Gwyliau a Gwersylloedd

Coleg y Bala
Coleg y Bala
Coleg y Bala yw Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Mae’r tîm ymroddedig o weithwyr Cristnogol yn trefnu rhaglen lawn hwyl a gweithgareddau i blant, ieuenctid yn eu harddegau a phobl ifanc hyn. Eu nod yw cyflwyno Iesu Grist i’r rheiny sy’n dod yno i aros, a hynny mewn ffordd fywiog a chyfoes.

Mae Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn trefnu cyfres o benwythnosau ar hyd y flwyddyn yng Ngholeg y Bala. Mae rhestr llawn o’r cyrsiau i’w gweld ar y wefan.

CYFARFODYDD A CHYNADLEDDAU
Mae Coleg y Bala yn ganolfan Gynadledda hyfryd yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae nifer o ystafelloedd ar gael ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd.

CANOLFAN BRESWYL AR GYFER GRWPIAU
Mae’r Coleg yn darparu llety cysurus ar gyfer teithiau maes ysgolion a Phrif Ysgolion , Undebau Cristnogol a chynulliadau o bob math. Mae’r ystafell chwaraeon a’r cyfleusterau awyr agored yn boblogaidd iawn ymhlith y rheiny sydd ar deithiau addysgol!

CWRS IEUENCTID
Penwythnos i bobl ifanc blynyddoedd 7-11!
Bydd y penwythnos yn llawn gweithgareddau, gemau a digon o amser i ymlacio gyda ffrindiau yn y ‘fifa lounge’ a’r stafell chwaraeon. Bydd rhywbeth i bawb! Fe gawn ni amser gydol y penwythnos i edrych ar y Beibl a chael grwpiau bach i drafod beth i ni wedi dysgu.

Mwy o wybodaeth ar wefan: www.colegybala.org

SOULED OUT
Digwyddiad 5-noson cyffrous i ieuenctid (15+), myfyrwyr ac oedolion ifanc.
Cynhaliwyd Souled Out am y tro cyntaf yn Awst 2000 yng Ngholeg y Bala (Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru), gyda’r bwriad i annog ac arfogi cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i wasanaethu Eglwys Crist. Mae gwaith Souled Out wedi tyfu ers hynny.

Mae Souled Out wedi datblygu i fod yn rhwydwaith sy’n anelu at ddatblygu disgyblion ac arweinwyr i Gymru a thu hwnt. Mae’r angen sydd yn yr Eglwys am genhedlaeth newydd o ddisgyblion ac arweinwyr Crist-debyg, brwdfrydig a llawn gweledigaeth, yn amlwg.

Bwriad Souled Out yw ceisio ymateb i’r angen hwn trwy gasglu, annog ac arfogi ieuenctid, myfyrwyr ac oedolion ifanc i wneud gwahaniaeth i’r Deyrnas yn eu cenhedlaeth.

Eisoes, gwelwyd pobl ifanc yn dod yn Gristnogion, ac yn mynd ymlaen i ddarganfod cyfleon i wasanaethu Crist.
Ein gweledigaeth yw Cymru dan ddylanwad yr Efengyl, gyda phobl yn dyheu am weld yr Eglwys yn cael ei diwygio yn yr 21ain Ganrif.

Mwy o wybodaeth ar wefan: www.souledoutcymru.net

Coleg Trefeca
Coleg Trefeca
Mae Coleg Trefeca yn ganolfan hyfforddiant ar gyfer lleygwyr, ac mae wedi ei lleoli ym Mannau Brycheiniog. Mae Coleg Trefeca yn darparu lle ar gyfer cynadleddau a chyrsiau yn rheolaidd ac mae’n le delfrydol os am weddïo, myfyrio, neu ymlacio.

Coleg Trefeca yw hyfforddiant lleyg, canolfan gynadledda a thŷ encilio Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol hardd Bannau Brycheiniog, mae Trefeca yn le hanesyddol a chysegredig. Roedd Trefeca yn gartref i Howell Harris (1714-1773), arweinydd dylanwadol y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru ac yn gyfoeswr i Fethodistiaid mawr eraill fel Daniel Rowland, William Williams Pantycelyn, George Whitefield a John a Charles Wesley.

