Newid Hinsawdd

Dyma adnoddau ymarferol i’w ddefnyddio yng nghydestun Economi Bywyd a Newid Hinsawdd. Mae ‘Bywyd yn ei Gyflawnder’ yn cynnwys elfennau ymarferol am sut i fyw yn fwy cyfrifol yn y byd yn ogystal â syniadau ar gyfer oedfaon, myfyrdodau a gweddiau. Adnodd i’w ddefnyddio gan unigolion ac eglwysi yw hwn.

A ROCHA
Ffeiliau Adnoddau Newid Hinsawdd i'w lawrlwytho
Addoli
Cynhaliwch wasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr hinsawdd, i archwilio sail ddiwinyddol a gwyddonol gofal am y cread a gweithredu ar yr hinsawdd, gweddïo, ac ymrwymo i weithredu.

Archwiliwch isod ac ar dudalen adnoddau gwefan Sul yr Hinsawdd i gael adnoddau ysbrydoliaeth ac addoli i weddu i bob traddodiad eglwysig a pheidiwch ag anghofio cofrestru’ch gwasanaeth fel y gallwn eich cyfrif chi !

Ymrwymo
Gwnewch ymrwymiad fel cymuned eglwysig leol i gymryd camau tymor hir i leihau ei hallyriadau nwyon tŷ gwydr eich hun.

Ymunwch ag un o’r rhaglenni presennol fel Eco Church neu LiveSimply
Paratowyd y canllaw isod i EcoChurch gan Esgobaeth Bangor yr Eglwys yng Nghymru

Codi llais
Codwch eich llais i ddweud wrth wleidyddion eich bod chi eisiau dyfodol glanach, gwyrddach a thecach wrth galon cynlluniau i ailadeiladu economi gref.

Deunydd Newid Hinsawdd gan Eco Church (PDF)
Gwasanaeth Sul Newid Hinsawdd (PDF)
Gwasanaeth Offeren Sul Newid Hinsawdd (PDF)
Gwasanaeth Sul Newid Hinsawdd gan yr URC (PDF)
Syniadau gweithredu ar Newid Hinsawdd |(PDF)
Adnoddau addysgol Newid Hinsawdd (PDF)
Syniadau Addoli a Gweddi Newid Hinsawdd (PDF)
Pecyn Astudiaeth Newid Hinsawdd gan yr Annibynwyr (PDF)
Cwrs Grawys Newid Hinsawdd (PDF)
Adnoddau ar gyfer Suliau arbennig am Newid Hinsawdd gan Eco Church (PDF)
Adnoddau Hinsawdd Hurt gan Cymorth Cristnogol (PDF)
Season of Creation

Gwefan sy’n llawn gwybodaeth ac adnoddau am gadwraeth byd a materion hinsawdd yw Seasons of Creation:
www.seasonofcreation.org

Dyrys Daith - Ymateb i Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd
Dyrys Daith – Ymateb i Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd
gan Huw John Hughes
Cyhoeddiadau’r Gair £14.99

Mae Dyrys Daith: Ymateb i Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd gan Huw John Hughes yn gyfrol sy’n ceisio helpu eglwysi a Christnogion yng Nghymru i ymateb yn ffyddlon, yn ymarferol ac yn ddiwinyddol i’r argyfwng hinsawdd. Nid trafodaeth wyddonol yn unig mo’r llyfr, nac ychwaith maniffesto gwleidyddol, ond cyfrol sy’n gwreiddio’r her gyfoes hon ym myfyrdodau’r Beibl, addoliad, a bywyd cymunedol yr eglwys.

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cyfres o wasanaethau sy’n annog eglwysi i feddwl yn ddyfnach am eu perthynas â’r greadigaeth, cyfrifoldeb dynol, a’r alwad Gristnogol i ofalu a gweithredu.

Yn ganolog i Dyrys Daith mae’r syniad nad yw newid hinsawdd yn fater ymylol i bobl ffydd, ond yn deillio o’n diwinyddiaeth, ein galwad fel disgyblion, a’n cariad at gymydog. Mae’r llyfr yn adnodd ymarferol a heriol i eglwysi sy’n ceisio cerdded y daith gymhleth hon yn onest o flaen Duw.

Cynnwys y llyfr:
Beth sy’n digwydd?
Ein cartref yn y bydysawd
Ymateb holistig i’r argyfwng
Neges y Beibl
Cynaliadwyedd
Y dyfodol?
Gwasanaethau i’r oedolion
Gwasanaethau i’r plant
Llyfryddiaeth ddethol

Prynu copi print o’r gyfrol o gwales.com
Prynu copi eLyfr (PDF) o’r gyfrol o ysgolsul.com