Gyda dros 300 o aelodau mae Global Connections yn rwydwaith bywiog o asiantaethau, eglwysi, colegau a gwasanaethau cymorth yn y DU, sy’n gweithio gyda’i gilydd i arfogi, herio ac ysbrydoli Cristnogion ar gyfer cenhadaeth drawsddiwylliannol. Mae ein haelodau’n cynnwys sefydliadau sy’n gweithio mewn gwledydd ledled y byd. Gan dynnu ar y cyfoeth hwn o brofiad ac arbenigedd rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau a’r newidiadau parhaus allweddol yn ein cenhadaeth fyd-eang ar y cyd.
https://www.globalconnections.org.uk/about-us
Beth ydy BLWYDDYN GAP?
Mae’r FLWYDDYN GAP yn gwrs ymarferol mewn meithrin disgyblion sy’n para blwyddyn (Medi-Awst) ac wedi ei leoli yng Ngholeg y Bala, Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Amcanion y FLWYDDYN GAP yw:
- annog datblygiad personol ac ysbrydol
- ymdrechu tuag at fod â chymeriad cynyddol Grist-debyg
- cynorthwyo pob myfyriwr i adnabod ei ddoniau a’i botensial
- datblygu sgiliau arwain, cyfathrebu ac adeiladu tîm effeithiol
- cynorthwyo a galluogi pob myfyriwr i ddirnad sut gyfraniad y gall ei wneud i’r Eglwys.
Mae myfyrwyr yn cael cyfleon i brofi a bod yn rhan o’r gwahanol weithgareddau sy’n ymwneud â gwaith Coleg y Bala. Mae hyn yn cynnwys:
- paratoi a chyflwyno Cristnogaeth i blant ac ieuenctid mewn ffordd berthnasol a chyfoes ar gyrsiau penwythnos, haf a chanol-wythnos
- mynychu cyfarfodydd tîm: cymryd rhan yng ngwasanaeth dyddiol y ganolfan ac arwain yn achlysurol
- cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y ganolfan fel bo’r angen.
Mae cyfleon i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau plant ac ieuenctid tu allan i Goleg y Bala hefyd; rhai sy’n cael eu cynnal gan rai o weithwyr eraill Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Mae hyn yn cynnwys paratoi a chymryd rhan yn y gweithgareddau canlynol:
- clybiau plant ac ieuenctid
- grwpiau rhanbarthol Souled Out
- gwasanaethau mewn ysgolion
- cenhadaeth leol
- ysgolion Sul
- gwasanaethau boreol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
undebau Cristnogol
Caiff y myfyriwr gyfarfodydd rheolaidd gydag aelod parhaol o’r staff er mwyn archwilio’r dyddiadur a threfnu rhaglen waith addas.
Profiad o weithio mewn meysydd eraill
Yn ystod y flwyddyn, caiff y myfyriwr gyfle i weithio gydag arweinwyr neu weithwyr eglwysig mewn ardaloedd eraill. Yn ddibynnol ar leoliad, caiff y myfyriwr brofiadau amrywiol o weithio gyda phlant ac ieuenctid, ysgolion, oedolion a theuluoedd, yn ogystal â chyfle i ddatblygu ei ddealltwriaeth o rai agweddau ar waith bugeiliol ac arweinyddiaeth.
Bydd pob myfyriwr yn derbyn mentora unigol yn ystod y FLWYDDYN GAP. Amcan y broses hon yw cefnogi duwioldeb a chymeriad Cristnogol pob myfyriwr.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn fyfyriwr BLWYDDYN GAP, cysylltwch â Choleg y Bala am wybodaeth bellach
http://www.colegybala.org/Cymraeg/blwyddyn-gap
Mae cynllun Tîm i Gymru yn agored i oedolion ifanc Cymraeg neu Saesneg eu hiaith.
Rydyn ni’n chwilio am Dîm i Gymru!
Ydych chi rhwng 18 a 23 ac eisiau cymryd blwyddyn gap?
Mae Tîm i Gymru yn gynllun blwyddyn gap ar gyfer Cristnogion ifanc sydd yn:
- Cysylltu chi a rhwydwaith eang o bobl o bob rhan o’r D.U. sy’n rhannu’r un galwad a gweledigaeth.
- Darparu hyfforddiant a mentora i roi hyder i chi fentro mewn ffydd gan wybod bod pobl o’u hamgylch i’w cefnogi.
- Cynnig profiad ymarferol i weithio gydag eglwysi lleol sy’n ymdrechu i genhadu yng Nghymru heddiw.
- Cynnig cyfle i chi deithio tramor gyda BMS World Mission i fyw a phrofi diwylliant arall er mwyn dysgu mwy am genhadaeth mewn cyd-destun gwahanol.
- Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn cael cyfle i rannu eu stori ac ysbrydoli eraill drwy rannu beth mae Duw wedi bod yn gwneud ynddoch chi a thrwoch chi.
Pam y flwyddyn gap yma?
- hyfforddiant o’r safon uchaf gan BMS World Mission yn eu canolfan hyfforddi ym Mirmingham
- profiad o weithio gydag eglwys neu eglwsi lleol yng Nghymru am 6 mis gan eu helpu i estyn allan gyda’r newyddion da am Iesu Grist i bobl lleol.
- gweithio mewn tîm o dri o bobl
- taith i’r India i weld gwaith BMS World Mission yno
- cyfle i arbrofi eich doniau a thyfu yn eich adnabyddiaeth o’r Arglwydd Iesu Grist?
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch a’r Parch. Simeon Baker yn Swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru ar 01267 245660 neu drwy ebost – simeon@ubc.cymru