Undeb Bedyddwyr Cymru

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn Undeb o eglwysi Bedyddiedig annibynol, sy’n rhan o 10 Cymanfa. Sefydlwyd yr Undeb yn 1866, a ceir hanes llawn yr Undeb yn y gyfrol Undeb Ysbryd a Rhwymyn Tangnefedd: Hanes Undeb Bedyddwyr Cymru, 1866-2016 a olygwyd gan D Densil Morgan.

Nod Undeb Bedyddwyr Cymru yw hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol yng Nghymru a hybu cenhadaeth ymhlith ein cymunedau. Rydym yn Undeb o Gymanfaoedd sy’n cynnwys 380 o eglwysi wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig, pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd ac ar led Cymru. Mae’r Undeb yn ymrannu’n ddwy adain, y naill yn Gymraeg ei hiaith a’r llall yn Saesneg ei hiaith. Credwn fod Cariad Duw a amlygwyd yn Iesu Grist â’r grym i drawsnewid bywydau unigolion a chymunedau ac i gyfeirio bywyd ein cenedl.

Mae gan yr Undeb swyddfa yng Nghaerfyrddin, gyda staff gweinyddol, cenhadol a gweinidogaethol. Yr Ysgrifennydd Cyffreinol cyfredol yw’r Parchedig Judith Morris.

Mae gan yr Undeb yr adrannau canlynol:

Y Gynhadledd Flynyddol
‘Cyngor’ Cymraeg a di-Gymraeg
Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Bwrdd y Weinidogaeth
Bwrdd y Genhadaeth
Bwrdd Dinasyddiaeth
Pwyllgor Cyllid
Mae aelodaeth y byrddau hyn yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r holl Gymanfaoedd ynghyd â swyddogion yr Undeb.

Mae’r Cymanfaoedd Cymraeg yn cynnwys:

  • Cymanfa Môn
  • Cymanfa Arfon
  • Cymanfa Dinbych, Fflint a Meirion
  • Cymanfa Caerfyrddin a Cheredigion
  • Cymanfa Penfro
  • Cymanfa Gorllewin Morgannwg
  • Cymanfa Dwyrain Morgannwg

Mae gan pob Cymanfa Arolygwr ac Ysgrifennydd sy’n cefnogi’r eglwysi lleol yn eu gwaith.

Mae’r Cymanfaoedd di-Gymraeg yn cynnwys:

  • Cymanfa Penfro
  • Cymanfa Gwent
  • Cymanfa Brycheiniog

Am fwy o fanylion ewch i wefan: www.buw.org.uk