Mae gan yr enwadau gynlluniau hyfforddi ar gyfer lleyg ac ordeiniedig, sy’n cynnwys cynlluniau diwinyddol llawn a chyrsiau preswyl diwrnod. Cysylltwch gyda swyddog neu sefydliad hyfforddiant eich enwad am fwy o fanylion:
Eglwys Bresbyteraidd Cymru:
Mae gan Eglwys Bresbyteridd Cymru ganolfan ym Mangor sy’n cydlynu rhaglen hyfforddiant ac gyfer gweinidogion a lleygwyr.
Ceir mwy o wybodaeth ar eu gwefan:
www.ebcpcw.cymru/cy/hyfforddiant/
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Mae gan yr Annibynwyr hyfforddiant ar gyfer gweinigogion a lleygwyr, ac yn trefnu nifer o gyrsiau yn lleol ac yn rhanbarthol.
Ceir mwy o wybodaeth wrth gysylltu gyda Carwyn Sidall, Cyfarwyddwr Hyfforddiant:
https://www.annibynwyr.org/cy/page/staff-and-officers
Undeb Bedyddwyr Cymru
Mae gan Undeb y Bedyddwyr goleg diwinyddol, sef:
Coleg y Bedyddwyr Caerdydd
Mae Coleg Bedyddwyr Caerdydd yn gymuned ffurfiannol seiliedig ar ffydd sydd wedi bod yn paratoi menywod a dynion ar gyfer y weinidogaeth ym mhob maes o fywyd ers 1807. Cyfamodwn i ‘gydgerdded’ i ddatblygu aeddfedrwydd ysbrydol, sgiliau ymarferol, a gweledigaeth ddiwinyddol. Ceisiwn fod yn groesawgar, gan drigo ar y ffin rhwng yr eglwys a’r byd i archwilio’r ffydd a’r arferion Cristnogol mewn ffordd sy’n academaidd, yn ddiwinyddol ac yn berthnasol i anghenion heddiw. Gwnawn hyn gyda’n partneriaid eglwysig yn Undeb Bedyddwyr Cymru, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn ogystal â’n partneriaid academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cysylltwch drwy ymweld â’r wefan:
https://www.cbc.cymru/cy
Yr Eglwys Fethodistaidd
Mae gan yr Eglwys Fethodistaidd gwrs ar gyfer pregethwyr lleyg yn Gymraeg.
Cysylltwch gyda Swyddfa Synod Cymru am fwy o wybodaeth: https://www.methodist.cymru/
Yr Eglwys yng Nghmru
Mae gan yr Eglwys yng Nghymru Goleg Diwinyddol yn Llandaf, Caerdydd.
Ewch i’w gwefan am fwy o wybodaeth:
www.stpadarns.ac.uk
Os hoffech ddefnyddio’r cwrs yn eich heglwys os gwelwch yn dda e-bostiwch hyfforddiant@cymrugyfan.org. Os gwelwch yn dda rhowch eich rhif ffôn yn eich e-bost fel y gallwn gysylltu â chi i’ch helpu i gael y mwyaf o’r cwrs.
Darperir y deunyddiau yn rhad ac am ddim, ond gofynnwn i chi lenwi taflen adborth wedi i chi gwblhau’r cwrs.
Mwy o wybodaeth o wefan www.cymrugyfan.org/bethyweglwys
Mae eu cynllun interniaeth yn addas i rai sy’n ystyried cyflwyno eu hunain i’r weinidogaeth ffurfiol ac eisiau profi’r alwad neu gall fod yn flwyddyn o hyfforddiant a phrofi i unrhyw un sydd eisiau arfogi eu hunain i fod yn ddisgyblion cenhadol ym mha bynnag gyd-destun lleol y bydd Duw yn eu galw iddo.
www.caersalem.com/interniaeth/
Cynllun Derwen: arfogi cenhedlaeth newydd o genhadon i Gymru
Bwriad y cynllun yw datblygu arweinwyr a fydd yn flaenllaw mewn cenhadaeth arloesol, yn siapio mynegiant cyfoes o Gristnogaeth yn ein gwlad. Nid yw’n gynllun academaidd, yn hytrach y bwriad yw datblygu sgiliau a chymeriad yr arweinydd. Ein gobaith yw bydd y cynllun yn gatalydd fydd yn annog twf, ac yn gweithio law yn llaw â rhaglenni hyfforddiant enwadau a mudiadau eraill.
Mae’r cynllun ar gyfer unrhyw un sydd a chalon dros rannu y newyddion da am Iesu mewn dull newydd ac arloesol yng Nghymru. Gall fod yn gam cyntaf tuag at genhadaeth newydd i rai, ac i eraill, yn gynllun fydd yn cefnogi eu datblygiad fel arweinwyr newydd.
