Mae llawer o adnoddau a gwasanaethau ar gael y gall eglwysi eu defnyddio i foderneiddio eu dulliau cyfathrebu, cyflwyno’r defnydd o dechnoleg i hwyluso oedfaon y Sul a hefyd cynhyrchu adnoddau digidol i rannu am waith yr eglwys a neges y ffydd Gristnogol ar-lein.
Mae llawer o adnoddau a gwasanaethau ar gael am ddim, ac eraill yn wasanaethau y gellid tanysgrifio iddynt.
Dau wasanaeth dylunio mae llawer yn defnyddio bellach i baratoi pethau fel sleidiau PowerPoint deniadol, graffeg yn hysbysebu oedfaon a digwyddiadau’r eglwys neu graffeg i ddefnyddio fel rhan o oedfa ar-lein yw:
Canva (Am ddim, primiwm yn £100 y flwyddyn ond os yw eich eglwys wedi cofrestru fel elusen gall wneud cais i gael cyfri primiwm am ddim)
Adobe Express (Am ddim)
Adobe Creative Cloud (Meddalwedd lefel proffesiynol, mis cyntaf am ddim yna £60 y mis)
Er ei fod yn hawdd ac yn demtasiwn i gymryd y llun cyntaf y byddwch chi’n ei ddarganfod ar Google i ddefnyddio yn eich oedfa neu ar eich poster mae’n bosib y byddwch chi yn torri’r gyfraith ac yn defnyddio llun sydd dan hawlfraint. Ond nid oes angen poeni oherwydd mae nifer o wasanaethau sy’n cynnig lluniau ‘royalty-free’ o safon uchel.
Yn debyg i gerddoriaeth, mae’n bwysig fod eglwysi yn glynu at ddefnyddio deunydd ffilm a fideo sydd a’r hawlfraint wedi ei chlirio. Dyma rai gwasanaethau sy’n cynnig deunydd addas i’w ddefnyddio mewn oedfaon:
Canva (Yn ogystal a bod yn feddalwedd dylunio mae modd golygu ffilmiau ar Canva hefyd a chael mynediad i’w catalog eang o glipiau ffilm rhydd o hawlfraint i’w defnyddio)
Videvo (Llawer o ddeunydd am ddim, ac yn opsiwn i dalu am adnoddau pellach)
Canva (Am ddim, primiwm yn £100 y flwyddyn ond os yw eich eglwys wedi cofrestru fel elusen gall wneud cais i gael cyfri primiwm am ddim)
Adobe Creative Cloud (Meddalwedd lefel proffesiynol, mis cyntaf am ddim yna £60 y mis)
iMovie (Am ddim, ar gyfer cyfrifiaduron Apple. Mae fersiwn syml o’r meddalwedd ar gael i’r iPhone ac iPad hefyd)
Final Cut Pro (Meddalwedd yn cynnig gwasanaethau mwy proffesiynol i gyfrifiaduron Apple. £299.99)
Windows Video Editor (Am ddim, meddalwedd syml i gyfrifiaduron Windows)
Davinci Resolve (Am ddim am y pecyn sylfaenol, $295 am y pecyn llawn)
Y cam cyntaf yw golygu yr oedfa, torri allan rhai elfennau ayb… Mae modd gwneud hynny yn defnyddio’r meddalwedd golygu ffilm a nodir isod ac yna dewis ‘export audio only’ (neu osodiad tebyg). Neu mae yna feddalwedd golygu sain da am ddim sef:
Ar ôl gorffen paratoi y ffeil MP3 i’w rannu gyda’r byd bydd angen ei gyhoeddi ar blatfform sy’n cynnig gwasanaeth RSS fel ei fod yn dangos i fyny ar wasanaethau tanysgrifio i bodlediadau fel Apple Podcast a Spotify. Dyma ddau wasanaeth:
Soundcloud (Am ddim am wasanaeth syml, £75 y flwyddyn am wasanaeth llaw. Yn anffodus nid yw Soundcloud yn caniatad i chi dagio eich deunydd fel deunydd ‘Cymraeg’ felly rhaid ei dagio fel ‘English’, ond yn achlysurol bydd algorythm Apple Podcast yn adnabod nad mewn Saesneg mewn gwirionedd mae eich deunydd a gall arwain i’ch podlediad gael ei wahardd. O ganlyniad mae rhai eglwysi yn dewis talu am wasanaeth primiwm gan Fireside i fynd o amgylch y cyfyngiad yma gan Soundcloud).
