📖 Canllaw i Addoliad Dwyieithog
Sut mae trefnu gwasanaeth addoli sy’n rhoi lle naturiol a pharchus i’r Gymraeg a’r Saesneg? Mae’r canllaw ymarferol hwn yn cynnig syniadau ac awgrymiadau i gapeli ac eglwysi sy’n dymuno datblygu addoliad dwyieithog sy’n groesawgar, yn gynhwysol ac yn ystyrlon i bawb.
Mae’n cynnwys cyngor ar gynllunio gwasanaethau, dewis emynau, darlleniadau Beiblaidd, gweddïau a phregethu, ynghyd â rhestr wirio ddefnyddiol. Mae’r canllaw ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae’r tair taflen hyn yn adnoddau dwyieithog i helpu pobl sy’n dysgu Cymraeg i gymryd rhan mewn gwasanaethau addoli Cymraeg.
Mae’r ddwy daflen Addoli yn cyflwyno geirfa ac ymadroddion defnyddiol ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys cyfarchion, emynau, cyhoeddiadau, gwyliau Cristnogol ac arwain addoliad. Mae’r daflen Gweddïau yn cynnwys gweddïau a bendithion cyfarwydd, gan gynnwys Gweddi’r Arglwydd, i helpu dysgwyr i weddïo a chymryd rhan yn yr addoliad yn Gymraeg.
Y gobaith yw y bydd yr adnoddau hyn yn magu hyder dysgwyr ac yn gwneud gwasanaethau Cymraeg yn fwy hygyrch a chroesawgar i bawb.
Gallwch weld y taflenni isod a’u lawrlwytho fel delweddau JPG neu ffeiliau PDF.






