'r canu

  • Canu un emyn yn Gymraeg ac un yn Saesneg.
  • Defnyddio emyn sydd â geiriau addas yn y ddwy iaith.
  • Canu pennill Cymraeg ac yna bennill Saesneg, os yw'r geiriau a'r dôn yn gweithio'n dda gyda'i gilydd.
  • Cynnwys emynau traddodiadol sy'n bwysig i'r gynulleidfa, ynghyd â cherddoriaeth gyfoes.
  • Darparu geiriau printiedig neu dafluniedig yn glir, gyda'r iaith wedi'i nodi.

Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod emyn Cymraeg yn addas i'w gyfieithu'n syth i'r Saesneg, nac i'r gwrthwyneb. Gall ystyr, rhythm, acen a nifer y sillafau fod yn wahanol.

4. Hymns and music

Music is one of the most effective ways to bring people together, but it can also be one of the most challenging aspects of bilingual worship.

When choosing hymns, consider:

  • Familiarity: Will the congregation recognise the hymn or tune?
  • Language: Is there a meaningful opportunity to sing in both Welsh and English over the course of the service?
  • Congregation: Are the words and tune suitable for children, older people and visitors?
  • Theology and theme: Do the lyrics fit the theme of the service and express the faith appropriately?
  • Participation: Will everyone be able to sing, or are printed lyrics, projected words or more familiar hymns needed?
  • Copyright: Check that lyrics, translations, music and projected material are covered by the relevant licences.

Ways to organise singing

  • Sing one hymn in Welsh and another in English.
  • Choose a hymn with suitable words in both languages.
  • Alternate Welsh and English verses where the words and tune work well together.
  • Include traditional hymns that are important to the congregation alongside contemporary worship music.
  • Provide clearly printed or projected lyrics and identify the language being used.

Do not assume that a Welsh hymn can be translated directly into English, or vice versa, without adjustment. Meaning, rhythm, stress and syllable count can differ significantly.

06 / 15

5. Darlleniadau Beiblaidd a phregethu

Dylai neges y Beibl fod yn ganolog i'r addoliad, a dylai pawb gael cyfle i ddeall ei harwyddocâd.

Darlleniadau Beiblaidd

  • Dewiswch gyfieithiadau Beiblaidd cydnabyddedig a chyson.
  • Os darllenir darn yn Gymraeg yn unig, ystyriwch ddarparu'r testun Saesneg neu grynodeb byr.
  • Os darllenir y darn yn y ddwy iaith, ystyriwch a yw darllen y ddau destun llawn yn ychwanegu gwerth neu'n gwneud y gwasanaeth yn rhy hir.
  • Gofalwch fod enwau, ynganiad a chyfeiriadau Beiblaidd yn gywir.
  • Rhowch amser i'r gynulleidfa ddod o hyd i'r darlleniad yn ei Beibl neu ar y daflen.

Pregethu dwyieithog

Mae sawl dull yn bosibl:

  • Pregeth yn Gymraeg gyda chrynodebau Saesneg ar adegau allweddol.
  • Pregeth yn Saesneg gyda chrynodebau Cymraeg.
  • Rhannu'r bregeth yn adrannau, gyda rhai yn Gymraeg ac eraill yn Saesneg.
  • Defnyddio sleidiau neu daflen gyda'r prif bwyntiau yn y ddwy iaith.
  • Defnyddio enghreifftiau a straeon sy'n berthnasol i bobl o wahanol gefndiroedd ieithyddol.

Dylai'r sawl sy'n pregethu osgoi cyflwyno'r un neges lawn ddwywaith oni bai bod hynny'n fwriadol ac yn briodol i'r gynulleidfa. Yn aml, mae crynodebau clir a chyson yn fwy effeithiol na chyfieithu gair am air.

5. Bible readings and preaching

The biblical message should remain central to worship, with everyone given an opportunity to understand its significance.

Bible readings

  • Choose recognised and consistent Bible translations.
  • If a passage is read only in Welsh, consider providing the English text or a short summary.
  • If the passage is read in both languages, consider whether reading both full texts adds value or makes the service unnecessarily long.
  • Check names, pronunciation and biblical references.
  • Allow time for the congregation to find the passage in their Bibles or service sheets.

Bilingual preaching

Several approaches are possible:

  • A Welsh sermon with English summaries at key points.
  • An English sermon with Welsh summaries.
  • A sermon divided into sections, some in Welsh and others in English.
  • Slides or printed notes giving the main points in both languages.
  • Examples and stories that connect with people from different linguistic backgrounds.

The preacher should avoid delivering the entire message twice unless this is a deliberate and appropriate choice for the congregation. Clear, consistent summaries are often more effective than word-for-word translation.

07 / 15

6. Gweddïau, sacramentau a defodau

Mae angen rhoi sylw arbennig i rannau o'r gwasanaeth sy'n cario pwyslais ysbrydol neu litwrgaidd mawr.

