Rhaglen radio 30 munud ar fore Sul ar BBC Radio Cymru, lle mae John Roberts a’i westeion yn trafod materion moesol a chrefyddol. Mwy o wybodaeth ar wefan:
www.bbc.co.uk/programmes/b007rkdq
Caniadaeth Y Cysegr
Ceir hefyd rhaglen o ganu emynau yn wythnosol ar Radio Cymru, sef Caniadaeth Y Cysegr, sy’n cael ei ddarlledu ar dydd Sul am 4.30yh ac ar alw ar ôl hynny.
Oedfa’r Bore:
Rhaglen radio ar fore Sul sy’n oedfa Gristnogol yn cael ei ddarlledu o gapel neu eglwys yng Nghymru.
Mwy o wybodaeth ar wefan:
www.bbc.co.uk/programmes/b007rkz3
Rhaglen deledu ar sianel S4C sy’n cynnwys canu emynau cynulleidfaol wedi eu plethu gyda sgyrsiau a chyfweliadau.
Mae’r gyfres grefyddol Dechrau Canu Dechrau Canu wedi bod yn rhan annatod o amserlen S4C ers 1989, ond o hyn ymlaen bydd pump cyflwynydd newydd yn ymuno âr rhaglen. Yn eu plith mae cyflwynydd BBC News at Ten, Huw Edwards, a’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens sydd wedi dweud yn y gorffennol mai’r emyn ‘Mor Fawr Wyt Ti’ yw’r gân olaf mae’n gwrando arni cyn camu ar y cae. Y cyflwynydd Lisa Gwilym, yr actor a cherddor Ryland Teifi a’r cyflwynydd Nia Roberts, sydd wedi cyflwyno’r gyfres yn y gorffennol, sy’n cwblhau’r rhestr.
Mae’r gyfres yn cynnwys canu mawl mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru a chyfweliadau gyda phobl am eu ffydd a chredoau. Bydd rhaglenni arbennig yn ystod y flwyddyn yn nodi’r dyddiadau pwysig yn y calendr crefyddol ac achlysuron cenedlaethol.
Mwy o wybodaeth ar wefan:
www.s4c.cymru/cy/cerddoriaeth/dechrau-canu-dechrau-canmol/
Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol
Dydd Sul am 11yb, yn dechrau 29 Mawrth 2020
Caneuon, myfyrdod a gweddi syml.
Teledu Annibynwyr
Oedfa yn cael eu rhannu yn wythnosol gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Daw yr oedfa o rywle gwahanol (ac arweinydd gwahanol) yn wythnosol.
Sianel ‘Salem Tonteg’
Oedfaon Cymraeg (a Saesneg) o Salem Tonteg dan arweiniad Rosa Hunt.
Sianel ‘Gofalaeth Y Priordy, Cana a Bancyfelin Sir Gâr’
Oedfaon, myfyrdodau a sgyrsiau plant o gapel y Priordy yng Nghaerfyrddin o dan ofal Beti-Wyn James.
Sianel ‘Ebeneser Caerdydd’
Oedfaon, darlleniadau, gweddiau, tystiolaethau o Ebeneser Caerdydd o dan arweiniad Alun Tudur ac eraill.
Sianel ‘Caersalem Caernarfon’
Oedfaon, myfyrdodau, ffilmiau byr a caneuon mawl gan rhys Llwyd a thîm addoli eglwys Caersalem Caernarfon.
Sianel ‘Capel y Ffynnon’
Oedfaon a myfyrdodau byr yng ngofal Dafydd Job o Gapel y Ffynnon Bangor.
Sianel ‘Y Tabernacl, Llwynhendy’
Oedfaon yn Gymraeg (a Saesneg) o dan arweiniad John Treharne o gapel Tabernacl Llwynhendy.
Sianel ‘Eglwys Gymraeg Canol Llundain’
Oedfaon dwy-ieithog o Eglwys Gymraeg Canol Llundain dan ofal Rob Nicholls.
Sianel ‘Eglwys Dewi Sant, Caerdydd’
Oedfa Gymraeg o Eglwys Dewi Sant, Caerdydd dan arweiniad Dyfrig Lloyd.
