Gwefannau Eglwysi Cymraeg

Eglwysi De Cymru
Capel Mair, Aberteifi
Gwefan â manylion am hanes y capel, y Swyddogion, Gweinidogion, Cymdeithas y Chwiorydd, Cymdeithas Ddiwylliadol, cyfarwyddiadau, rhoddion, nodiadau eglwysig , map i ddsngos lleoliad y capel, a nodiadau sut i gystylltu â’r eglwys.
www.capelmairaberteifi.org.uk

Capel y Garn, Bow Street
Pwrpas y wefan yma yw rhannu gwybodaeth am Gapel y Garn, Bow Street, Aberystwyth. Ceir ynddi gronicl manwl o fywyd yr eglwys a’i gweithgarwch, gyda dewis i ddarllen y croeso hefyd yn Saesneg
www.capelygarn.org

Capel y Nant, Clydach
Rhoir hanes, rhestrir digwyddiadau, gan gynnwys manylion am oedfaon a chytfarfodydd. Cynhwysir adroddiadau a lluniau yn darlunio i ni fywyd yr eglwys.
www.capelynant.org

Carmel Pontlliw
Gellir dewis darllen cynnwys y Wefan yn Gymraeg neu Saesneg, a cheir ynddi ddarlun clir o fywyd yr eglwys.
www.carmelpontlliw.co.uk

Ebeneser, Rhydaman
Ond rydyn ni hefyd yn eglwys efengylaidd. Yn syml mae hyn yn golygu ein bod ni’n dibynnu’n llwyr ar awdurdod y Beibl, fel gair ysbrydoledig Duw. Mae’r Beibl yn dysgu fod Iesu Grist wedi marw ar y groes er mwyn derbyn y gosb rydyn ni’n ei haeddu am y ffordd rydyn ni wedi troi i ffwrdd oddi wrth Dduw. Mae Iesu yn galw ar bawb i ddod ato fe, i droi cefn ar eu hen ffordd o fyw, i gredu ynddo fe a’i ddilyn. Dyma’r newyddion pwysicaf yn y byd ac felly rydyn ni’n chwilio am bob cyfle posib er mwyn dweud wrth eraill amdano.
www.ebeneserrhydaman.blogspot.com

Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd
Eglwys Efengylaidd Gymraeg, at wasanaeth trigolion Caerdydd. Cynhelir y cyfarfodydd trwy gyfrwng y Gymraeg ond mae darpariaeth cyfieithu i’r Saesneg ar gael yn y ddau gyfarfod ar ddydd Sul.
www.cwmpawd.org

Minny Street, Caerdydd
Eglwys gynnes, agored a bywiog ydym. Gyda’n gilydd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yr ydym yn gweithio i weld cariad Duw yng Nghrist yn ffynnu yn ein plith. Gyda’ch help chi, gallwn wneud hynny’n well fyth.
www.minnystreet.org

Salem, Canton, Caerdydd
Rydym yn ymhyfrydu yn y ffaith ein bod yn eglwys sy’n llawen ein croeso i bawb, yn weithgar ac yn fyrlymus, ac sy’n tyfu’n flynyddol! Ceir awyrgylch cartrefol, anffurfiol braf yn Salem, felly dewch i ymuno â ni!
www.capelalem.org

Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd
Eglwys gyda’r Bedyddwyr Cymraeg yw’r Tabernacl a sefydlwyd hi yn 1813. Bellach, y Tabernacl yw’r unig eglwys Fedyddiedig Gymraeg yn y ddinas. Cymraeg fu unig iaith addoliad yr eglwys, er bod croeso cynnes i bawb sydd am ddysgu’r iaith.
www.tabernacl.cymru

Eglwys Efengylaidd Caerfyrddin
Rydym yn falch o gydnabod ein perthynas â Christnogion eraill ledled Cymru a thrwy’r byd. Ond ein dymniad yw addoli a gwasanaethu’r Arglwydd Iesu Grist yma yn Aberystwyth a’r cylch, a hynny drwy’r Gymraeg.
www.eglwyscaerfyrddin.org