Fireside (Gwasanaeth primiwm safonol i gyhoeddi podlediadau, $19 y mis)
OBS (Am ddim, ar gael i Windows ac Apple Mac)
Ecamm Live (Gwasanaeth primiwm, Apple Mac yn unig. $192 y flwyddyn)
Platfformiau ffrydio i fwy nag un gwasanaeth yr un pryd (e.e. i Facebook ac Youtube):
Restream ($190 y flwyddyn)
Stream Yard (Pecyn sylfaenol Am Ddim, yna $44 y mis)
Y tri meddalwedd taflunio mwyf cyfarwydd a syml yw:
Microsoft PowerPoint
Apple Keynote
Google Slides
Ond os ydych chi eisiau mynd a phethau gam ymhellach a symud i system integredig yn y cwmwl mae nifer o eglwysi yn defnyddio meddalwedd Presenter gan WorshipTools. Mantais system fel hyn yw fod nifer o bobl wahanol yn gallu rhoi oedfa at ei gilydd e.e. gall y pregethwr logio mewn a llwytho sleidiau ei bregeth, gall yr ysgrifennydd logio mewn a llwytho sleidiau’r cyhoeddiadau a gall yr organydd neu’r arweinydd mawl logio mewn i lwytho sleidiau’r emynau. Yna ar fore dydd Sul bydd pob dim yna gyda’n gilydd yn barod i fynd!
Presenter – WorshipTools (Pecyn sylfaenol am ddim, ac yna $195 neu $295 y flwyddyn am y pecynau uwch)
Mewn egwyddor mae modd ffrydio’n fyw o’ch eglwys i’r byd yn defnyddio dim byd mwy na’r camera a’r meicroffôn sydd ar eich gluniadur neu eich iPad. Fodd bynnag, er mwyn edrych a swnio’n dda bydd gwerth buddsoddi mewn rhywfaint o offer.
Offer sain
Os mae yr unig beth sy’n bwysig i chi yw fod llais yr arweinydd/pregethwr yn cael ei glywed yna yr unig beth sydd angen sicrhau yw fod yna feicroffôn o safon o flaen y siaradwr a fod hwnnw wedi ei gysylltu gyda’r gluniadur sy’n gwneud y ffrydio byw. Mae llawer yn defnyddio Blue Yeti Microphone (tua £100) sy’n cysylltu syth i mewn i’ch cyfrifiadur drwy USB tra bydd eraill yn ffafrio defnyddio meicroffonau confensiynol fel y Shure SM58 (tua £100) a’i gysylltu gyda’r cyfrifiadur drwy Audio Interface tebyg i Focusrite Scarlett Solo (£140).
Bydd eglwysi sydd wedi arfer addoli cyfoes yn defnyddio band llawn ac yn dymuno i’r addoliad swnio’n weddol ar y ffrwd byw yn gorfod ystyried ffrydio’r sain yn defnyddio desg ddigidol sy’n rhoi opsiwn i chi greu broadcast mix sy’n wahanol i’r sain byw yn yr eglwys ei hun. Mae nifer o eglwysi bellach yn defnyddio ac yn argymell y desgiau sain canlynol ar gyfer eglwysi sy’n dymuno darlledu addoliad byw sydd â band llawn:
Allen & Heath QU-16 (£1,985)
Behringer X32 (£1,799)
Yamaha DM3-S (£1,499)
Offer camera
I’r dechreuwyr
Elgato Facecam MK.2 (£140)
I’r rhai sydd am fentro ymhellach
Unrhyw gamera DSLR neu Mirrorless (gan Canon, Sony, Nikon ayb…) sy’n cynnig gwasanaeth HDMI-out. Nid yw pob camera yn cynnig y gwasanaeth yma felly gwnewch eich gwaith cartref! Pris o £300 i fyny.
I’r rhai sydd am y gorau
PTZOptics
Camera o ansawdd uchel y gellid ei osod allan o’r ffordd ac yna ei reoli fel robot i droi a zoomio mewn ac allan ar wahanol bwyntiau/llefydd yn eich eglwys. Mae modd darlledu’r llun dros rwydwaith NDI felly nid oes rhaid i’r camera fod wedi ei leoli reit wrth ymyl y cyfrifiadur sy’n darlledu’r oedfa i’r byd. Gwahanol fodelau ar gael o £800 fyny at £2,000.
Bydd yr erthygl hon gobeithio yn rhoi rhai syniadau ac awgrymiadau i’ch helpu i wella llif byw eich eglwys, er mwyn gwneud eich cenhadaeth yn fwy effeithiol.
