Hanes Datblygiad y Ffydd Gristnogol

Hanes Cristnogaeth gan Rheinallt Thomas
Cychwynnodd Cristnogaeth tua 35 OC a lledaenodd yn raddol nes bod erbyn heddiw Gristnogion ym mhob gwlad drwy’r byd.

Hi, o bosibl, yw’r grefydd fwyaf niferus yn y byd bellach.

Tardda’r gair Cristnogaeth o enw Iesu Grist, gwr a dreuliodd rai blynyddoedd yn pregethu neges Duw cyn iddo gael ei groeshoelio.

Fel y lledaenai Cristnogaeth, datblygodd mewn gwahanol ffyrdd ac erbyn heddiw ceir tair prif gangen, a channoedd o fan ganghennau.

Canghenau'r traddodiad Cristnogol
Y tair prif gangen yw:

  • Yr Eglwys Babyddol;
  • Yr Eglwys Uniongred (er enghraifft, Eglwys Uniongred Groeg ac Eglwys Uniongred Rwsia);
  • Yr Eglwys Brotestannaidd, (er enghraifft, Anglicaniaid, Presbyteriaid, Methodistiaid, Bedyddwyr ac ati).

Mae llawer o grefyddau newydd yr ugeinfed ganrif hefyd a’u gwreiddiau mewn Cristnogaeth gan eu bod yn dilyn dysgeidiaeth Gristnogol y Beibl, llyfr cysegredig y Cristion.

Tua 500 mlynedd wedi marwolaeth Iesu datblygwyd calendr newydd oedd i gychwyn gyda blwyddyn ei eni – ond roedd amcangyfrif yr ysgolheigion am ddyddiad ei eni rywfaint allan ohoni.

Ganwyd Iesu tua 4 CC mewn gwirionedd ond rydym ni heddiw’n defnyddio’r un calendr a hwnnw’n gwahanu hanes i CC (Cyn Crist) ac OC (Oed Crist) neu AD – sef Blwyddyn yr Arglwydd.

Man addoli
Mae Cristnogion yn addoli mewn Eglwys – gair sy’n dod o’r Lladin ecclesia.

Yng Nghymru ceir eglwysi sy’n perthyn i’r Eglwys Babyddol, i’r Eglwys yng Nghymru, a’r eglwysi anghydffurfiol sy’n cynnwys y Presbyteriaid, Methodistiaid a’r Bedyddwyr a nifer eraill.

Yn yr eglwysi sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru mae’r cynllun fel rheol ar ffurf croes, sy’n cynrychioli croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu.

Ceir Allor mewn eglwys – ym mhen dwyreiniol yr adeilad fel rheol.

Yn y pen arall ceir weithiau feindwr neu dwr gyda chloch ynddo, fydd yn cael ei chanu ar adegau arbennig.

Bydd y gynulleidfa’n eistedd ar seddau yng Nghorff yr eglwys.

Y naill ochr a’r llall i’r corff ceir cilfachau.

Gelwir gweddill yr eglwys yn Gangell.

Mae yno bulpud a darllenfa hefyd.

Rhennir Cymru yn esgobaethau, gyda’r Gadeirlan yn brif eglwys ym mhob esgobaeth.

Yr Esgob yw pennaeth yr esgobaeth, a phennaeth y gadeirlan yw’r Deon.

Mae’r eglwysi anghydffurfiol – neu Gapeli fel y gelwir hwy yn aml – yn cynnwys rhai o nodweddion eglwys y plwyf ond fel rheol mae’r cynllun yn wahanol iawn a chan amlaf yn cynnwys sêt fawr i’r blaenoriaid neu ddiaconiaid.

Ysgrythurau sanctaidd
Rhennir y Beibl yn ddwy brif adran.

Yn Yr Hen Destament ceir dysgeidiaeth ynglyn â sut y dymunai Duw i’r Iddewon fyw.
Mae iddo 39 o ‘lyfrau’ yn cychwyn gyda Llyfr Genesis.

Mae’r Testament Newydd yn sôn arn gyfnod Iesu, a’r blynyddoedd yn dilyn ei farwolaeth pan sefydlwyd yr Eglwys Gristnogol.