Heddiw, mae llawer o bobl o amrywiol draddodiadau Cristnogol yn dod i Trefeca ar gyfer hyfforddiant, cynadleddau, adnewyddiad ysbrydol ac encilio. Yn Nhrefeca, mae’r pwyslais ar letygarwch a chroeso Cristnogol ac i lawer o bobl mae Trefeca yn ‘ychydig bach o’r nefoedd’ lle gall pobl ymgynnull i fod yn dystion ac i addoli. Mae’r ymdeimlad o deulu yn dal yn gryf ac mae’r traddodiad hir o ddysgu Cristnogol yn parhau.

Mwy o wybodaeth o wefan: www.trefeca.org.uk

Gŵyl Coda
Gŵyl Coda
Gŵyl dros benwythnos yn Fferm Dol Llys, Llanidloes

Beth yw Coda?
Cymuned ar wasgar: yn uno ein celfyddydau, ffydd, creadigedd a gweithredu ac yn creu gofod ble gallwn ysgogi ein gilydd.

Gŵyl a fydd yn denu ac yn ysbrydoli pobl, eglwysi a chymunedau tuag at ffydd a gweithredu.
Rhwydwaith yn creu ‘pethau bychain’ a fydd yn adlewyrchu ac yn llunio gwyliau Coda i ddwyn pobl ynghyd (yng Ngorffennaf 2018, 2020 a 2022).

Amrywiol, cynhwysol, croesawgar, hael.

Mae’r ŵyl yn fynegiant o rwydwaith o bobl sydd wedi bod yn datblygu dros rai blynyddoedd ac a fydd yn parhau i newid. Mae ein hymrwymiad i gael y math yma o ddigwyddiad bob yn ail flwyddyn yn benderfyniad bwriadol; mae gwyliau yn dwyn llawenydd a gallant fod yn sbardun gwych ond byddai mynd ati i gynnal un yn flynyddol yn eu troi’n ganolbwynt ffocws, yn hytrach nag yn un ffordd o gyfleu a rhoi mynegiant i’n rhwydweithio.

Beth i’w ddisgwyl:
yr un ethos yn arwain
yr un hyblygrwydd i gysylltu gyda beth bynnag sy’n digwydd yng Nghymru a’r byd bryd hynny
yr un ymrwymiad i hygyrchedd i bawb
yr yn dyhead i greu man hwyliog ac ystyrlon i bawb o bob oed.

Gwirfoddolwyr – sylfaen yr ŵyl
Yn llythrennol gwirfoddolwyr yw’r galon sy’n curo i wneud yr ŵyl. Fyddai o ddim yn bosibl hebddynt. Mae rhoi ychydig o oriau i wirfoddoli yn yr ŵyl yn newid y profiad i nifer o bobl. Fe ddysgom y tro diwethaf nad oedd yn bosibl gwneud ambell i beth oeddem wedi eu bwriadu heb fod yn gwbl afresymol yn ein gofynion o’n gwirfoddolwyr. Y gobaith yw y bydd pethau’n wahanol y tro nesaf.

Rhwydwaith ydym ni cyn unrhyw beth arall – ac o’n cysylltiad â’n gilydd y daw yr ŵyl a’n holl weithgareddau. Mae croeso i chi fod yn rhan o’r rhwydwaith ac ymuno fel y mae’n siwtio chi. Os ydych yn gwirfoddoli gyda ni, yn rhoi’n ariannol, yn cyfarwyddo, yn noddi, yn cyfrannu .. neu yn fwy nag un o’r pethau hynny… rydych yn y Criw. Y syniad yw bod pawb sy’n rhan o greu Coda yn gyfwerth. Mae gennym rôl wahanol ond yn cydnabod bod angen pob rhan i wneud y gwaith.

Am fwy o fanylion ewch i: www.coda.cymru

Gŵyl Llanw
Gŵyl Llanw
Mae Llanw yn ŵyl Gristnogol i bob oed gafodd ei sefydlu yn 2008. Roedd oddeutu 60 o bobl yn yr ŵyl gyntaf ac mae wedi tyfu bellach i fod yn ŵyl mae oddeutu 300 yn ei fwynhau’n flynyddol. Mae’n ŵyl symudol ac wedi ei gynnal yn Llangrannog, Cei Newydd, Dinbych y Pysgod, Cricieth a Chydweli.

