Tractiau ac adnoddau cenhadol

Y 4 Pwynt

4-points

T4PTRACKBMae Y 4 Pwynt yn dract Cristnogol sydd ar gael mewn nifer o ieithoedd gan gynnwys erbyn hyn y Gymraeg! Mae’r tract yn defnyddio pedwar symbol – calon (mae Duw’n fy ngharu) croes X (Rydw i wedi pechu), croes Crist (Bu Iesu farw drosof) a marc cwestiwn (Rhaid i mi benderfynu byw er mwyn Duw).

I archebu’r tractiau Cymraeg cliciwch YMA.

blackband1Ar y wefan yn ogystal mae llawer iawn o adnoddau di-iaith gan gynnwys breichledau, capiau, sticeri, crysau-t a hwdis. Dyma adnodd hynod effeithiol i genhadu ymysg plant a ieuenctid.

Ar y tract o dan y symbolau mae’r esboniadau isod:

MAE DUW’N FY NGHARU
Golwg sydyn neu grynodeb o’r Beibl cyfan ydi’r pedwar pwynt, a’r peth cyntaf sydd angen i ti wybod ydi bod Duw wedi gwirioni arnat ti. Mae ei gariad yn ddiderfyn ac yn gwbl ddiamod. Fedri di wneud dim i berswadio Duw i dy garu di’n fwy na llai nag y mae’n dy garu ar hyn o bryd. Y peth mwyaf y mae Duw eisiau yw dy garu di a chael ei garu gennyt.
Salm 100 ad. 5, 1 Ioan 3 ad 16

RYDW I WEDI PECHU
Pechod, meddai’r Beibl, ydi’r hyn sy’n ein gwahanu ni oddi wrth Dduw. Pechod ydi dewis byw er ein mwyn ein hunain yn hytrach nag er mwyn Duw. Rydym yn pechu wrth anwybyddu Duw a thorri ei ddeddfau a gwneud pethau yn ein ffordd ein hunain. Mae pechod yn chwalu’n perthynas â ffrindiau, teulu a Duw. Mae’r Beibl yn dweud bod pechod yn arwain at farwolaeth.
Eseia 59 ad 2, Rhufeiniaid 6 ad 23

BU IESU FARW DROSOF
Mae’r trydydd pwynt hwn yn sôn am un o’r pethau mwyaf a ddigwyddodd yn hanes y ddynoliaeth, ond caiff ei gamddeall yn aml. Y gyfrinach ydi sylweddoli mai marwolaeth ydi’r gosb am bechod. Mae pawb ohonom wedi pechu ac yn haeddu marw. Ond mae Duw, sy’n llawn o drugaredd, wedi dy garu gymaint nes iddo anfon Iesu i farw yn dy le. Bu Iesu farw er mwyn i ni gael bywyd tragwyddol.
1 Ioan 4 ad 9–10, Rhufeiniaid 5 ad 8

RHAID I MI BENDERFYNU BYW ER MWYN DUW
Mae Duw wedi gwneud pob dim posibl i ddangos mor bwysig wyt ti iddo. Nawr, mae’n rhaid i ti benderfynu beth i’w wneud. Mae Duw’n cynnig y bywyd llawnaf posibl i ti am byth. Y cwbl sydd raid i ti ei wneud yw cyfaddef dy fod wedi pechu, gofyn am faddeuant Duw, a phenderfynu byw iddo ef yn unig weddill dy fywyd. Ti bia’r dewis.
Deuteronomium 30 ad 19, 1 Ioan 1 ad 9

GWEDDI
O Dduw, diolch dy fod yn fy ngharu, a diolch dy fod eisiau’r gorau i mi ym mhob sefyllfa. Mae’n ddrwg gen i am dy anwybyddu di a gwneud pethau yn fy ffordd fy hun. Rwy’n sylweddoli fod fy mhechod wedi dy frifo di a’r bobl o’m cwmpas, ac mae’n wir ddrwg gen i am hynny. Diolch, Iesu, am ddod i gymryd y gosb am fy mhechod. Diolch i ti am roi dy fywyd drosof. Maddau i mi, a helpa fi nawr wrth i mi benderfynu byw er dy fwyn di yn unig. Amen.

Sôn am Iesu
Sôn am Iesu
Cwrs newydd i’n helpu i rannu ein ffydd yn hyderus a naturiol gydag eraill.