Penuel Caerfyrddin
Rydym ni’n deulu o Gristnogion sy’n cwrdd yn nhref Caerfyrddin. Ein bwriad fel eglwys yw adnabod Iesu Grist a’i gyflwyno i eraill. Ar y wefan hon cewch weld pwy ydym ni, pam rydym ni’n ymuno â’n gilydd fel eglwys, a sut gallwch chi gymryd rhan.
www.penuelcaerfyrddin.org

Eglwys y Priordy, Caerfyrddin
Mae’r eglwys yn rhan o ofalaeth gydag Eglwys Annibynnol Cana, ger Caerfyrddin ac Eglwys Bresbyteraidd Bancyfelin, a cheir ar y Wefan hon ddarlun arbennig o’i bywyd, gyda chydfeiriadau at ei hanes ei Gweinidogion, ei Hysgol Sul a thudalen yn amlinellu’r digwyddiadau.
www.priordy.org

Tabernacl, Caerfyrddin
Mae’r Tabernacl yn eglwys hanesyddol sydd â’i gwreiddiau’n ymestyn yn ôl mor bell â’r ddeunawfed ganrif, ac sydd â’i golwg heddiw ar fod yn eglwys gynnes a chroesawgar, agored a diragfarn, eciwmenaidd ei nod, yn drwyadl Gymraeg ei chyfrwng iaith.
www.tabernacl.wordpress.com

Eglwysi Bedyddwyr Cylch Carn Ingli
Gwefan yn rhoi gwybodaeth a hanes eglwysi Bedyddwyr Bethlehem Trefdraeth, Caersalem, Dyfed, Jabes, Cwm Gwaun a Tabor Dinas.
www.cylchcarningli.co.uk

Tabernacl, Efail Isaf
Mae’r Tabernacl yn gymuned Gristnogol fywiog gydag addoli’n digwydd ar wahân drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg. Yn wahanol i’r patrwm yn genedlaethol, ’dyw’r aelodaeth ddim wedi gostwng; yn wir, mewn blynyddoedd diweddar mae wedi cynyddu, ac mae’n galonogol bod yna sbectrwm eang gyda llawer o deuluoedd ifanc yn mynychu.
www.tabernacl.org

Gellimanwydd, Rhydaman
Gwefan â phwyslais ar ddigwyddiadau a gweithgareddau’r eglwys.
www.gellimanwydd.blogspot.com

Gobaith Llanelli
Gwefan ddwyieithog sydd yn rhoi gwybodaeth am ddigwyddiadau wythnosol yr eglwys.
www.hope-llanelli.com

Hope-Siloh Pontarddulais
Gwefan yn nodi hanes uno Hope a Siloh, digwyddiadau a gweithgareddau.
www.hopesiloh.webs.com

Saron, Llandybie
Blog sydd yn cynnwys adroddiadau o ddigwyddiadau ym mywyd yr eglwys.
www.capelsaron.blogspot.com

Eglwys Dewi Sant, Caerdydd
Os ydych chi’n mynychu’r eglwys yn rheolaidd neu’n chwilio am gyfle i ailgynnau fflam y ffydd, bydd croeso cynnes yn eich disgwyl yn Eglwys Dewi Sant. Gobeithio y gwnewch amser i ymuno â ni. Mae’r eglwys o fewn Esgobaeth Llandaf ac yn rhan o’r EGLWYS YNG NGHYMRU.
www.eglwysdewisant.org.uk

Eglwysi Gogledd Cymru
Gofalaeth Fro’r Llechen Las – Gronyn
Mae Gofalaeth Fro’r Llechen Las yn cynnwys saith o eglwysi yn hen ardaloedd chwarelyddol Dyffryn Peris a Dyffryn Ogwen: tair ohonynt yn perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC), a phedair yn eglwysi Annibynnol (A) sy’n aelodau o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Cefnywaun (EBC) ac Ebeneser (A), Deiniolen Capel Coch a Rehoboth (EBC) a Nant Padarn (A), Llanberis Bethlehem (A), Talybont Carmel (A), Llanllechid.
www.gronyn.org