Cynghorion i wella profiad ffrwd fyw’r Eglwys
1. Dewiswch ‘Lwyfan’ sy’n addas i anghenion eich eglwys
Mae yna amryw o lwyfannau ffrydio byw ar gael, pob un â’i nodweddion a’i gyfyngiadau ei hun. Gall fod yn broses hir a chymhleth i ddod o hyd i blatfform sy’n gweddu i anghenion eich cynulleidfa chi. Er y gall dewis platfform eglwys ar-lein fod yn broses heriol, mae ganddo’r potensial i wella ansawdd profiad digidol eich eglwys. Cymerwch eich amser ac ystyriwch opsiynau amrywiol a allai fod yn addas.
2. Buddsoddi mewn offer ar gyfer ffrydio o ansawdd gwell
Agwedd bwysig ar lif byw llwyddiannus yw offer o ansawdd uchel. Gall buddsoddi mewn camera, meicroffon ac offer goleuo da wneud gwahaniaeth sylweddol yn ansawdd eich oedfa.
3. Profwch eich offer ymlaen llaw i sicrhau bod popeth yn gweithio’n gywir
Cyn mynd yn fyw, mae’n hanfodol profi’ch offer i sicrhau bod popeth yn gweithio’n iawn. Nid ydych am wynebu anawsterau technegol yn ystod eich ffrwd, gan y gall fod yn rhwystredig i chi a’ch addolwyr.
4. Defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar gyfer hyrwyddo ac ymgysylltu
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf ardderchog ar gyfer hyrwyddo eich llif byw a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Defnyddiwch lwyfannau fel Facebook, Twitter, ac Instagram i hysbysebu’ch ffrwd ac er mwyn cynnal deialog gyda’ch cynulleidfa.
5. Cynlluniwch raglen a threfn eich ffrwd ymlaen llaw
Gall cael cynllun yn ei le cyn mynd yn fyw eich helpu i aros yn drefnus a sicrhau bod eich ffrwd yn rhedeg yn esmwyth. Crëwch amlinelliad o’r gwasanaeth, gan gynnwys caneuon, gweddïau a phregethau.
6. Ystyriwch eich golygfa cefndir ar gyfer golwg fwy proffesiynol
Gellir gwella ansawdd llif byw eich eglwys fod mor syml â newid y cefndir. Gall eich cefndir effeithio’n sylweddol ar ansawdd eich cyfarfod. Er ei fod yn ymddangos yn syml, gall cefndir sy’n syml ac nad yw’n tynnu sylw helpu i greu awyrgylch addolgar a chartrefol.
7. Mae goleuadau priodol yn hanfodol
Gall goleuadau priodol wella ansawdd eich cyfarfod a’i wneud yn fwy deniadol i’ch gwylwyr. Gwnewch yn siŵr bod eich goleuadau’n ddigon llachar ac wedi’u dosbarthu’n gyfartal. Gofalwch nad oes golau arall e.e. haul neu golau nenfwd yn amharu ar eich camera.
8. Dewiswch y meicroffon cywir ar gyfer gwell ansawdd sain
Gall y meicroffon cywir wneud gwahaniaeth sylweddol yn ansawdd sain eich cyfarfod. Dewiswch feicroffon sy’n addas i’ch anghenion ac sy’n gydnaws â’ch offer.
9. Profwch eich cysylltiad rhyngrwyd ar gyfer ffrydio sefydlog a dibynadwy
Profwch eich cysylltiad rhyngrwyd ymlaen llaw i sicrhau ei fod yn sefydlog ac yn ddigon cyflym ar gyfer ffrydio. Efallai bydd angen newid neu symud lleoliad er mwyn gofalu bod y ffrydio yn llyfn a chlir.
10. Cysylltwch â’ch cynulleidfa er mwyn i bawb deimlo eu bod yn rhan o’r addoliad
Gall gysylltu â’ch addolwyr wneud eich llif byw yn fwy rhyngweithiol a phleserus. Mae negeseuon personol a chroeso cynnes gan dîm lletygarwch yr eglwys yn gwneud byd o wahaniaeth. Anogwch yr addolwyr sydd ar lein i adael sylwadau a chwestiynau gan ofalu eich bod yn ymateb iddynt yn ystod y ffrwd.
11. Ystyried capsiwn caeedig
Gall capsiynau caeedig wneud eich ffrwd yn fwy hygyrch i addolwyr sydd â nam ar eu clyw. Ystyriwch ychwanegu capsiynau caeedig at eich ffrwd i gael profiad gwell i bawb.
