CYTUN

Mae Cytûn yn darparu “gofod eciwmenaidd strwythuredig” ar gyfer cyfarfod a thrafod gan hwyluso astudio materion o ddiddordeb cyffredinol ar y cyd a meithrin cysylltiadau rhwng yr eglwysi parthed materion ffydd a threfn a’r materion ehangach a drafodir yn y fforwm cyhoeddus yng Nghymru.

Rydym yn cynnig cynlluniau i gefnogi prosiectau eciwmenaidd lleol a grwpiau eciwmenaidd lleol a rhanbarthol drwy gynhyrchu cylchlythyrau rheolaidd, ymweliadau gan aelodau’r tîm staff a chynnig cymorth ymarferol ar gyfer tystio eciwmenaidd yn lleol. Rydym yn cynnal a hybu cysylltiadau gyda’r gymuned Gristnogol fyd-eang drwy sawl ffordd.
Canolbwynt gweithgareddau mwyaf arwyddocaol Cytûn yw cynnig cymorth eciwmenaidd i’r eglwysi sy’n aelodau drwy hwyluso eu tystiolaeth ar y cyd, cynnal cyfarfodydd ar y cyd, briffio a darparu adnoddau ar gyfer addoli a hyfforddi.

Rydym yn cefnogi nifer o gyrff yn y trydydd sector gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, yr Ymgyrch Cenedl Noddfa, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a nifer o gymunedau ffydd eraill.

Gwefan: www.cytun.cymru