Ar wefan www.ysgolsul.com mae yna siop ddigidol yn gwerthu eLyfrau. Ar y siop ddigidol mae modd darganfod y teitlau Nadolig isod dan yr adrannau a nodir yma:
Yn yr adran Llyfrau Myfyrdodau mae:
Y Noson Honno gan Ivor Thomas Rees
Casgliad gwerthfawr o bortreadau o straeon yn ymwneud â geni Iesu ac â phroffwydoliaethau am ei eni, ynghyd â myfyrdodau ar y portreadau hynny gan Ivor Thomas Rees. Fformat: PDF.
Yn yr adran Llyfr Gwasanaethau i oedolion mae:
Defosiwn Gŵyl y Nadolig Casglwyd gan Aled Davies
Casgliad cynhwysfawr o ddeunydd defosiynol, yn cynnwys darlleniadau, gweddïau, cerddi a myfyrdodau ar gyfer tymor yr adfent a’r Nadolig. eLyfr ar ffurf PDF.
Yn yr adran Llyfrau Ffeithiol a Chyffredinol mae:
Cracer ‘Dolig
Yn llawn o arferion, defodau, dathliadau a thraddodiadau’r Nadolig
Huw John Hughes
Llyfr sydd yma yn llawn gwybodaeth am y Nadolig. Mae’n llawn hanesion difyr am draddodiadau’r Nadolig ar draws y canrifoedd. Yr arferion a’r defodau, eu hanes a’u tarddiad – a chwis ac ambell jôc yma a thraw.