12. Hyrwyddo eich ffrwd cyn amser y cyfarfod
Gall hyrwyddo eich ffrwd o flaen amser helpu i adeiladu disgwyliad ar gyfer eich gwasanaeth. Gallwch greu fideo hyrwyddo neu graffig i’w rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, gan rannu’r ddolen i wahodd ffrindiau a theulu i ymuno â’ch gwasanaeth ar-lein.
13. Defnyddiwch fwy nag un camera os yn bosibl
Ynghyd ag elfennau gweledol y gellir eu hymgorffori fel graffeg, ffilmiau a sleidiau, gall ychwanegu onglau camera gwahanol gyfrannu llawer iawn at y profiad gweledol hefyd! Gall y cyfle i weld y gwasanaeth cyfan, y rhai sy’n rhan o’r addoliad yn y capel a’r siaradwyr helpu’r rhai sydd adref, er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cymryd rhan yn y gwasanaeth.
14. Bod â chynllun wrth gefn ar gyfer anawsterau technegol
Gall anawsterau technegol ddigwydd, felly mae bob amser yn syniad da cael cynllun wrth gefn rhag ofn i rywbeth fynd o’i le. Trwy dempledi cyhoeddiadau, paratowch neges rhag ofn y bydd unrhyw beth yn codi. Mae bob amser yn dda bod yn barod a rhoi gwybod i’ch cynulleidfa am unrhyw anawsterau technegol sy’n codi.
15. Ymgorffori elfennau gweledol ar gyfer profiad mwy dynamig
Gall elfennau gweledol fel graffeg, sleidiau, a fideos wneud eich ffrwd yn fwy deniadol a deinamig. Ymgorfforwch yr elfennau hyn yn eich gwasanaeth i gadw diddordeb eich gwylwyr.
16. Buddsoddwch mewn meddalwedd golygu
Os yw’ch ffrydiau wedi’u recordio ymlaen llaw, neu os yw’ch eglwys yn ail-ffrydio gwasanaethau byw, gall golygu wneud gwahaniaeth. Gall buddsoddi mewn meddalwedd golygu eich helpu i greu ffrydiau byw mwy deniadol ac apelgar. Mae hyn yn gyfle i olygu unrhyw gamgymeriadau neu gyfnodau distaw i wneud yr oedfa yn fwy deniadol.
17. Gofalu bod yna dîm neilltuol i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn llyfn
Mae cael tîm ymroddedig i reoli’r llif byw yn ffordd o sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth. Mae casglu tîm yn allweddol i brofiad llif byw llyfn. Dewch â thîm at ei gilydd ar gyfer eich gwasanaeth eglwysig. Os oes angen, neilltuwch rolau technegol ar gyfer camera, sain neu gyfryngau cymdeithasol i wahanol aelodau’r tîm.
18. Ystyriwch eich amserlen ffrydio
Gall dewis yr amser iawn i ffrydio effeithio’n sylweddol ar eich addolwyr. Boed wedi’i recordio ymlaen llaw neu’n fyw, ystyriwch eich cymuned bresennol (neu gynulleidfa darged) a dewiswch amser sy’n gweithio iddyn nhw. Mewn platfformau ffrydio mae modd amseru pan fydd ffrwd yn mynd yn fyw. Sicrhewch fod pawb yn cael y ddolen ac yn nodi eu calendrau.
19. Peidiwch ag anghofio am hawlfraint i osgoi heriau cyfreithiol
Gall defnyddio deunydd hawlfraint heb ganiatâd arwain at faterion cyfreithiol. Sicrhewch fod gennych y caniatâd a’r trwyddedau angenrheidiol ar gyfer unrhyw ddeunydd hawlfraint a ddefnyddir yn ystod eich ffrwd.
20. Olrhain data i wella ffrydiau’r dyfodol
Gall dadansoddi data roi darlun i chi ar dwf – mae data ffrwd yn eich helpu i ddeall beth weithiodd yn dda a beth na weithiodd yn dda. Mae defnyddio offer dadansoddi i gofnodi ac olrhain presenoldeb pobl yn rhoi mantais enfawr i chi i wella ffrydiau’r dyfodol.
I grynhoi
I gloi, mae gwella llif byw eich eglwys yn gofyn am gynllunio, trefnu a rhoi sylw i fanylion. Trwy ddilyn yr 20 awgrym syml a amlinellir yn y canllaw hwn, gallwch greu ffrwd fyw ddeniadol o ansawdd uchel sy’n cysylltu â’ch cynulleidfa ac yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.