Sianel ‘Eglwysi Bro Aled’
Oedfaon dan arweiniad Rhodri Glyn, Llansannan i foli Duw a myfyrio ar Iesu Grist fel yr Un y gallwn ddibynnu’n llwyr arno.
Sianel ‘Dafydd Huw’ sef Tabernacl, Caerdydd
Oedfaon a chyrddau gweddi o gapel y Tabernacl Caerdydd gan amryw o bobl.
Sianel ‘Eglwys Efengylaidd Ardudwy’
Gwasanaethau wythnosol o eglwys Efengylaidd Ardudwy o dan arweiniad Dewi Tudur
Sianel ‘Aled Jones’
Myfyrdodau ac oedfaon gan Aled Jones, swyddog hyfforddiant Undeb yr Annibynwyr.
Sianel ‘Emyr James’ sef Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Caerdydd
Gwasanaethau o eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd o dan arweiniad Emyr James a negeseuon gan E Wyn James hefyd.
Sianel ‘Teledu Cildwrn – Hywel Meredydd’
Oedfaon, tystiolaethau, myfyrdodau a sgyrsiau o gapel Cildwrn, Llangefni dan ofal Hywel Meredydd ac eraill.
Sianel ‘Eglwys Efengylaidd Aberystwyth’
Oedfaon a sgyrsiau plant o Eglwys Efengylaidd Aberystwyth.
Sianel ‘Blaenconin Llandysilio’
Gwasanaethau a myfyrdodau o ofalaeth eglwys Blaenconin o dan arweiniad Huw George.
Sianel ‘Penuel Caerfyrddin’
Gwasanaethau o dan arweiniad Aron Treharne o Penuel Caerfyrddin
Sianel ‘Gofalaeth Bro’r Creuddyn’
Gwasanaethau o dan arweiniad Dylan Rhys, Llandudno.
Sianel ‘Bro Dinbych’
Gwasanaethau o dan arweiniad Andras Iago, Dinbych.
Sianel ‘Ygigfranwen’ – Ebeneser Rhydaman
Oedfaon o dan arweiniad John Talfryn Jones, Rhydaman.
Sianel ‘Capel Tanycoed’
Oedfaon o dan arweiniad John Pritchard o eglwys efengylaidd Tanycoed, Llanrug.
Sianel ‘Ceredigion Circuit of the Methodist Church’
Gwasanaethau yn Gymraeg (a Saesneg) gan arweinwyr cylchdaith Methodistaidd Ceredigion.
Sianel ‘Capel Bethesda’
Gwasanaethau a sgyrsiau plant gan Huw a Nan Powell Davies, Bethesda, Wyddgrug.
Y llefarydd Cymraeg yw Alun Gibbard, ac Eirian Wyn sy’n adrodd llais Iesu.
(Noder er bod y teitl yn Saesneg, ond mae’r ffilm ei hun yn gyfangwbl yn y Gymraeg)
https://www.jesusfilm.org/watch/jesus.html/welsh.html
Mae’r ffilm hon yn gyflwyniad perffaith i fywyd a gweinidogaeth Iesu yn cael ei adrodd o berspectif trwy Efengyl Luc. Mae Iesu bob amser yn synnu ac yn herio pobl, o’i eni gwyrthiol hyd at Ei gyfodiad o’r bedd. Dilynwch Ei fywyd trwy ddarnau o Lyfr Luc, gan gynnwys yr holl wyrthiau, ei ddysgeidiaeth, a’r angerdd dros ei bobl.
Mae Duw yn creu popeth ac yn caru dynolryw. Ond mae dynolryw yn anufuddhau i Dduw. Mae Duw a dynolryw wedi eu gwahanu, ond mae Duw yn caru dynolryw gymaint, fel ei fod yn trefnu ffordd i achuby ddynolryw. Mae’n anfon ei Fab Iesu i fod yn aberth perffaith i wneud iawn drosom ni.