  • Gweddïau: Caniatewch i wahanol bobl weddïo yn eu hiaith eu hunain. Sicrhewch fod prif themâu'r gweddïau yn hygyrch i'r gynulleidfa gyfan.
  • Gweddi'r Arglwydd: Gellir ei hadrodd yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith, gan ystyried arferion a hyder y gynulleidfa.
  • Bedydd: Esboniwch ystyr ac elfennau'r gwasanaeth mewn ffordd sy'n hygyrch i'r teulu a'r gynulleidfa.
  • Cymun neu Swper yr Arglwydd: Sicrhewch fod y geiriau, y gwahoddiad a'r cyfarwyddiadau yn glir yn y ddwy iaith, yn unol ag arfer yr enwad.
  • Priodasau, angladdau a gwasanaethau coffa: Trafodwch ddewisiadau iaith gyda'r teulu ymlaen llaw, gan ystyried dymuniadau'r unigolyn, y teulu a'r gynulleidfa.

Dylai'r trefniadau hyn ddilyn canllawiau a defodau'r enwad neu'r eglwys dan sylw.

6. Prayers, sacraments and ceremonies

Particular care is needed with parts of the service that carry significant spiritual or liturgical meaning.

  • Prayers: Allow different people to pray in their own language. Ensure that the main themes of the prayers remain accessible to the whole congregation.
  • The Lord's Prayer: It may be shared in Welsh, English or both, depending on the congregation's traditions and confidence.
  • Baptism: Explain the meaning and elements of the service in a way that is accessible to the family and congregation.
  • Holy Communion or the Lord's Supper: Ensure that the words, invitation and instructions are clear in both languages, in accordance with denominational practice.
  • Weddings, funerals and memorial services: Discuss language preferences with the family beforehand, respecting the wishes of the individual, family and congregation.

These arrangements should follow the guidance and liturgical practices of the relevant denomination or church.

08 / 15

7. Taflenni, sgriniau a chyfathrebu

Gall deunyddiau dwyieithog wneud gwahaniaeth mawr i brofiad y gynulleidfa.

  • Paratowch daflen wasanaeth sy'n glir, yn drefnus ac yn hawdd ei darllen.
  • Rhowch yr ieithoedd mewn trefn gyson, heb wneud i un iaith edrych yn llai pwysig.
  • Defnyddiwch ffont digon mawr a chyferbyniad da rhwng y testun a'r cefndir.
  • Sicrhewch fod cyhoeddiadau, cyfarwyddiadau ac unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth ar gael yn y ddwy iaith.
  • Os defnyddir sgrin, peidiwch â gorlwytho'r sleidiau â gormod o destun.
  • Darparwch daflenni ychwanegol neu gymorth personol i ymwelwyr sydd eu hangen.
  • Gwiriwch geiriad y daflen, y sleidiau a'r offer sain cyn dechrau'r gwasanaeth.

7. Service sheets, use of screens and communication

Bilingual resources can make a significant difference to the congregation's experience.

  • Prepare a clear, well-organised service sheet that is easy to read.
  • Present the languages consistently, without making either appear less important.
  • Use a readable font size and good contrast between text and background.
  • Ensure that notices, instructions and changes to the service are available in both languages.
  • Avoid overcrowding slides with too much text.
  • Provide additional printed material or personal assistance for visitors who need it.
  • Test the service sheet, slides and sound equipment before the service begins.
09 / 15

8. Croeso, perthynas a bod yn gynhwysol

Mae addoliad dwyieithog llwyddiannus yn fwy na defnyddio dwy iaith: mae'n ymwneud â pherthyn, parch a chymuned.

  • Croesawch ymwelwyr heb wneud rhagdybiaethau am eu gallu ieithyddol.
  • Peidiwch â gwneud i neb deimlo'n euog am siarad Cymraeg neu Saesneg.
  • Eglurwch yn garedig sut mae'r gwasanaeth wedi'i drefnu.
  • Rhowch gyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan yn y ddwy iaith.
  • Byddwch yn sensitif i bobl sy'n dysgu Cymraeg neu sy'n ansicr wrth siarad o flaen eraill.
  • Sicrhewch fod y rhai sy'n arwain y gwasanaeth yn ynganu enwau pobl yn gywir ac yn parchu eu dewisiadau iaith.
  • Ystyriwch hygyrchedd ehangach, gan gynnwys nam ar y clyw, anableddau dysgu ac anghenion gweledol.

8. Welcome, relationships and inclusion

Successful bilingual worship is about more than using two languages: it is about belonging, respect and community.

  • Welcome visitors without making assumptions about their language abilities.
  • Never make anyone feel guilty for speaking Welsh or English.
  • Explain kindly how the service is organised.
  • Give children and young people opportunities to participate in both languages.
  • Be sensitive to people learning Welsh or feeling nervous about speaking in public.
  • Ensure that worship leaders pronounce people's names correctly and respect their language preferences.
  • Consider wider accessibility, including hearing impairment, learning disabilities and visual needs.
10 / 15

9. Rôl y tîm trefnu

Dylai pawb sy'n ymwneud â'r gwasanaeth wybod eu cyfrifoldebau.

Arweinydd y gwasanaeth

Sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu defnyddio'n naturiol a bod y gwasanaeth yn llifo'n dda.

