Ein Gwerthoedd, Amcanion a’n Cenhadaeth:
Rydym yn gwneud pethau yn ein ffordd ni – Ffordd Adferiad. Yn Adferiad, rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r unigolyn yn hytrach na’r amgylchiadau, gan roi’r unigolyn wrth wraidd popeth a wnawn. Yn hytrach na mabwysiadu dull un ffordd sy’n addas i bawb, rydym yn ymdrechu i ddeall anghenion, amgylchiadau, a dewisiadau unigol pob person. Ein ffocws yw darparu cymorth a chefnogaeth wedi’u teilwra sy’n cael eu cynllunio’n benodol i fodloni eu gofynion unigol. Drwy fabwysiadu’r dull hwn, ein nod yw grymuso unigolion a sicrhau bod ganddynt lais a rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Credwn, trwy gydnabod a gwerthfawrogi unigrywiaeth pob person, y gallwn ddarparu gwasanaethau sy’n wirioneddol ystyrlon ac effeithiol.
Gwefan: adferiad.org