Cyn i Iesu gyrraedd, mae Duw yn paratoi’r dynolryw. Mae nifer o broffwydi yn siarad am enedigaeth, bywyd a marwolaeth Iesu.
Mae Iesu’n dysgu mewn damhegion nad oes unrhyw un yn eu deall mewn gwirionedd, yn rhoi golwg i’r deillion, ac yn helpu’r rhai nad oes unrhyw un yn eu hystyried yn werth eu helpu. Mae’n dychryn yr arweinwyr Iddewig, ac maen nhw’n ei weld fel bygythiad. Felly maen nhw’n trefnu, trwy Jwdas y bradwr a’u gormeswyr Rhufeinig, i groeshoelio Iesu. Maen nhw’n meddwl bod y mater wedi’i setlo yn ei farwolaeth ar y groes. Ond mae’r menywod sy’n mynd i chwilioam gorff Iesu yn darganfod bedd gwag. Mae’r disgyblion yn mynd i banig. Pan ymddangosodd Iesu ger eu bron, roedden nhw’n amau nad oedd yn real. Ond dyna’r hyn a gyhoeddodd ef ar hyd ei fywyd: Ef yw eu haberth perffaith, eu Gwaredwr, eu buddugoliaeth dros farwolaeth. Mae’n esgyn i’r nefoedd, gan ddweud wrth ei ddilynwyr i ddweud wrth eraill amdano Ef a’i ddysgeidiaeth.
I wylio’r ffilmiau a lawrlwytho’r nodiadau cysylltiol cliciwch YMA.
2. Holi Hwn a Holi'r Llall – Ifan Gruffydd from EBCPCW on Vimeo.
Anogir pobl i gyfarfod â’i gilydd mewn grwpiau bychan i ddilyn Y Ffordd, gan mai felly y ceir blas ar yr hyn sydd yn y fideo. Dylid defnyddio’r clipau gyda’r deunyddiau print sydd hefyd wedi eu paratoi fel rhan o’r cynllun.
Mae cynllun Y Ffordd yn ymestyn dros bedair blynedd, gyda phedair rhan i bob blwyddyn.
Mae yr holl ffilmiau ac deunydd trafod ar gael am ddim o wefan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Mwy o wybodaeth a lawrlwytho: www.annibynwyr.org
“Yr oedd gan y bobl galon i weithio.” – (Nehemeia 4:6)
Cliciwch YMA i weld y ffilmiau a lawrlwytho deunydd perthnasol.
Negeseuon diweddaraf o Eglwys Caersalem, Caernarfon gan Rhys Llwyd ac eraill. Mae Caersalem yn gymuned anffurfiol o bobl sydd ar daith gyda’n gilydd yn chwilio am, yn darganfod ac yn addoli Iesu. Bydd croeso cynnes i chi ymuno a ni bob amser … ond yn y cyfamser mwynhewch y podlediad!
https://caersalem.fireside.fm/
Podlediad Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd
Rydyn ni’n gasgliad o bobl sy’n dod at ein gilydd yw er mwyn rhannu’r newyddion da am Iesu Grist, i addoli Duw gyda’n gilydd, ac i annog ein gilydd yn ein ffydd. Mae’r podlediad yma’n recordiadau o’r brif neges o’n cyfarfodydd ar y Sul.
http://www.cwmpawd.org/pregethau/
Podlediad Capel y Ffynnon Bangor
https://www.capelyffynnon.org/?page_id=14
Podlediad Capel Cildwrn
http://capelcildwrn.org/?page_id=21
Podlediad Eglwys Efenyglaidd Aberystwyth
http://www.eglwysefengylaiddaberystwyth.co.uk/pregethau/
Recordiadau o bregethau o ŵyl Llanw
http://llanw.org/sain/
Recordiadau o gynhadledd flynyddol Mudiad Efengylaidd Cymru
https://www.mudiad-efengylaidd.org/resource_type/pregethau/
Podlediad Ebeneser Caerdydd
www.soundcloud.com/user-336770346
Podlediad Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin
www.eglwyscaerfyrddin.org/pregethau.htm
Mwy o wybodaeth: www.ysgolsul.com