Pregethwr neu bregethwraig

Paratoi neges sy'n hygyrch i'r gynulleidfa gyfan.

Darllenwyr a gweddïwy

Ymarfer ymlaen llaw a gwirio ynganiad a dealltwriaeth yn y ddwy iaith.

Arweinydd cerddoriaeth / cyfeilydd / organyddes

Dewis emynau a chaneuon addas a chynllunio'r newid rhwng ieithoedd.

Tîm taflenni a thechnoleg

Gwirio cyfieithiadau, taflenni, sleidiau, sain a hawlfraint.

Tîm croeso

Helpu ymwelwyr i ddeall trefn y gwasanaeth ac i deimlo'n gartrefol.

9. The role of the organising team

Everyone involved should understand their responsibilities.

Worship leader

Ensure both languages are used naturally and the service flows well.

Preacher

Prepare a message accessible to the whole congregation.

Readers and prayer leaders

Rehearse in advance and check pronunciation and understanding.

Music leader / organist

Select appropriate hymns and songs and plan transitions between languages.

Service sheet and technology team

Check translations, printed material, slides, sound and copyright.

Welcome team

Help visitors understand the service and feel at home.

11 / 15

10. Camgymeriadau cyffredin i'w hosgoi

  • Cyfieithu pob brawddeg, gan wneud y gwasanaeth yn rhy hir.
  • Defnyddio un iaith bron yn gyfan gwbl, ac ychwanegu ychydig o eiriau yn y llall er mwyn ymddangos yn ddwyieithog.
  • Tybio bod pawb yn deall y ddwy iaith.
  • Defnyddio cyfieithiadau nad ydynt yn naturiol nac yn gywir yn ddiwinyddol.
  • Dewis emynau nad yw'r gynulleidfa'n gallu eu canu.
  • Peidio â rhannu trefn y gwasanaeth â'r rhai sy'n cymryd rhan.
  • Newid iaith yn sydyn heb roi digon o arweiniad i'r gynulleidfa.
  • Trin un iaith fel y brif iaith a'r llall fel ôl-ystyriaeth.
  • Anwybyddu adborth pobl sy'n mynychu'r gwasanaeth.

10. Common mistakes to avoid

  • Translating every sentence and making the service too long.
  • Using almost entirely one language and adding only a few words in the other.
  • Assuming everyone understands both languages.
  • Using translations that are unnatural or theologically inaccurate.
  • Choosing hymns that the congregation cannot sing confidently.
  • Failing to share the service plan with participants in advance.
  • Switching languages abruptly without guiding the congregation.
  • Treating one language as primary and the other as an afterthought.
  • Ignoring feedback from people who attend the service.
12 / 15

RHAN 3: RHESTR WIRIO YMARFEROL

Rhestr wirio

PART 3: PRACTICAL CHECKLIST

Checklist

13 / 15

RHAN 4: EGWYDDORION I’W CADW MEWN COF

Croeso

Dylai pawb deimlo eu bod yn perthyn, pa iaith bynnag a siaredir ganddynt.

Cydbwysedd

Nid yw cydbwysedd yn golygu cyfieithu popeth; mae’n golygu sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu gwerthfawrogi.

Cyfranogiad

Dylai’r gynulleidfa allu canu, gweddïo, gwrando a deall, nid bod yn wylwyr yn unig.

Ansawdd

Mae paratoi, cyfieithu gofalus ac ymarfer ymlaen llaw yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Cymuned

Dylai addoliad dwyieithog ddod â phobl at ei gilydd mewn ffydd, cariad a chymdeithas.

PART 4: PRINCIPLES TO REMEMBER

Welcome

Everyone should feel they belong, whatever language they speak.

Balance

Balance does not mean translating everything; it means ensuring both languages are valued.

Participation

The congregation should be able to sing, pray, listen and understand, rather than simply observe.

Quality

Preparation, careful translation and rehearsal make a significant difference.

Community

Bilingual worship should bring people together in faith, love and fellowship.

14 / 15

Casgliad

Nid mesur llwyddiant addoliad dwyieithog yw faint o eiriau a siaredir ym mhob iaith, ond a yw’r gynulleidfa yn gallu addoli gyda’i gilydd yn ystyrlon. Mae cynllunio gofalus, parch at y ddwy iaith, cerddoriaeth addas, cyfathrebu clir a chroeso cynnes yn helpu i greu gwasanaethau sy’n adlewyrchu amrywiaeth ac undod pobl Dduw.

Conclusion

The success of bilingual worship is not measured simply by the number of words spoken in each language, but by whether the congregation can worship meaningfully together. Careful planning, respect for both languages, suitable music, clear communication and a warm welcome help create services that reflect the diversity and unity of God’s people.

15 / 15

Awgrym terfynol

Ar ôl pob gwasanaeth, gofynnwch dri chwestiwn syml: A oedd y ddwy iaith yn cael eu gwerthfawrogi? A allai pawb gymryd rhan? Beth allwn ni ei wella y tro nesaf?

Final suggestion:

After each service, ask three simple questions:

Were both languages valued?

Could everyone participate?

What can we improve next time?