Capel y Rhos, Bae Colwyn
Mae aelodau Capel y Rhos yn cyfarfod mewn adeilad newydd a agorwyd ym mis Medi 2008. Daeth capeli Bethlehem a Hermon, Bae Colwyn a Nasareth, Mochdre at ei gilydd i greu’r eglwys newydd. Mae croeso cynnes ichi ymuno â ni. Cynhelir gwasanaeth am 10.30 bob bore Sul.
www.capelyrhos.com/

Caersalem, Caernarfon
Adnabod, Addoli a Dilyn Iesu a’i gyflwyno i eraill – 10yb | 5.30yh dydd Sul. Eglwys gyfoes a bywiog yng Nghaernarfon sydd ag amrediad o weinidogaethau o wasanaethau Dydd Sul sy’n addas i bob oed i Banc Bwyd Arfon, ac o Sêr Bach (grwp poblogaidd rhieni a’u plant) i Glwb Ieuenctid.
www.caersalem.com

Eglwys Emaus Bangor
Yn 2014 cychwynodd Eglwys Annibynnol Bangor ac Eglwys y Bedyddwyr Penuel ar y broses o sefydlu un eglwys gydenwadol. Erbyn hyn cwblhawyd y gwaith ac yr ydym bellach yn addoli o dan yr un to. Cewch yma groesdoriad hyfryd o bobl yn hannu o bob rhan o Gymru. Y mae eu brwdfrydedd a’u hawydd i weithio dros Iesu Grist yn amlwg.
www.emausbangor.cymru

Eglwysi Bro Aled
Mae Bro Aled wedi ei lleoli i’r de o Abergele, gyda Llanrwst i’r gorllewin a Dinbych i’r dwyrain. Mae’n ardal wledig, amaethyddol, gyda thraddodiad cyfoethog yn yr efengyl. Yma y magwyd William Salesbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog, Edward Parry ac eraill. Heddiw, mae gwaith yr Arglwydd yn parhau i gael ei ddyrchafu, a’n nod yw dyrchafu enw Iesu a dwyn tystiolaeth i ras a thrugaredd Duw.
www.eglwysibroaled.com

Eglwysi tu allan i Gymru
Eglwys Gymraeg Canol Llundain
Fel Eglwys Gymraeg yng nghanol Llundain, ‘rydym yn cynnig cymdeithas Gristnogol trwy: Addoli yn ddwyieithog, cyhoeddi’r Efengyl, adlewyrchu cariad Crist yn ein bywydau bob dydd ac ymrwymiad i gefnogi’r gymuned ehangach.
www.eglwysgymraegllundain.org

Capel-y-Boro, Llundain
Mae Capel-y-Boro yn estyn croeso cynnes Cymreig i bawb i’w holl weithgareddau. Mae’r capel yn cynnal gwasanaeth dwyieithog sy’n dechrau am 11 y.b. fel arfer ar yr 2il, 3ydd a 4ydd Sul yn y mis (am fanylion ymhellach, gweler “gwasanaethau”). Mae gan aelodau’r capel ymroddiad cryf i’r gymdeithas leol a byd-eang – ac maen nhw’n codi arian yn am i lawer o elusenau.
www.welshchapel.com

Eglwys Bened Sant, Llundain
Eglwys yng nghanol Llundain wedi ymrwymo i wneud yn hysbys y newyddion pwysig am Iesu Grist i’r holl genhedloedd, ac yn enwedig y Cymry.
www.stbenetwelshchurch.org.uk

Bethel, Birmingham
Wedi dymchwel dau Gapel Cymraeg Birmingham, adeiladwyd ac agorwyd Bethel, yr achos presennol yn 1968. Mae tri gweinidog wedi gwasanaethu’r capel newydd dros y blynyddoedd, sef y diweddar Barchedig Arthur Wynne Edwards, y diweddar Barchedig G Tudor Owen a’r Parchedig Robert Parry. Nid oes gan Fethel weinidog ar hyn o bryd. Cynhelir y gwasanaethau yn y Gymraeg gyda ambell i wasanaeth dwyieithog. Mae croeso i bawb i ymuno â ni yn ein haddoliad.
www.bethelbirmingham.org.uk

Yn dymuno ychwanegu eich gwefan?
Os oes gan eich eglwys chi wefan yna cysylltwch gyda ni os ydych am i ni gynnwys eich manylion ar y wefan hon: aled@ysgolsul.com