Mae Through the Roof yn elusen gofrestredig sy’n bodoli i drawsnewid bywydau pobl gydag anghenion arbennig sy’n rhan o fywyd yr eglwysi.
Daw enw’r elusen o’r hanes Beiblaidd lle mae rhai dynion yn torri trwy’r to i helpu eu ffrind anabl i gwrdd â Iesu (Luc 5). Rydym yn cydnabod bod pob person yn cael ei wneud ar ddelw Duw a bod ganddo werth cynhenid, sy’n cynnwys pobl sydd â phrofiad personol o anabledd.
Mae dros 1 biliwn o bobl anabl yn byw yn y byd heddiw, ac 16 miliwn yn y DU (24% o’r boblogaeth). Dengys ystadegau fod person anabl yn fyd-eang yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi ac arwahanrwydd ac o ddioddef trosedd a gwahaniaethu. Maent yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth a bod ganddynt lai o fynediad at addysg, trafnidiaeth, tai priodol a’r rhyngrwyd (Swyddfa Materion Anabledd). Mae cost magu plentyn anabl deirgwaith yn fwy na magu plentyn nad yw’n anabl (Scope).
Mae gan lawer o’n hymddiriedolwyr ymroddedig, ein tîm staff, gwirfoddolwyr a rhoddwyr brofiad personol o anabledd ac maent yn ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl anabl a’u teuluoedd trwy:
> Darparu cyfleoedd i newid bywydau pobl anabl
> Galluogi’r gymuned Gristnogol i gynnwys pobl anabl yn llawn
Gwefan: throughtheroof.org