Emynau a Chaneuon

gobaith.cymru
Gwefan gobaith.cymru
Mae gwefan gobaith.cymru yn cynnwys cannoedd o emynau a chaneuon mawl cyfoes. Mae yno ffeiliau PowerPoint y gellir eu lawrlwytho. Mae hefyd yn blatfform i rannu emynau Cymraeg newydd ynghŷd a chyfieithiadau newydd.
http://www.gobaith.cymru/
Caneuon Plant Andy Hughes
Dyma gasgliad o ganeuon/emynau gwreiddiol i blant gan Andy Hughes. I gyd fynd gyda phob cân mae pedwar math o ffeil sef:

  • Word – yn cynnwys y geiriau
  • PDF – yn cynnwys y gerddoriaeth (hen nodiant)
  • PowerPoint – yn cynnwys geiriau a lluniau sy’n rhydd o hawlfraint
  • MP3 – recordiad o’r gân

Cliciwch yma i fynd i dudalen caneuon Andy Hughes ar ysgolsul.com.

Hefyd, ae nifer o’r caneuon hefyd i’w gweld a gwrando arnynt ar sianel YouTube Andy Hughes.

Gwefan Angelfire Richard B Gillion
Dyma wefan sydd wedi ei greu gan y Parch Richard Gillion sy’n cynnwys rhai cannoedd o emynau Cymraeg yn ogystal â chyfieithiad Saesneg o nifer ohonynt gan Richard ei hun.

Ceir hefyd adran ar donau gan restru’r emynau Cymraeg y mae modd eu canu ar y dôn.

http://www.angelfire.com/in/gillionhome/Worship/Emynau/emynau.html

Caneuon Ffydd
Caneuon Ffydd
Y prif lyfr emynau Cymraeg erbyn hyn yw Caneuon Ffydd a gyhoeddwyd fel cynllun cydenwadol yn ôl yn 2001.
Mae’r enwadau canlynol yn rhan o’r fenter: Yr Eglwys yng Nghymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’r llyfr ar gael fel fersiwn Hen Nodiant, fersiwn Sol-ffa, fersiwn geiriau yn unig a fersiwn organ Hen Nodiant. Mae’n cynnwys 873 o emynau a 704 o donau, ynghyd â 33 o Salmau a gweddiau. Ceir hefyd 86 o emynau Saesneg.

Caneuon Ffydd Hen Nodiant
Argraffiad Hen-nodiant o lyfr emynau arloesol a luniwyd dan nawdd pwyllgor cydenwadol at ddefnydd cynulleidfaoedd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, Eglwysi Presbyteraidd a Methodistaidd Cymru a’r Eglwys yng Nghymru, yn cynnwys bron i 900 o emynau a salmau Cymraeg, dros 60 emyn Saesneg, a thros 650 o emyn-donau. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 2001

Caneuon Ffydd – Geiriau’n Unig £12.95
Argraffiad Geiriau’n unig o lyfr emynau arloesol a luniwyd dan nawdd pwyllgor cydenwadol at ddefnydd cynulleidfaoedd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, Eglwysi Presbyteraidd a Methodistaidd Cymru a’r Eglwys yng Nghymru, yn cynnwys bron i 900 o emynau a salmau Cymraeg, dros 60 emyn Saesneg, a thros 650 o emyn-donau. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 2001.

Caneuon Ffydd Sol-ffa
Argraffiad Sol-ffa o lyfr emynau arloesol a luniwyd dan nawdd pwyllgor cydenwadol at ddefnydd cynulleidfaoedd yr Annibynwyr a’r Bedyddwyr, Eglwys Presbyteraidd a Methodistaidd Cymru a’r Eglwys yng Nghymru, yn cynnwys bron i 900 o emynau a salmau Cymraeg, dros 60 emyn Saesneg, a thros 650 o emyn-donau. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Mawrth 2001.

Cydymaith Caneuon Ffydd
£19.95 Awdur: Delyth G. Morgans
Cydymaith i’r llyfr emynau cydenwadol Caneuon Ffydd, yn cynnwys 760 tudalen o wybodaeth am holl emynau, tonau, emynwyr, cyfieithwyr a chyfansoddwyr Caneuon Ffydd. Ceir trafodaeth gynhwysfawr ar hanes emynyddiaeth yng Nghymru, ynghyd ag arweiniad diogel i holl amrywiaeth cynnwys Caneuon Ffydd. Argraffiad newydd o lyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn Nhachwedd 2006.

Casgliad Powerpoint Emynau Caneuon Ffydd £10.00
Disg yn cynnwys 900 o ffeiliau ar gyfer cyflwyniad Powerpoint o emynau o’r gyfrol Caneuon Ffydd, ynghyd â detholiad byr o emynau ychwanegol. Bydd angen trwydded briodol (CCLl/Calamus) i ddefnyddio cynnwys y pecyn ar sgrîn neu i atgynhyrchu’r emynau ar daflen.

