Offer ac adnoddau eglwysig

Yma ceir fanylion am gwmnïau sy’n cyflenwi adnoddau ac offer i eglwysi. Er nad yw Cyngor Ysgolion Sul yn medru cymeradwyo’r cwmniau hyn yn ffurfiol, maent i gyd yn gwmnïau sydd wedi eu hen sefydlu yn y byd Cristnogol, ac rydym wedi defnyddio llawer ohonynt dros y blynyddoedd

Arddangosfa genedlaethol o adnoddau Cristnogol
Yn flynyddol cynhelir y Christian Resources Exhibition yn Esher yn Swydd Surrey, lle y daw tua 200 o gwmnïau Cristnogol ynghyd i arddangos eu adnoddau ac offer. Ceir rhaglen lawn o seminarau hefyd dros gyfnod o 3 diwrnod. Cynhelir arddangosfeydd rhanbarthol hefyd, yn Manceinion ac yn Stonleigh, Swydd Warwick.

Manylion llawn ar eu gwefan: www.creonline.co.uk

Llyfrau a nwyddau Cristnogol Saesneg
Mae cwmni Eden yn gwmni blaenllaw mewn cyflenwi llyfrau, CD’s a DVD’s, posteri a nwyddau cyffredinol fel canhwyllau ar gyfer eglwysi ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Maent hefyd yn cynnig gostyngiadau i gwsmeriaid newydd ac yn cynnig talebau gostyngol yn rheolaidd i’r sawl sydd ar eu rhestr farchnata ebost.

Maent yn disgrifio eu hunan fel a ganlyn: at Eden.co.uk we believe that Jesus Christ is the hope of the world. As individuals and communities grow in their relationship with Him, understand and apply His teaching to their lives, they will be transformed. For centuries, followers of Jesus – teachers, writers, musicians and artists – have used their God given talents to create works of literature, music and art to inspire their generation, to help them grasp the relevance and meaning of Christ.

Mae’r cwmni wedi ei leoli yn Sir y Fflint, ar y ffin tu allan i Gaer.

Ewch i wefan Eden Books yma: www.eden.co.uk

Gwin, bara ac offer cymun
Mae cwmni Frank Wright and Mundy wedi ei leoli yn Abergele ac yn cyflenwi gwin cymun di-alcohol ac offer eraill ar gyfer y bwrdd Cymun.

Manylion llawn ar eu gwefan: www.frankwrightmundy.co.uk

Nwyddau ac offer eglwysig
Cwmni arall sy’n cyflenwi nwyddau Cristnogol at ddefnydd yr eglwys yw Christian Bits.

Manylion llawn ar eu gwefan: www.christianbits.co.uk

Cwmni sy’n arbenigo mewn cynhyrchu amlenni rhoddion/offrwm y Sul yw Lockie Church Envelopes, sy’n cynnig gwasanaeth argraffu yn Gymraeg.

Manylion llawn ar eu gwefan: www.lockiechurch.com

Argraffu
Posteri / baneri / cylchgronnau
Mae nifer o gwmniau lleol yn cynnig gwasanaeth argraffu ar gyfer eglwysi – o adroddiadau capel i gardiau ymweld a chardiau busnes. Mae nifer o argraffwyr hefyd yn medru cynhyrchu baneri a phosteri maint mawr.

Cwmni ar y we sy’n cynnig yr uchod am brisiau cystadleuol iawn yw argraffwyr Print24.

Mwy o fanylion ar wefan: www.print24.co.uk

Argraffu mygiau, beiros ac anrhegion rhodd eraill
Mae cwmni Cristnogol yn Tywyn Meirionnydd sy’n arbenigo mewn cynhyrchu anrhegion o bob math fel mygiau, beiros, balwns, crysau T a hwdis, poteli diod a llawer iawn mwy.

Mwy o fanylion ar wefan: www.genesis-uk.com

Tystysgrifau Bedydd / Derbyn a Confformasiwn
Dylid cysylltu gyda’r enwad perthnasol i sicrhau cyflenwad o’r rhain.

Yswiriant
Cwmni sy’n arbenigo mewn yswiriant adeiladau eglwysig yw Ecclesiastical Insurance, wedi ei leoli yn Gloucester

Manylion llawn ar eu gwefan: www.ecclesiastical.com

Offer taflunio a chwarae cerddoriaeth
Cwmni sy’n arbenigo mewn deunydd chwarae a taflunio cerddoriaeth yw Hymn Technology.

Manylion llawn ar eu gwefan: www.hymntechnology.com

Dodrefn ar gyfer y capel

Byrddau a chadeiriau / dodrefn eglwysig
Cwmni sy’n arbenigo mewn dodrefn eglwysig o bob math yw cwmni Alpha Furnishing, cwmni wedi ei leoli yn High Wycombe ond sydd gyda gwasanaeth we gyflawn.

Yn ogystal â chadeiriau sy’n addas i gapel neu festri, mae ganddynt ddewis eang o fyrddau allor, lecternau, offer bedydd a chymun.

Ewch i’w gwefan drwy glicio ar: www.alpha-furnishing.com

Byrddau sy’n plygu
Cwmni sy’n cynhyrchu byrddau arbennig o dda yw Gopak. Maent yn fyrddau cryf, ysgafn ac yn plygu’n hwylus. Mae rhai yuchder oedolion ar gael yn ogystal â dewis o fyrddau addas i blant ifanc.

Mwy o fanylion o: www.gopak.co.uk

Ariannol
CAF Charity Aid Foundation
Cwmni sy’n cynnig cefnogaeth i elusennau ynglyn â gweinyddu materion ariannol yn yr eglwys. Mae ganddynt fanc CAF Bank hefyd sy’n ffordd o gyfrannu gan hawlio Rhodd Cymorth yn ôl yn ddi-drafferth.

Mwy o fanylion ar y wefan: www.cafonline.org/charities

Offer sain a golau
Mae nifer o gwmniau sain a golau lleol yng Nghymru sy’n medru gwasanaethu capeli ac eglwysi.

Mae yna hefyd gwmniau cenedlaethol Cristnogol sy’n arbenigo mewn cyflenwi adeiladau Cristnogol.

Mae B&H Sound yn cyflenwi offer ac yn cynnig gosod offer yn eich adeilad. Cwmni wedi ei leoli yn Peterborough yw hwn.

Mwy o fanylion ar wefan: www.bhsound.co.uk

Mae DM Music yn cyflenwi offer ac yn cynnig gosod offer yn eich adeilad. Cwmni wedi ei leoli yn Harpenden yw hwn.

Mwy o fanylion ar wefan: www.dmmusic.com

Mae Gear4Music yn gwmni sy’n arbenigo mewn cyflenwi offer cerddorol o bob math – sustemau sain, pianos, gitars, drymiau ac offer taro ayyb.

Gwasanaeth danfon diwrnod nesaf dibynadwy a phrisiau cystadleuol.

Mwy o fanylion ar wefan: www.gear4music.com