Mudiad Efengylaidd Cymru

Mae Mudiad Efengylaidd Cymru yn elusen gofrestredig sy’n gwasanaethu eglwysi a Christnogion, yn eu cynorthwyo i ogoneddu Duw, i efengylu Cymru, a nerthu credinwyr.

Beth yw MEC?
Mudiad o eglwysi, gweinidogion a Christnogion o wahanol fathau o sefyllfaoedd sy’n caru Iesu Grist, yn credu mai Gair Duw yw’r Beibl, ac sy’n argyhoeddiedig mai’r Efengyl yw’r unig obaith i’n byd colledig yw MEC. Rhannwn yr un daliadau craidd (a amlinellir yn natganiad ffydd MEC), a mynegwn ein hundod yng Nghrist trwy ddod at ein gilydd i’w wasanaethu Ef a’i bobl (yr Eglwys). Arweinir MEC gan arweinwyr eglwysi, felly, nid yw yn enwad neu yn gymdeithas, ond yn was i eglwysi’r efengyl.

Ar hyn o bryd mae MEC yn:

  • Cefnogi, hyfforddi a datblygu arweinwyr eglwysi drwy gynadleddau, cyrsiau, brawdoliaethau ac adnoddau.
  • Darparu adnoddau a chyhoeddiadau sy’n seiliedig ar y Beibl ac yn efengyl-ganolog.
  • Gwasanaethu eglwysi a Christnogion drwy drefnu cynadleddau a digwyddiadau sy’n dysgu’r Beibl ac yn hybu undod Cristnogol.
  • Gwasanaethu eglwysi a Christnogion ifanc drwy redeg gwersylloedd a gweinidogaethau eraill i ieuenctid.
  • Cefnogi eglwysi a Christnogion i efengylu a chenhadu gan hybu gweddi dros y gwaith.

Er fod MEC yn gweithio ym mhob rhan o Gymru drwy ganoedd o wirfoddolwyr, mae ganddom nifer o adeiladau gan gynnwys dwy swyddfa (De a Gogledd), Canolfan Gynadledda a 5 siop llyfrau.

Gwefan: www.mudiad-efengylaidd.org