Hyfforddiant Cristnogol

Colegau Diwinyddol ac hyfforddiant Enwadol
Colegau Diwinyddol ac hyfforddiant Enwadol
Mae gan yr enwadau gynlluniau hyfforddi ar gyfer lleyg ac ordeiniedig, sy’n cynnwys cynlluniau diwinyddol llawn a chyrsiau preswyl diwrnod. Cysylltwch gyda swyddog neu sefydliad hyfforddiant eich enwad am fwy o fanylion:

Eglwys Bresbyteraidd Cymru:
Mae gan Eglwys Bresbyteridd Cymru ganolfan ym Mangor sy’n cydlynu rhaglen hyfforddiant ac gyfer gweinidogion a lleygwyr.
Ceir mwy o wybodaeth ar eu gwefan:
www.ebcpcw.cymru/cy/hyfforddiant/

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Mae gan yr Abbibynwyr hyfforddiant ar gyfer gweinigogion a lleygwyr, ac yn trefnu nifer o gyrsiau yn lleol ac yn rhanbarthol.
Ceir mwy o wybodaeth ar eu gwefan:
www.colegyrannibynwyr.cymru

Undeb Bedyddwyr Cymru
Mae gan Undeb y Bedyddwyr dau goleg diwinyddol, sef:
Y Coleg Gwyn ym Mangor.
Cysylltwch drwy ymweld â’r wefan am fwy o wybodaeth.
www.northwalesbaptistcollege.org.uk
Coleg Bedyddwyr De Cymru yng Nghaerdydd
Cysylltwch drwy ymweld â’r wefan:
www.swbc.org.uk

Yr Eglwys Fethodistaidd
Mae gan yr Eglwys Fethodistaidd gwrs ar gyfer pregethwyr lleyg yn Gymraeg.
Cysylltwch gyda Delyth Wyn Davies ar am fwy o wybodaeth.

Yr Eglwys yng Nghmru
Mae gan yr Eglwys yng Nghymru Goleg Diwinyddol yn Llandaf, Caerdydd.
Ewch i’w gwefan am fwy o wybodaeth:
www.stpadarns.ac.uk

Cwrs Beth yw Eglwys?
Cynlluniwyd y gyfres hon o bum sesiwn astudio ryngweithiol ar gyfer aelodau ac arweinwyr, er mwyn eu hannog i ystyried y newidiadau sydd eu hangen yn eu heglwysi a’u capeli i annog twf. Darperir llawlyfr arweinwyr ynghyd â deunyddiau ar gyfer y rheiny sy’n cymryd rhan, a chyflwyniad PowerPoint. Gall Cymrugyfan gynnig cymorth gyda thraddodi’r deunydd mewn rhannau gwahanol o Gymru os gwnewch gais am hynny.

Gallwch lawrlwytho cyflwyniad manwl i’r cwrs a sesiwn sampl yma: Beth yw Eglwys?.

Os hoffech ddefnyddio’r cwrs yn eich heglwys os gwelwch yn dda e-bostiwch hyfforddiant@cymrugyfan.org. Os gwelwch yn dda rhowch eich rhif ffôn yn eich e-bost fel y gallwn gysylltu â chi i’ch helpu i gael y mwyaf o’r cwrs.

Darperir y deunyddiau yn rhad ac am ddim, ond gofynnwn i chi lenwi taflen adborth wedi i chi gwblhau’r cwrs.

Mwy o wybodaeth o wefan www.cymrugyfan.org/bethyweglwys

Cynlluniau Hyfforddi Disgyblion Cenhadol
Dawn Cymru
Bwriad cynllun hyfforddiant DAWN Cymru yw darparu hyfforddiant Cristnogol ar gyfer arweinwyr y presennol a’r dyfodol. Rydym am hyfforddi arweinwyr a henuriaid, pregethwyr a bugeiliaid, diaconiaid ac athrawon ysgol Sul, arweinyddion mawl ac efengylwyr ar gyfer eglwysi sy’n bodoli’n barod ac eglwysi newydd sydd eto i’w plannu.
Trwy hyn, gobeithiwn gadarnhau a chryfhau eglwysi sydd wrth eu gwaith yn barod, yn ogystal ag annog pobl i blannu eglwysi newydd ymhlith y Cymry Cymraeg.
Gobaith DAWN Cymru yw darparu dysgeidiaeth Feiblaidd, hyfforddiant diwinyddol, cymdeithas ac anogaeth i Gristnogion Cymraeg sydd am ddyfnhau eu ffydd yn Iesu Grist. Hyfforddiant ydyw i’r rhai sy’n ystyried rôl arweiniol yn y dyfodol, neu sy’n arwain mewn eglwys yn barod.Mwy o wybodaeth ar wefan:
www.hyfforddiantdawn.wordpress.com

