Sefydlwyd Tir Dewi gan yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Aberteifi a’r Esgob Wyn (nawr wedi ymddeol) yn 2015. Roeddent yn cydnabod y ffaith bod angen dybryd am help i ffermwyr a oedd yn dioddef amserau anodd.
Gyda chefnogaeth ariannol hael yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Tyddewi) a Chronfa Cefngwlad y Tywysog, gallodd Eileen sefydlu Tir Dewi fel llinell gymorth werthfawr a gwasanaeth gefnogaeth, naill ai drwy ffonio, neu, fel bo’n addas, ar y fferm, i ffermwyr Gorllewin Cymru.
Wedi dechreuadau bach, pan roedd Eileen yn dosbarthu taflenni gwybodaeth i’r gymuned ffermio leol, tyfodd yr elusen ymhell uwch ein disgwyliadau. Y mae Tir Dewi wedi llwyddo i helpu cannoedd o ffermwyr a’u teuluoedd a oedd, mewn un ffordd neu’r llall, yn ymdrechu i ymdopi. Heddiw, gall ffermwyr mewn angen drwy Gymru gael mynediad at wasanaethau Tir Dewi.
Ein bwriad yw eich helpu i ddod o hyd i’r ffordd orau ymlaen i chi ac i’ch cefnogi chi i gymeryd y camau cywir i gyrraedd yno.
Hyd yn hyn yr ydym wedi sefydlu Tir Dewi yn ardaloedd Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Powys, Conwy, Sir Fôn, Gwynedd a Gŵyr.
Yr ydym yn chwilio’n barhaol i ehangu ein gwaith yn y gobaith y byddwn ryw ddydd, yn gwasanaethu ffermwyr ar draws Cymru gyfan – Tir Dewi.
Gwefan: tirdewi.wales