Tonau a chyfeiliant
Ar wefan smallchurchmusic ceir yr holl donau sydd allan o bob hawlfraint yno i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Maent yno mewn 3/4 fformat gwahanol – organ traddodiadol, piano syml neu band eglwys. Mae hon yn wefan hawdd iawn i’w defnyddio – cliwiwch ar rif yr emyn yn Caneuon Ffydd, ac fe’ch harweinir i adran sy’n dangos y tonau sydd ar gael i’w lawrlwytho. Paratowyd y wefan hon gydag adran Caneuon Ffydd ynddo gan weinidog bedyddiedig o Awstralia!

Mae gan Undeb yr Annibynwyr CD sy’n cynnwys 50 o donau mwyaf poblogaidd Cymru, ynghyd â llyfr sy’n nodi pa eiriau yn Caneuon Ffydd sy’n cyfateb i’r tonau hyn: www.annibynwyr.org

Mae gan gwmni Kevin Mayhew nifer o becynnau CD’s sy’n cynnwys cannoedd o donau emynau a chyfeiliant i ganeuon cyfoes Cristnogol diweddar: www.kevinmayhew.com

Canu Clod!
Canu Clod!
Mae’r ddwy gyfrol yn cynnwys dros 400 o emynau a chaneuon Cristnogol i blant a ieuenctid. Ceir rhai o’n ffefrynnau traddodiadol ond yn bennaf dyma gasgliad o ganeuon Cristnogol cyfoes a gomisiynwyd ar gyfer y gyfrol. Cerddoriaeth llawn hen nodiant gyda cordiau gitâr

Yn cynnwys caneuon gan: Arfon Wyn, Robat Arwyn, Ceri Gwyn, Euros Rhys Evans, Martyn Geraint, Arfon Jones, John Gwilym Jones, Hefin Elis, Sian Wheway, Susan Williams, Tecwyn Ifan, Mererid Hopwood, Tudur Dylan, Gwyneth Glyn, Mererid Mair a Ynyr Roberts Brigyn
www.ysgolsul.com/?page_id=684

Casgliad o Ganeuon Ysbrydol Cymraeg sydd ar YouTube


Cariad Mawr Duw
Cariad Mawr Duw
Casgliad o 7 o ganeuon addoli ar gyfer plant, wedi eu cyfansoddi gan Simon Parry, sy’n gyfrifol am fudiad All Stars Kids Club, a’u cyfieithu i’r Gymraeg gan Arfon Jones. Mae’r caneuon bywiog yma ar gael ar y CD, Spotify ac yn fuan Apple Music hefyd. Mae’r caneuon ar gael mewn 2 fformat, sef fel traciau cefndir yn unig, ac hefyd fersiwn gyda côr plant yn canu’r caneuon, sy’n help wrth gwrs wrth ddysgu’r caneuon. Mae Meilir Geraint yn lleisio’r caneuon, gyda chôr o blant yn canu yn y cefndir.
https://www.allstarskidsclub.com/cariad-mawr-duw/
Mil a Mwy o Emynau
Mil a Mwy o Emynau
£17.99 Awdur: Edwin C. Lewis
Casgliad cynhwysfawr o 1,000 o emynau nad ydynt yn Caneuon Ffydd, gan gynnwys hen emynau a rhai a gyfansoddwyd yn ddiweddar at achlysuron arbennig.
Emynau Cymru / The Hymns of Wales
Emynau Cymru / The Hymns of Wales
£6.95 Golygydd: Gwynn ap Gwilym, Ifor ap Gwilym
Casgliad yn cynnwys hanner cant o’r emynau a’r tonau Cymraeg enwocaf gyda threfniannau sol-ffa a hen nodiant ac aralleiriad Saesneg o’r geiriau. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1995.
Cyfres CD’s Hoff Emynau
Mae Hoff Emynau yn gyfres o 8 pecyn sy’n cynnwys llyfr a CD, wedi eu cyhoeddi gan Curiad. Mae bob pecyn yn cynnwys 15 emyn, sy’n cael eu canu gan rai o gorau mwyaf adnabyddus Cymru. Dywedodd Ted Clement-Evans o Lerpwl, sydd wedi creu y gyfres hon:

“5 mlynedd yn ôl cefais fy symud i wneud recordiadau o’r emynau sydd wedi cael eu canu yn ein capeli ers 200 mlynedd – treftadaeth sydd mewn perygl o gael ei anghofio. Gwyr a gwragedd yn canu mewn cytgord â chyfeiliant organ.

