Mae Tearfund yn elusen Gristnogol sy’n partneru ag eglwysi mewn mwy na 50 o wledydd tlotaf y byd. Rydym yn mynd i’r afael â thlodi ac anghyfiawnder drwy ddatblygu cynaliadwy, drwy ymateb i drychinebau a herio anghyfiawnder. Credwn ei bod yn bosibl rhoi diwedd ar dlodi eithafol.
Mae miloedd o bobl yn dioddef yn ddiangen ac yn marw bob dydd oherwydd tlodi. Ond nid dyna gynllun Duw ar gyfer y byd. Ac mae Duw yn eich galw chi – pob un ohonom – i estyn allan at y bobl fwyaf anghenus. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag eglwysi a sefydliadau lleol sydd â rhan hollbwysig i’w chwarae yn y mannau sy’n cael eu heffeithio waethaf gan dlodi.
Gwefan: www.tearfund.org