Rhannwyd y Testament Newydd yn 27 o ‘lyfrau’, oll yn annog dilynwyr Iesu i fyw yn unol â’i ddysgeidiaeth.

Ni chafodd yr un o ‘r llyfrau hyn eu hysgrifennu gan Iesu ei hun ond naill ai gan ei ddisgyblion cyntaf neu gan Gristnogion eraill y cyfnod.

I Gristnogion mae’r Testament Newydd yn gwireddu addewid yr Hen Destament ac yn adrodd am, ac yn dehongli’r Cyfamod (cytundeb ) newydd rhwng Duw a ‘i bobl, sy’n cael ei wireddu drwy fywyd a marwolaeth Iesu.

Fel yn yr Hen Destament ceir ynddo amrywiaeth o ddulliau ysgrifennu ac ymhlith y 27 llyfr ceir:

Atgofion am fywyd a gweithredoedd a dywediadau Iesu yn y pedair Efengyl.
Adroddiad hanesyddol o flynyddoedd cynharaf yr Eglwys Gristnogol yn Actau’r Apostolion.
Nifer o Epistolau neu lythyrau sy’n llawn cynghorion.
Ac, i orffen, disgrifiad apocalyptaidd o ymyriad Duw mewn hanes, Llyfr y Datguddiad.

Credoau
Gellir rhannu credoau Cristnogol yn dair rhan a’u crynhoi o dan y teitl Y Drindod Sanctaidd:

  • Y Tad – Mae Cristnogion yn credu mewn un Duw, sydd yn hollalluog. Creodd Duw y byd a’r cwbl sydd ynddo. Mae fel tad sydd yn gwarchod ac yn gofalu am ei bobl.
  • Y Mab – daeth Iesu Grist, mab Duw, i’r ddaear ar ffurf dyn i ddysgu pobl am Dduw. Bu farw ar y groes gan wneud yr aberth eithaf. Mae bellach gyda Duw yn y nefoedd ond bydd yn dychwelyd rhyw ddiwrnod i farnu dynoliaeth.
  • Yr Ysbryd Glân yw grym Duw sy’n cyfnerthu ei bobl. Mae’r Ysbryd Glan o fewn pawb a phopeth er nad yw rhai pobl yn gadael iddo ddylanwadu ar eu bywydau.

Gwyliau
Mae’r gwyliau Cristnogol yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym mywyd Iesu. Dyma rai o’r rhai pwysicaf.

  • Adfent: caiff ei dathlu ar y pedwar Sul cyn y Nado1ig.
  • Nadolig: genedigaeth Iesu ar Ragfyr 25.
  • Y Grawys: y deugain niwrnod ac eithrio’r Suliau, cyn y Pasg.
  • Sul y Blodau: y diwrnod yr aeth Iesu i mewn i Jerwsalem.
  • Dydd Iau Cablyd: diwrnod y Swper Olaf.
  • Dydd Gwener y Groglith: diwrnod croeshoelio Iesu.
  • Dydd Sul Y Pasg: diwrnod Atgyfodiad Iesu.
  • Dydd Iau Dyrchafael: dathlu esgyniad Iesu i’r Nefoedd.
  • Y Sulgwyn (Y Pentecost): y seithfed Sul wedi’r Pasg i ddathlu rhoddi’r Ysbryd Glân i’r Apostolion.

Cristnogion a Chymru
Mae eglwysi a chapeli ym mhob dinas, tref a phentref yng Nghymru yn perthyn i’r amrywiol enwadau.

Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 71.9% o boblogaeth Cymru yn Gristnogion (2,087,242) gyda 18.5% (537,935) yn honni eu bod yn ddigrefydd.

Yn ôl yr un cyfrifiad 2001 roedd 0.2% o boblogaeth Cymru yn Fwdhiaid (5,407)

Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd 0.2% o’r boblogaeth yn Hindwiaid (5,439), 0.1% yn Iddewon (2,256), 0.7% yn Fwslimiaid (21,739) a 0.1% yn Sikhiaid (2,015).

Lledaeniad Cristnogaeth