Rydym yn bodoli fel y gall pawb fod yn rhydd o newyn.
Rydym yn elusen gwrth-dlodi ac yn gymuned o fanciau bwyd. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau nad oes angen banc bwyd ar unrhyw un yn y DU i oroesi, tra’n darparu bwyd a chymorth ymarferol i bobl sy’n cael eu gadael heb ddigon o arian i fyw arno.
Sut mae banciau bwyd yn gweithio
Mae banciau bwyd yn darparu bwyd brys a chymorth ymarferol i bobl sydd wedi cael eu gadael heb ddigon o arian i fyw arno.
Gyda’n gilydd, rydym yn:
Rwydwaith o 1,400 o leoliadau banc bwyd
36,000 o wirfoddolwyr
100,000au o grwpiau cymunedol ac ysgolion, a miliynau o bobl ledled y DU
Rydym yn anelu i roi diwedd ar newyn gyda’n gilydd
Yn 2023 dosbarthodd ein cymuned o fanciau bwyd 3.1 miliwn o barseli bwyd brys – y mwyaf erioed mewn un flwyddyn.
Mae angen gweithredu ar frys ar newyn yn y DU. Mae pobl yn cael eu gwthio i’r dibyn oherwydd nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i fyw arno. Ni all hyn fynd ymlaen.
Rydym yn gwrthod sefyll o’r neilltu tra na all cymaint ohonom fforddio bwyta, cadw’n gynnes a thalu’r biliau.
Sut byddwn ni’n rhoi diwedd ar yr angen am fanciau bwyd?
Mae banciau bwyd yn darparu achubiaeth i gynifer o bobl sy’n wynebu caledi, ond ni ddylai fod yn rhaid iddynt fodoli mewn cymdeithas gyfiawn a thosturiol.
Ddim mor bell yn ôl, nid oedd angen banciau bwyd i’r graddau y maent heddiw. Crëwyd ein system nawdd cymdeithasol 80 mlynedd yn ôl i amddiffyn pobl rhag newyn a chaledi, ac am ddegawdau wedi hynny, roedd pobl yn llawer llai tebygol o fod angen cymorth elusen ar gyfer yr hanfodion. Felly rydyn ni’n gwybod y gall pethau fod yn well.
Rydyn ni’n gwybod beth sy’n gwthio pobl i fanciau bwyd, felly rydyn ni’n gwybod y blociau adeiladu sydd eu hangen i roi diwedd ar newyn am byth.
Gwefan: www.trussell.org.uk