Cyswllt: steffanmorris@hotmail.co.uk
Prospectws Derwen
Cyfrol o ganllawiau ar bregethu, at ddefnydd pobl o draddodiadau eglwysig amrywiol. Addasiad Cymraeg Olaf Davies o Preaching gan Peter Stevenson o Goleg y Bedyddwyr De Cymru.
I archebu copi ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859948484&tsid=3
Cyfrol Sut mae bod yn Weinidog Eglwys
Canllawiau ymarferol a seiliau Beiblaidd ‘y weinidogaeth Gristnogol’ i rai sy’n ystyried galwad, i fyfyrwyr, gweinidogion presennol a rhai sydd wedi ymddeol. Addasiad Cymraeg Olaf Davies o How to be a Church Minister, Nigel G. Wright.
I archebu copi ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859949153&tsid=5
Cyfrol Gofala Di
Gofala Di – Llawlyfr Bugeilio Cristnogol
Dyma lawlyfr hwylus wedi ei baratoi gan Dewi Myrddin Hughes i weinidogion a lleygwyr, boed unigolion neu grwpiau sy’n ceisio gwneud gwaith bugeiliol yn eu heglwysi a’u cymunedau.
I archebu copi ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859947562&tsid=7
Mae Dal d’afal yn gyfrol ar gyfer hyfforddiant i’r sawl sy’n gweithio gyda phlant yn yr eglwys. Gellir ei redeg fel grwp rhanbarthol efo arweinydd, neu gall person hefyd ei ddilyn gyda’r unigolyn artall mewn awyrgylch mwy anffurfiol. Ceir yma 8 sesiwn o amr a hanner o hyd. Datblygwyd y cynllun gan y grŵp ymgynghorol ar weinidogaeth ymhlith plant. Mae’n ymdrin â phynciau megis datblygiad plant, sgiliau arwain, cynllunio rhaglenni, plant a’r gymuned, ymwybyddiaeth fugeiliol, ysbrydolrwydd a’r Beibl. Addasiad Cymraeg o Core Skills – For Children’s Work.
Mwy o wybodaeth o’r wefan:
Cyfrol Newid Bywydau
Mae Newid Bywydau yn trafod y cyfan fyddech am ei wybod am weithio gyda phlant a theuluoedd – sut, pryd, ble a pham?
Treiddia Mark Griffiths i mewn i hanes, diwinyddiaeth ac ymarfer gweinidogaeth gyda phlant a theuluoedd. Mae’n rhannu ei ddoethineb a’i flynyddoedd o brofiad yn arwain cannoedd o grwpiau gwaith plant ac o gynnal gwasanaethau mewn eglwysi. Mae’n lawlyfr sy’n llawn syniadau ac adnoddau ymarferol, gan ddangos sut i gyfathrebu gyda phlant mewn eglwys, ysgol ac yn y gymuned.
Fe’n cynorthwya i ddatblygu gweledigaeth ac i lunio strategaeth ar gyfer gweinidogaethu i blant a theuluoedd tu fewn a thu allan i strwythurau ein heglwysi, gan drafod materion fel cadw cofnodion, ymweld â chartrefi, trefnu amserlen a chynllun gwaith, pwysigrwydd gwarchod a diogelu, templedi creu gwersi bywiog a cadw diddordeb y plant.
Dyma ganllaw allweddol ac ymarferol i bawb sy’n gweithio gyda phlant.
Mwy o wybodaeth ar y wefan: https://ysgolsul.com/?page_id=5161
Cwrs hyfforddiant i Weinidogion a gweithwyr Cristnogol sy’n dod i weithio yng Nghymru am y tro cyntaf, neu yn dychwelyd wedi cyfnod i ffwrdd.
Cwrs deuddydd yng Nghanolfan Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd
Amcanion Dysgu:
• Eciwmeniaeth yng Nghymru
• Gwleidyddiaeth yng Nghymru
• Diwylliant Hanesyddol
• Yr Iaith Gymraeg
• Hanes Crefyddol Cymru
• Ysbrydoledd yng Nghymru
• Gwaith Rhyng Ffydd yng Nghymru
Bydd cyfle i ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru a’r Senedd yng Nghaerdydd.
Gwyliwch y ffilm i gael rhagflas o’r hyn fydd yn digwydd:
Cofrestrwch drwy gysylltu â: post@cytun.cymru
Cysylltwch gyda Swyddfa Cytun am fwy o wybodaeth: https://www.cytun.co.uk/