Ffocws yr ŵyl yw dathlu’r atgyfodiad wrth i Gristnogion ddod at ei gilydd i glywed pregethau, anerchiadau a seminarau Beiblaidd a mwynhau addoliad egnïol a chyfoes.

Mae darpariaeth lawn ar gyfer plant a phobl ifanc wedi bod yn rhan o’r ŵyl ers y dechrau. Mae hefyd yn ŵyl breswyl gyda’r cyfle i bawb archebu llety ar y cyd, er bod nifer hefyd yn trefnu llety eu hunain ac yn mynychu fel ymwelwyr dyddiol.

Cynhelir yr ŵyl yr wythnos yn dilyn Sul y Pasg bob blwyddyn.

Elusen fach annibynnol (Rhif Elusen: 1166349) sy’n trefnu’r ŵyl heb nawdd na chefnogaeth ffurfiol unrhyw fudiad neu enwad. Cadeirydd presennol yr ŵyl (yn 2020) yw Meirion Morris a’r ysgrifennydd yw Heledd Iago. Mae gweddill y pwyllgor a’r gwirfoddolwyr yn dod o wahanol draddodiadau ac enwadau.
Mwy o wybodaeth o wefan: www.llanw.org

Gwersylloedd Mudiad Efengylaidd Cymru
Gwersylloedd arbennig sy’n cynnwys gweithgareddau awyr agored, tripiau i’r traeth ac i lefydd diddorol, chwaraeon a gemau gwirion, nofio, tenis bwrdd a thwrnamentau, crefft ac adloniant o bob math. Mae’n gyfle gwych i fwynhau cwmni hen ffrindiau ac i wneud ffrindiau newydd. Mae’n gyfle da i astudio’r Beibl mewn ffordd y gelli di ei ddeall, ac i ddysgu mwy am Iesu Grist. Bydd y swogs wrthi’n gweithio’n galed i greu awyrgylch llawn hwyl ac i sgwrsio gyda ti am bob math o bethau. Dyna pam bod nifer o wersyllwyr yn dod nôl blwyddyn ar ôl blwyddyn.

Am fwy o wybodaeth: www.mudiad-efengylaidd.org

Cynhadledd Flynyddol Mudiad Efengylaidd Cymru
Yn ein dyddiau ni mae gwyliau yn bwysig ac yn beth i’w drysori. Mae’r gynhadledd hon yn gyfle i gilio oddi wrth brysurdeb bywyd a gwaith, gan ymlacio gyda theulu neu ffrindiau mewn awyrgylch gwahanol. Beth well nac ymuno gyda Christnogion eraill o bob rhan o Gymru am wyliau, cyfle i gymdeithasu ac yn fwy pwysig na dim arall – ceisio’r Arglwydd? Os ydych chi’n dod ar eich pen eich hunan, yn deulu neu’n rhan o grŵp, a beth bynnag yw eich cefndir enwadol neu eglwysig, bydd croeso cynnes i chi yn Aberystwyth! Ymunwch wrth geisio a derbyn gras o gylch y Gair.

Am fwy o wybodaeth: www.mudiad-efengylaidd.org

Gwersylloedd Saint y Gymuned
Mae Saint y Gymuned yn trefnu gwersylloedd Cristnogol cymharol rhad, rhai yn benodol ar gyfer plant a rhai eraill ar gyfer teuluoedd cyfan sy’n cael eu cynnal ar eu safle gwersylla yn Llanddwywe nepell o Harlech.

Mae’r safle ger Harlech, yn agos at y traeth a choetir gwych. Deffrowch i olygfeydd o’r môr ac arogl brecwast, mwynhau diwrnod yn llawn o weithgareddau hwyliog, archwiliwch beth ydi pwrpas ffydd a mynd i’r gwely gyda chymaint o atgofion arbennig.

Mae’r Gwersyll Saint y Gymuned hwn yn cynnwys: Mae’r Gwersyll Saint y Gymuned hwn yn cynnwys rhaglen lawn o weithgareddau, llety cysgu mewn pebyll, cyfleusterau golchi / cawodydd ac mae’n cael ei arlwyo’n llawn.

Am fwy o wybodaeth: www.saintygymuned.org a chwiliwch am “Llanddwywe”