Scripture Union

Elusen Gristnogol yw Scripture Union, sy’n gwahodd plant a phobl ifanc i archwilio’r gwahaniaeth y gall Iesu ei wneud i heriau ac anturiaethau bywyd.

Trwy ystod eang o weithgareddau a mentrau, rydyn ni’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc archwilio’r Beibl, ymateb i Iesu a thyfu mewn ffydd. Rydym hefyd yn darparu rhai adnoddau gwych i helpu eraill i wneud yr un peth.

Credwn y dylai pob plentyn gael y cyfle i ddarganfod Iesu, waeth beth fo’u cefndir, oedran, ethnigrwydd, rhyw, rhywioldeb, neu unrhyw agwedd arall o’u hunaniaeth. A chydag amcangyfrif o 95% o blant Cymru a Lloegr belach ddim yn rhan o eglwys, rydyn ni’n gweithio’n galetach nag erioed i fynd â newyddion da Iesu y tu hwnt i’r eglwys mewn ffyrdd cyffrous a diwylliannol berthnasol.

Rydyn ni’n credu mai newyddion da’r Beibl yw bod Duw yn caru pawb! Pob dyn, gwraig a phlentyn. Ac y dylai pob unigolyn gael y cyfle i archwilio pwy yw Duw a’r gwahaniaeth y gall ei wneud yn eu bywydau.

Gwefan: www.scriptureunion.org.uk