Beth am i ni Sôn am Iesu gydag eraill

Sgyrsiau gyda Christnogion yw un o’r dylanwadau pwysicaf wrth ddod â phobl i ffydd. Bydd y cwrs hwn yn eich ysbrydoli i rannu eich ffydd a bydd yn rhoi awgrymiadau ymarferol i chi i’ch helpu chi i fod yn naturiol ac yn berthnasol wrth i chi siarad am Iesu gyda’r bobl rydych chi’n cwrdd â nhw.

Mae yna chwe sesiwn hwyliog yn rhan o’r cwrs hwn, gan gynnwys ffilmiau byr, tystiolaethau ysbrydoledig, enghreifftiau go iawn gan bobl sy’n siarad am Iesu, a llyfr cwrs byr, hawdd ei ddilyn. Mae’r adnodd ar gael ar gyfrwng DVD neu USB ar gyfer eich grwpiau cartref – mae’r llyfr yn Gymraeg, a’r ffilmiau i gyd wedi eu is-deitlo yn Gymraeg (ond Saesneg yw iaith lafar wreiddiol y ffilmiau).

Beth alla i ei wneud i rannu fy ffydd?
Gallwch chi ddangos y ffilm fer sy’n gyflwyniad i’r cwrs i’ch eglwys ar ddydd Sul, neu trwy’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol eich eglwys, i annog pawb yn eich eglwys i fynd ar y daith arbennig o dystio i Iesu. Yna defnyddiwch y cwrs ffilmiau mewn grwpiau bach yn ystod yr wythnos, gan wylio’r fideo, ei drafod, ei gymhwyso i’ch sefyllfa, a gweddïo gyda’n gilydd yn gofyn i Dduw eich helpu chi i wneud Iesu’n hysbys. Y nod yw arfogi Cristnogion i wneud y mwyaf o bob cyfle i helpu ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau o’r teulu i ystyried Iesu drostynt eu hunain ac i ddod yn ddilynwyr iddo. Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd i siarad am Iesu a rhannu eu ffydd. Bydd y cwrs hwn yn eich ysbrydoli i rannu’ch ffydd.

Meddai rhai sydd wedi dilyn y cwrs:
‘Mae’r ymateb i’r cwrs wedi bod yn fwy nag y gallwn fod wedi gobeithio amdano. Soniodd un dyn yn ei 50au iddo gael sawl sgwrs gyda phobl mae wedi cyfarfod â nhw wrth gerdded ei gi. Soniodd dyn hŷn arall am sut mae wedi achub ar y cyfle i siarad am ei ffydd a’i obaith yn Iesu pan ofynnwyd iddo am ei driniaeth ar gyfer canser. Mae pawb ar y cwrs wedi siarad am sut maen nhw’n gweddïo am y pum enw y gwnaethon nhw eu hysgrifennu i lawr ar wythnos un, ac mae llawer bellach wedi cael cyfleoedd i siarad â rhai ohonyn nhw am Iesu. ‘
‘Erbyn hyn, rwy’n teimlo fy mod wedi cael pecyn cymorth i’w ddefnyddio mewn pob math o gyd-destunau, ac rwyf wedi cael sgyrsiau gwych o ganlyniad. Rwy’n gwybod nawr mai siarad am Iesu yw fy swydd i – bydd y gweddill i fyny i Dduw! ’

Bydd y chwe sesiwn Sôn am Iesu yn eich ysbrydoli i rannu eich ffydd yn hyderus ac yn naturiol. Y nod yw eich paratoi chi i wneud y mwyaf o bob cyfle i helpu ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau o’r teulu i ystyried Iesu drostynt eu hunain ac i ddod yn ddilynwyr iddo.

Mae’r pecyn yn cynnwys chwe fideo hyfforddi, ynghyd â ffilmiau ar ffurf dameg a llyfryn cwrs 44 tudalen sy’n cyd-fynd ag ef. Gellir prynu copïau ychwanegol o’r llyfryn ar wahân ar gyfer aelodau’r grŵp.

Cliciwch isod am fwy o wybodaeth ac i lawrlwytho’r adnoddau sydd ag opsiwn is-deitlau Cymraeg:

talkingjesus.org/course

Dyma ffilm fer yn rhoi rhagflas o’r cwrs: