Y Cwrs Gweddi
Dyma gwrs wyth wythnos sy’n ein tywys ar daith drwy Weddi’r Arglwydd. Mae’n addas ar gyfer grwpiau bychan i gynnal astudiaeth Feiblaidd gyda chwestiynau trafod. Mae pob sesiwn yn cynnwys ffilm (yn Saesneg) ac yna astudiaeth Feiblaidd er mwyn galluogi grwpiau i alluogi grwpiau i drafod yn Gymraeg. Cliciwch isod i gael mynediad i’r wyth sesiwn.
Canolfan Weddi Ffald y Brenin
Mae Ffald y Brenin yn ganolfan encil Gristnogol ac yn dŷ gweddi dros Gymru a’r cenhedloedd. Mae cannoedd o ymwelwyr yn ymweld bob blwyddyn, ac yn fyd-eang mae llawer mwy yn cymryd rhan yng ngweinidogaeth Tai Gweddi Lleol Ffald y Brenin (LHOP). Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae miloedd hefyd wedi ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiadau BYW.
Mae gwesteion yn disgrifio Ffald y Brenin fel “ffynnon adfywiol,” “man cyfarfod,” a “man gorffwys heddychlon lle mae bendith yn gyffredin.”