Mae yna 8 recordiad hyd yn hyn – pob un yn cynnwys 15 o emynau poblogaidd yn cael eu canu gan gôr ac arweinydd adnabyddus. Mae’r recordiadau hyn bellach ar gael ar fy ngwefan, www.coraucymru.com, Mae’r corau yn cynnwys Côr Ger y Ffin yng Ngogledd Cymru a Côr Godre’r Garth yng Nghaerdydd yng nghwmni’r organydd Huw Tregelles Williams. Mae’r 8fed, gan Côr Dre Caernarfon, i’w ryddhau cyn bo hir.”

Mae pob CD gyda’i lyfr cysylltiedig, sy’n cynnwys yr holl eiriau a cherddoriaeth a nodiadau ar eu hawduron a’u cyfansoddwyr ysbrydoledig, ar gael wrth glicio trwodd i’r wefan am £10 yr un ynghyd â £2 cludiant.

Sianelau YouTube sy'n cynnwys caneuon mawl ac emynau Cymraeg
Gŵyl Llanw
Casgliad o recordiau byw o wyl Llanw dros y blynyddoedd

BYWiDDUW
Sesiwn recordio fyw o Eglwys Caersalem, Caernarfon

Salm 100
Casgliad o recordiau o emynau cyfoes yn cael ei perfformio.

Meilyr Geraint
Sianel YouTube gan y cerddor ifanc Meilyr Geraint sy’n gyfansoddwr caneuon mawl cyfoes. Mae’n rhoi caniatâd i eglwysi ddefnyddio ei ganeuon fel y dymunant.

Cass Meurig
Casgliad o ganeuon Cristnogol gwreiddiol gan y cerddor gwerin Cass Meurig gan gynnwys yr holl ganeuon o’r albwm ‘Taith’ sydd oll yn seiliedig ar fyfyrdodau o’r ysgrythur. Mae croeso i unrhywun eu defnyddio heb ofyn am ganiatâd.

Cariad Mawr Duw
Recordiadau o Cariad Mawr Duw gan All Star Kids yn cael eu perfformio gan Meilyr Geraint

Sianel YouTube gobaith.cymru
Sianel lle y gwahoddir pobl i gyfrannu emynau a chaneuon gwreiddiol sydd allan o hawlfraint er mwyn i bobl fedru ymgorffori i mewn i’w hoedfaon neu fwynhau addoli o adref.

Recordiadau a chryno ddisgiau Cristnogol Cymraeg
Ceir casgliad helaeth o amrywiol CD’s Cristnogol/Crefyddol sy’n cynnwys emynau a charolau gan unigolion a chorau wedi eu cyhoeddi gan Sain. Gall rhain fod yn ddefnyddiol mewn gwasanaeth lle nad yw cynulleidfa yn hyderus i ganu.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma: www.sainwales.com (Adran Crefyddol)

Grym Mawl
Casgliad o emynau cyfoes gyda Dafydd Dafis, Alwen Derbyshire, Elin Fflur, Susan Williams a Côr Rhuthun. Ceir 15 o ganeuon mawl yn cael eu canu gan yr artistiaid gyda 10 ohonynt ar gael fel traciau cefndir hefyd:

O Dewch i Ddathlu ‘Nawr – Elin Fflur
Clywch Leisiau’r Nef – Dafydd Dafis
Iesu, fe Ddathlwn Ni dy Goncwest Di – Alwen Derbyshire
O’r Nef y Daeth – Côr Rhuthun
I’r Lladdfa yn dy G’wilydd – Susan Williams
Distewch – Dafydd Dafis
Rwy’n Greadigaeth Newydd – Elin Fflur
Dad, dy Gariad yn Glir Ddisgleiria – Côr Rhuthun a Susan Williams
Addfwynaf Frenin – Alwen Derbyshire
O Llawenhewch! – Dafydd Dafis
Fe Roddaist Heibio Orsedd y Nef – Susan Williams
Mor Brydferth ar y Bryniau – Côr Rhuthun
O Dduw ein Iôr – Elin Fflur
Y Mae in Waredwr – Alwen Derbyshire
Bloeddiwn Fawl – Dafydd Dafis

O Dewch i Ddathlu ‘Nawr – Offerynnol
Clywch Leisiau’r Nef – Offerynnol
Iesu, fe Ddathlwn Ni dy Goncwest Di – Offerynnol
Rwy’n Greadigaeth Newydd – Offerynnol
Dad, dy Gariad yn Glir Ddisgleiria – Offerynnol
Addfwynaf Frenin – Offerynnol
O Llawenhewch! – Offerynnol
Mor Brydferth ar y Bryniau – Offerynnol
O Dduw ein Iôr – Offerynnol
Bloeddiwn Fawl – Offerynnol

Mwy o wybodaeth ac archebu: www.sainwales.com

Casgliad llawn Sain: