Yn mynd i’r afael a thlodiac anghyfiander – RYDYM YN GWEITHIO I DRAWSNEWID BYWYDAU
Rydym yn gweithio gyda Christnogion yn y Dwyrain Canol i fynd i’r afael â thlodi ac anghyfiawnder yn y rhanbarth. Lle mae angen – am loches, cartref, gofal iechyd, addysg, cyfiawnder a hawliau dynol – rydym ni, gyda’n partneriaid, yn ymateb. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Christnogion yn yr Aifft, Irac, Israel-Palestina, Libanus a Syria, gan gefnogi prosiectau iechyd, addysg a chymunedol, sy’n dod â gwasanaethau hanfodol i’r rhai sydd mewn perygl o gael eu gwthio i’r cyrion a’u hallgáu.
RYDYM YN GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH
Mae partneriaeth yn ganolog i weledigaeth Embrace o drawsnewid. Rydym yn cefnogi, galluogi a phartneru gyda Christnogion y Dwyrain Canol wrth iddynt weithio i drawsnewid bywydau ac adfer urddas y cymunedau mwyaf allgáu ac ymylol. Fel mae’r dywediad Arabaidd yn dweud, ‘mae bara a halen rhyngom ni’. Mae’n golygu ein bod yn eistedd wrth y bwrdd yn gyfartal, mewn cynghrair o gymdeithas.
Ar hyn o bryd mae gennym dros 40 o bartneriaid dewr, ysbrydoledig, creadigol a medrus yn y rhanbarth. Mae pob un yn gweithio i drawsnewid bywydau; mae pob un wedi’i ysbrydoli gan yr Efengyl.
Mae gan Embrace daflen garolau yn Gymraeg a fersiwn dwy-ieithog – mae modd archebu copiau oddi ar eu gwefan.
Gwefan: embraceme.org