Cynlluniau Blwyddyn Gap

Teithio Tramor
Teithio Dramor

Gyda dros 300 o aelodau mae Global Connections yn rwydwaith bywiog o asiantaethau, eglwysi, colegau a gwasanaethau cymorth yn y DU, sy’n gweithio gyda’i gilydd i arfogi, herio ac ysbrydoli Cristnogion ar gyfer cenhadaeth drawsddiwylliannol. Mae ein haelodau’n cynnwys sefydliadau sy’n gweithio mewn gwledydd ledled y byd. Gan dynnu ar y cyfoeth hwn o brofiad ac arbenigedd rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau a’r newidiadau parhaus allweddol yn ein cenhadaeth fyd-eang ar y cyd.

https://globalconnections.org.uk/what-we-do

Cenhadaeth yng Nghymru
Coleg y Bala

Beth ydy BLWYDDYN GAP?
Mae’r FLWYDDYN GAP yn gwrs ymarferol mewn meithrin disgyblion sy’n para blwyddyn (Medi-Awst) ac wedi ei leoli yng Ngholeg y Bala, Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Amcanion y FLWYDDYN GAP yw:

  • annog datblygiad personol ac ysbrydol
  • ymdrechu tuag at fod â chymeriad cynyddol Grist-debyg
  • cynorthwyo pob myfyriwr i adnabod ei ddoniau a’i botensial
  • datblygu sgiliau arwain, cyfathrebu ac adeiladu tîm effeithiol
  • cynorthwyo a galluogi pob myfyriwr i ddirnad sut gyfraniad y gall ei wneud i’r Eglwys.

Mae myfyrwyr yn cael cyfleon i brofi a bod yn rhan o’r gwahanol weithgareddau sy’n ymwneud â gwaith Coleg y Bala. Mae hyn yn cynnwys:

  • paratoi a chyflwyno Cristnogaeth i blant ac ieuenctid mewn ffordd berthnasol a chyfoes ar gyrsiau penwythnos, haf a chanol-wythnos
  • mynychu cyfarfodydd tîm: cymryd rhan yng ngwasanaeth dyddiol y ganolfan ac arwain yn achlysurol
  • cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol y ganolfan fel bo’r angen.

Mae cyfleon i’r myfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau plant ac ieuenctid tu allan i Goleg y Bala hefyd; rhai sy’n cael eu cynnal gan rai o weithwyr eraill Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Mae hyn yn cynnwys paratoi a chymryd rhan yn y gweithgareddau canlynol:

  • clybiau plant ac ieuenctid
  • grwpiau rhanbarthol Souled Out
  • gwasanaethau mewn ysgolion
  • cenhadaeth leol
  • ysgolion Sul
  • gwasanaethau boreol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
    undebau Cristnogol

Caiff y myfyriwr gyfarfodydd rheolaidd gydag aelod parhaol o’r staff er mwyn archwilio’r dyddiadur a threfnu rhaglen waith addas.

Profiad o weithio mewn meysydd eraill
Yn ystod y flwyddyn, caiff y myfyriwr gyfle i weithio gydag arweinwyr neu weithwyr eglwysig mewn ardaloedd eraill. Yn ddibynnol ar leoliad, caiff y myfyriwr brofiadau amrywiol o weithio gyda phlant ac ieuenctid, ysgolion, oedolion a theuluoedd, yn ogystal â chyfle i ddatblygu ei ddealltwriaeth o rai agweddau ar waith bugeiliol ac arweinyddiaeth.

Bydd pob myfyriwr yn derbyn mentora unigol yn ystod y FLWYDDYN GAP. Amcan y broses hon yw cefnogi duwioldeb a chymeriad Cristnogol pob myfyriwr.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn fyfyriwr BLWYDDYN GAP, cysylltwch â Choleg y Bala am wybodaeth bellach

http://www.colegybala.org/Cymraeg/blwyddyn-gap

Cynlluniau Interniaeth Undeb Bedyddwyr Cymru

Mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn cynnig rhaglen interniaeth drwy gyd-weithio gyda eglwysi lleol fel Caersalem, Caernarfon a Moriah, Risca.

Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch a’r Parch. Simeon Baker yn Swyddfa Undeb Bedyddwyr Cymru ar 01267 245660 neu drwy ebost – simeon@ubc.cymru