Sefydlwyd yr Undeb yn 1872 a pherthyn iddo rhyw 400 o eglwysi a 200 o aelodau personol. (2019)
Mae enw’r pencadlys, Tŷ John Penri yn Abertawe yn gwreiddio’r Undeb yn y cyffro Piwritanaidd ac yn talu gwrogaeth i’r gwron o lethrau Epynt a ystyrir yn un o Annibynwyr cyntaf Cymru. Yn ei hanfod chwaer/brawdoliaeth yw’r Undeb gyda’i aelodau, yn eglwysi ac unigolion, yn dewis bod mewn perthynas wirfoddol â’i gilydd. Cadwyno a chadarnhau’r berthynas hon wna’r pymtheg cyfundeb sy’n seilio bywyd a gwaith yr Undeb.
Nid oes gan yr Undeb unrhyw awdurdod dros yr eglwysi ac o ganlyniad mae’r pwyslais ar gynorthwyo a gwasanaethu yn hytrach nag ar reoli a llywodraethu. I gyflawni’r dasg honno’n effeithiol a da geilw’r Undeb ei Gyngor i eistedd ddwy waith y flwyddyn. Fforwm drafod ydyw â’i waith yn rhannu i bedair adran, yr Eglwysi a’u Gweinidogaeth, y Genhadaeth a’r Eglwys fyd-eang, Dinasyddiaeth Gristnogol a Thystiolaeth. Adleisir ffrwyth y trafodaethau hyn yn Y Pwyllgor Gweinyddol sy’n cyfarwyddo’r elusen ac sy’n atebol yn y pendraw i’r Gynhadledd Flynyddol. Yr eglwysi, trwy eu cynrychiolwyr ynghyd â’r aelodau unigol piau’r hawl i bleidleisio yn honno.
Mae’n falch o’i berthynas ag eglwysi eraill trwy Cytûn, Cyngor yr Eglwysi Rhyddion, Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang, Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd a Chymdeithas Annibynwyr y Byd.
Bu’n frwd erioed dros hyrwyddo cyfiawnder a heddwch gan ystyried gwaith Cymorth Cristnogol yn greiddiol i’w weithgarwch.
Cyhoedda Y Tyst a Dyma’r Undeb ac mae’n weithredol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gwefan: www.annibynwyr.org