Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a elwir hefyd y Methodistiaid Calfinaidd neu’r Trefnyddion Calfinaidd, neu ar lafar “Yr Hen Gorff”, yn enwad anghydffurfiol Cymreig.

Datblygodd yr enwad allan o’r Diwygiad Methodistaidd yn y 18g dan arweiniad Howel Harris, Daniel Rowland a William Williams, Pantycelyn, ac yn ddiweddarach Thomas Charles. Yn y cyfnod yma roedd yn fudiad o fewn yr eglwys Anglicanaidd, a dim ond yn 1811 y dechreuodd ordeinio gweinidogion ei hun. Cwblhawyd y broses o ymwahanu pan gyhoeddodd Gyffes Ffydd yn 1823. Tyfodd yr enwad yn gyflym yn hanner cyntaf y 19g, dan arweiniad gwŷr fel Thomas Jones (Dinbych) (1756 – 1820), John Elias (1774 – 1841) a John Jones, Talysarn, i fod y mwyaf o enwadau anghydffurfiol Cymru. Roedd yn wahanol i’r enwad arall anghydffurfiol a arddelai’r enw ‘Methodistiaid’, sef y Methodistiaid Wesleaidd a ddilynai John Wesley yn Lloegr ac a ymledodd yng Nghymru yn ddiweddarach. Calfiniaieth a arddelai’r Methodistiaid yng Nghymru a Chalfinaidd oedd diwynyddiaeth yr enwad o’r dechrau. Bu tŵf pellach yn dilyn Diwygiad 1904-1905, dan arweiniad Evan Roberts, ond ers hynny mae nifer yr aelodau wedi gostwng yn sylweddol.

Daeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru i fod yn gynnar yn y 19eg ganrif yn dilyn y Diwygiad Methodistaidd, ac mae bellach yn Eglwys o tua 20,000 o aelodau.

Llinell Amser

1735 Dechreuad y Diwygiad Methodistaidd trwy dröedigaeth Howel Harris a Daniel Rowland.

1811 Gwahanu oddi wrth Eglwys Loegr drwy ordeinio gweinidogion yn y Bala ac yn Llandeilo.

1823 Llunio a mabwysiadu Cyffes Ffydd.

1826 Corffori’r Eglwys – neu’r Cyfundeb trwy Weithred Gyfansoddiadol.

1837 Lewis Edwards a David Charles yn agor ysgol yn y Bala, a gafodd ei throi yn Goleg i addysgu gweinidogion ym 1839.

1840 Sefydlu’r Gymdeithas Genhadol Dramor i anfon cenhadon i Fryniau Khassia a Jaintia yn Assam, India.

1842 Sefydlu Coleg i addysgu gweinidogion yn Nhrefeca.

1845 Penderfynu rhoi’r holl eglwysi dan ofal gweinidog. Hefyd, cyhoeddi rhifyn cyntaf Y Traethodydd, cylchgrawn chwarterol sy’n cael ei gyhoeddi hyd heddiw.

1864 Cyfarfod cyntaf y Gymanfa Gyffredinol, yn Abertawe.

1933 Pasio deddf Seneddol i newid y cyfansoddiad

1947 Sefydlu’r Sasiwn yn y Dwyrain, sef llys eglwysig ar gyfer yr eglwysi Saesneg eu hiaith.

1958 Sefydlu Cronfa Gynnal i sicrhau cyflog teg a mans i bob gweinidog.

1968 Cenhadon olaf yn dod adref o ogledd-ddwyrain India. Hefyd, troi Coleg y Bala yn ganolfan plant ac ieuenctid.

1975 Y Cyfamod tuag at Undod gydag eglwysi eraill yng Nghymru.

1978 Pamela Turner yn cael ei hordeinio yn weinidog – y wraig gyntaf. Hefyd, dod yn aelod o Gyngor y Cenhadaeth Fyd-eang (CWM).

1983 Penodi’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf – Parchedig Dafydd Owen.

2004 Y Swyddfa Ganolog yn symud i’w safle presennol yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.

2007 Mabwysiadu strwythur newydd ar gyfer Henaduriaethau a Byrddau’r Gymanfa Gyffredinol.

2008 Cofrestru Eglwys Bresbyteraidd Cymru fel elusen a mabwysiadu cyfansoddiad newydd.

2012 Penodi’r Parchedig Meirion Morris yn Ysgrifennydd Cyffredinol.

Mwy o wybodaeth o wefan Eglwys Bresbyteriadd Cymru
www.ebcpcw.cymru