Cynllun hyfforddi disgyblion cenhadol Caersalem Caernarfon
Mae eu cynllun interniaeth yn addas i rai sy’n ystyried cyflwyno eu hunain i’r weinidogaeth ffurfiol ac eisiau profi’r alwad neu gall fod yn flwyddyn o hyfforddiant a phrofi i unrhyw un sydd eisiau arfogi eu hunain i fod yn ddisgyblion cenhadol ym mha bynnag gyd-destun lleol y bydd Duw yn eu galw iddo.
www.caersalem.com/interniaeth/

Cynllun Derwen: arfogi cenhedlaeth newydd o genhadon i Gymru
Bwriad y cynllun yw datblygu arweinwyr a fydd yn flaenllaw mewn cenhadaeth arloesol, yn siapio mynegiant cyfoes o Gristnogaeth yn ein gwlad. Nid yw’n gynllun academaidd, yn hytrach y bwriad yw datblygu sgiliau a chymeriad yr arweinydd. Ein gobaith yw bydd y cynllun yn gatalydd fydd yn annog twf, ac yn gweithio law yn llaw â rhaglenni hyfforddiant enwadau a mudiadau eraill.
  
Mae’r cynllun ar gyfer unrhyw un sydd a chalon dros rannu y newyddion da am Iesu mewn dull newydd ac arloesol yng Nghymru. Gall fod yn gam cyntaf tuag at genhadaeth newydd i rai, ac i eraill, yn gynllun fydd yn cefnogi eu datblygiad fel arweinwyr newydd.
Cyswllt: steffanmorris@hotmail.co.uk
Prospectws Derwen

Llyfrau perthnasol
Llawlyfr Pregethu
Cyfrol o ganllawiau ar bregethu, at ddefnydd pobl o draddodiadau eglwysig amrywiol. Addasiad Cymraeg Olaf Davies o Preaching gan Peter Stevenson o Goleg y Bedyddwyr De Cymru.
I archebu copi ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859948484&tsid=3

Cyfrol Sut mae bod yn Weinidog Eglwys
Canllawiau ymarferol a seiliau Beiblaidd ‘y weinidogaeth Gristnogol’ i rai sy’n ystyried galwad, i fyfyrwyr, gweinidogion presennol a rhai sydd wedi ymddeol. Addasiad Cymraeg Olaf Davies o How to be a Church Minister, Nigel G. Wright.
I archebu copi ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859949153&tsid=5

Cyfrol Gofala Di
Gofala Di – Llawlyfr Bugeilio Cristnogol
Dyma lawlyfr hwylus wedi ei baratoi gan Dewi Myrddin Hughes i weinidogion a lleygwyr, boed unigolion neu grwpiau sy’n ceisio gwneud gwaith bugeiliol yn eu heglwysi a’u cymunedau.
I archebu copi ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859947562&tsid=7

Hyfforddiant i weithwyr plant Cristnogol / athrawon Ysgol Sul
Dal d’ afal
Mae Dal d’afal yn gyfrol ar gyfer hyfforddiant i’r sawl sy’n gweithio gyda phlant yn yr eglwys. Gellir ei redeg fel grwp rhanbarthol efo arweinydd, neu gall person hefyd ei ddilyn gyda’r unigolyn artall mewn awyrgylch mwy anffurfiol. Ceir yma 8 sesiwn o amr a hanner o hyd. Datblygwyd y cynllun gan y grŵp ymgynghorol ar weinidogaeth ymhlith plant. Mae’n ymdrin â phynciau megis datblygiad plant, sgiliau arwain, cynllunio rhaglenni, plant a’r gymuned, ymwybyddiaeth fugeiliol, ysbrydolrwydd a’r Beibl. Addasiad Cymraeg o Core Skills – For Children’s Work.
Mwy o wybodaeth o’r wefan:

Cyfrol Newid Bywydau
Mae Newid Bywydau yn trafod y cyfan fyddech am ei wybod am weithio gyda phlant a theuluoedd – sut, pryd, ble a pham?
Treiddia Mark Griffiths i mewn i hanes, diwinyddiaeth ac ymarfer gweinidogaeth gyda phlant a theuluoedd. Mae’n rhannu ei ddoethineb a’i flynyddoedd o brofiad yn arwain cannoedd o grwpiau gwaith plant ac o gynnal gwasanaethau mewn eglwysi. Mae’n lawlyfr sy’n llawn syniadau ac adnoddau ymarferol, gan ddangos sut i gyfathrebu gyda phlant mewn eglwys, ysgol ac yn y gymuned.
Fe’n cynorthwya i ddatblygu gweledigaeth ac i lunio strategaeth ar gyfer gweinidogaethu i blant a theuluoedd tu fewn a thu allan i strwythurau ein heglwysi, gan drafod materion fel cadw cofnodion, ymweld â chartrefi, trefnu amserlen a chynllun gwaith, pwysigrwydd gwarchod a diogelu, templedi creu gwersi bywiog a cadw diddordeb y plant.
Dyma ganllaw allweddol ac ymarferol i bawb sy’n gweithio gyda phlant.
Mwy o wybodaeth ar y wefan: