Cyrsiau cyflwyno’r ffydd

Y Cwrs Alffa
Heddiw, mae diddordeb newydd yn y ffydd Gristnogol, ac yn fwy penodol, ym mherson Iesu. Dros ddwy fil o flynyddoedd ers ei eni, mae ganddo fwy na dau biliwn o ddilynwyr. Bydd Cristnogion bob amser yn cael eu cyfareddu gan sylfaenydd eu ffydd ac Arglwydd eu bywydau. Ond yn awr, mae adfywiad yn y diddordeb gan rai nad ydyn nhw’n mynychu addoldy.

Mae nifer yn gofyn cwestiynau am Iesu. Ai dim ond dyn oedd Iesu, ynteu ai ef yw Mab Duw? Os ydyw, beth yw goblygiadau hyn ar ein bywydau o ddydd i ddydd?

Mae’r cwrs Alffa yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau allweddol sy’n rhan ganolog o’r ffydd Gristnogol, sydd wedi ei lunio ar gyfer rhai nad ydyn nhw’n mynychu addoldy, y rhai sy’n ceisio canfod rhagor am Gristnogaeth, a’r rhai sydd wedi dechrau arddel ffydd yn Iesu Grist yn ddiweddar. Rydym wedi gwylio gyda syndod wrth i Alpha ledaenu i dros 50,000 o gyrsiau ledled y byd. Mae miliynau o ddynion a merched o bob oedran sydd wedi dechrau cymryd rhan yn y cwrs, ac sy’n llawn cwestiynau am Gristnogaeth, wedi canfod Duw fel eu Tad, Iesu Grist fel eu Gwaredwr a’u Harglwydd, a’r Ysbryd Glân fel yr un sy’n dod i fyw o’u mewn.

Mwy o wybodaeth am y Cwrs Alffa a’r deunyddiau Cymraeg sydd ar gael yma: ysgolsul.com – Y Cwrs Alffa yn Gymraeg

Mwy o wybodaeth am y Cwrs Alffa yn gyffredinol yn cynnwys y ffilmiau Saesneg: alpha.org.uk


Cwrs Emaus
Cynllun hyfforddi cydenwadol i groesawu pobl i’r ffydd Gristionogol. Deunydd trafod bywiog a diddorol ar gyfer grwpiau eglwysig cydenwadol.
Emaus: Ffordd y Ffydd
Rhan 3: Tyfu Fel Cristion
Rhan 3: Y Ffordd Gristnogol o Fyw

Mwy o fanylion: ysgolsul.com – Cynllun Emaus

Cwestiwn - Cyflwyniad i'r ffydd Gristnogol
Cyflwyniad 6 rhan i’r ffydd Gristnogol i’r sawl sydd am holi. Crewyd gan Jonathan Vaughan Davies. Cyflwynir gan Arfon Jones. Cyhoeddwyd ar y cyd gyda Undeb Bedyddwyr Cymru.

Dyma gyflwyniad i thema pob ffilm:
1. Y Creu
2. Cynhenid
3. Tlws
4. Poen
5. Cyd-ddigwyddiad
6. Meseia

Mwy o wybodaeth: ysgolsul.com – Cwrs Cwestiwn

Efengyl 100
Her Darllen Efengyl 100
eich taith trwy’r Beibl mewn 100 diwrnod

Cynllun newydd yw ‘Her Darllen Efengyl E100’, gyda’r her o ddarllen 100 darn o’r Beibl dros gyfnod o 100 diwrnod. Dewiswyd y 100 darn yn ofalus, sy’n cynnwys 50 darn o’r Hen Destament a 50 darn o’r Testament Newydd, gyda’r gobaith o helpu’r darllenydd i ddeall stori ac ystyr cynnwys y Beibl.

Gall unigolyn ei ddilyn ar ei ben ei hun, drwy addunedu i ddarllen y 100 darn fesul diwrnod, ac yna i ddarllen y nodiadau cefndirol sy’n rhan o lyfr Efengyl 100. Bydd gwneud hyn yn ffordd effeithiol iawn o weld prif themau a negeseuon yr efengyl, ac yn fodd o ddeall y Stori Fawr a geir yn y Beibl.

Mae hwn hefyd yn gynllun i’r eglwys gyfan – ac i gyd-fynd gyda’r 100 darn, sydd wedi ei dorri i fyny i 20 thema a chyfnod yn y Beibl, mae na hefyd, ar wefan www.ysgolsul.com, cyfres o 20 pregeth ac 20 astudiaeth Feiblaidd i gyd-fynd â’r deunydd hwn. Felly yr her yw i unigolion ddarllen gwerth 5 diwrnod yn ystod yr wythnos, ac yna ar y Sul gwrando ar bregeth ar y darlleniadau hynny, neu i gyfrannu mewn astudiaeth Feiblaidd canol wythnos, i’r eglwysi hynny sy’n cyfarfod i drafod y Gair.

Darganfod Cristnogaeth
Mae Darganfod Cristnogaeth yn gwrs deg wythnos sydd a’r bwriad o gyflwyno pobl i’r Arglwydd Iesu Grist.

Wrth i efengyl Marc gael ei ddarllen, mae’r rhai sy’n dilyn y cwrs yn cael cyfle i ddarganfod gwir neges Cristnogaeth drwy edrych ar dri chwestiwn:

  • Pwy oedd Iesu?
  • Pam y daeth ef?
  • Beth mae ei ddilyn ef yn ei olygu?

Mae Darganfod Cristnogaeth yn gyfieithiad o’r cwrs Saesneg ‘Christianity Explored’ a ysgrifennwyd gan Rico Tice, Barry Cooper a Sam Shammas.

Am fwy o wybodaeth am y cwrs gwreiddiol ewch i https://www.christianityexplored.org/

Gweinyddir a chynhyrchwyd y testun Cymraeg gan Wasg Bryntirion ar ran Mudiad Efengylaidd Cymru.

Adnoddau sydd ar gael

  • Llawlyfr Astudio (ar gyfer pob person sy’n cymryd rhan yn y cwrs) – Ar gael drwy gysylltu gyda Swyddfa Mudiad Efengylaidd Cymru: swyddfa@mudiad-efengylaidd.org
  • Copiau o’r sgyrsiau (10 i gyd) i gyd fynd gyda phob sesiwn – ar gael fel PDFs i’w lawrlwytho isod.
  • Cyflwyniadau PowerPoint (10 i gyd) i gyd fynd gyda phob sesiwn – ar gael i lawrlwytho isod.
  • Posteri er mwyn hysbysebu eich cwrs – ar gael i lawrlwytho isod.

Prynu y llawlyfr
Gellir prynu copi caled o’r llawlyfr yn uniongyrchol gan Wasg EMW drwy glicio isod:
Prynnu copiau caled – £1 yr un

Poster A5 Darganfod Cristnogaeth

Poster A4 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 1 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 1 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 2 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 2 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 3 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 3 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 4 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 4 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 5 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 5 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 6 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 6 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 7 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 7 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 8 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 8 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 9 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 9 Darganfod Cristnogaeth

Sgript pdf sesiwn 10 Darganfod Cristnogaeth

Sleidiau sesiwn 10 Darganfod Cristnogaeth