Cyngor Ysgolion Sul

Sefydlwyd y Cyngor Ysgolion Sul yn 1966, a hynny gan 5 enwad Cristnogol Cymraeg sef Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys yng Nghymru. Y pum enwad hyn sy’n dal i reoli’r gwaith trwy rwydwaith o bwyllgorau. Fe’i sefydlwyd er mwyn hyrwyddo gwaith ysgolion Sul ac addysg Gristnogol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Datblygwyd y weledigaeth ymhellach yn 1992 trwy sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair, sef cwmni cyhoeddi Cristnogol cydenwadol, sy’n cyhoeddi a hyrwyddo llyfrau Cristnogol Cymraeg. Erbyn hyn mae’r wasg wedi cyhoeddi dros 800 o deitlau Cymraeg ac mae dros filiwn o lyfrau mewn print. Ymhlith yr arlwy mae dewis eang o werslyfrau Ysgol Sul ar gyfer pob oed, llyfrau lliw i blant ac ieuenctid, llyfrau lliwio a phosau, Beiblau lliw ar gyfer pob oed, llyfrau gweddi/defosiynol a gwasanaethau ar gyfer oedolion a phob oed, deunydd ar gyfer clybiau plant ac ieuenctid, llyfrau emynau, ynghyd â llawlyfrau hyfforddiant i weithwyr plant. Mae’r Cyngor hefyd yn rhan o gwmni ‘Roots for Churches’ sy’n cyhoeddi adnoddau addoli, ac yn sicrhau bod deunydd Cymraeg ar gael fel rhan o’r arlwy ar y wefan www.rootsontheweb.com

Mae gan y Cyngor Gyfarwyddwr llawn amser a nifer o weithwyr cysylltiol llawrydd, ac mae’r rhaglen waith yn cael ei yrru gan nifer o baneli gwaith sy’n llywio’r gwaith, sy’n atebol i’r Pwyllgor Gwaith.
Ar hyn o bryd mae 3 panel yn weithredol, sef:

  • Panel datblygu adnoddau gweinidogaeth
  • Panel datblygu adnoddau cenhadaeth
  • Panel hybu, hyfforddi a hyrwyddo

Ymhlith cyfrifoldebau’r gweithwyr a’r paneli mae’r Cyngor yn amcanu i gyflawni’r canlynol:
Cefnogi gwaith yr eglwys leol trwy gyhoeddi ystod eang o adnoddau pwrpasol ar gyfer yr Ysgol Sul a’r eglwys, yr ysgol a’r cartref, gan gynnwys cyhoeddi gwerslyfrau i blant ac ieuenctid fel rhan o gynllun dysgu pwrpasol. Trefnir nifer o ddigwyddiadau arddangos ledled Cymru i hybu’r adnoddau hyn, gan gynnwys cynnal stondin adnoddau mewn cydweithrediad gyda Cytûn yn y prif wyliau cenedlaethol Cymreig sef yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd, a’r Sioe Frenhinol. Trefnir yn ogystal diwrnodau gwobrwyo Medalau Gee i ffyddloniaid yr Ysgol Sul yn flynyddol yn y de a’r gogledd.

Mae’r Cyngor yn cydweithio gyda’r enwadau a mudiadau Cristnogol eraill er mwyn gofalu bod yr eglwysi a’r Ysgolion Sul yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ei weithgarwch.

Mae’r Cyngor hefyd yn ceisio rhwydweithio a ‘bod yn llais o Gymru’ yn y fforwm Prydeinig ar waith plant Cristnogol sef y Children’s Ministry Network (o dan CTBI) ac Ewropeaidd (ECCE).

Mae gan y Cyngor Ysgolion Sul 5 gwefan mae’n gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd:

www.ysgolsul.com
Gwefan swyddogol y Cyngor, sy’n cynnwys gwybodaeth a newyddion am ein gwaith yn ogystal â siop ar lein a siop ddigidol i brynu llyfrau ac adnoddau digidol i’w lawr lwytho.

www.cristnogaeth.cymru
Gwefan gyffredinol sy’n ffynhonnell gwybodaeth am bopeth ac unrhyw beth yn ymwneud â Christnogaeth yng Nghymru..

www.gair.cymru
Gwefan sy’n cynnwys deunydd Cristnogol Cymraeg i’w lawr lwytho yn rhad ac am ddim, gan gynnwys gwersi ysgol Sul ar gyfer pob oed, gwasanaethau cyflawn ar gyfer cynnal oedfaon ar y Sul, gweddïau a myfyrdodau, ffilmiau ar gyfer plant ac oedolion, cyflwyniadau PowerPoint i’w defnyddio mewn gwersi ac oedfaon, deunydd defosiwn dyddiol ar gyfer bob dydd o’r flwyddyn, gwasanaethau ar gyfer ysgolion a sgyrsiau plant ar gyfer oedfa neu wasanaeth ysgol.

www.beibl.net
Gwefan sy’n cynnwys testun y Beibl cyfoes beibl.net ynghyd â llawer o adnoddau cysylltiol eraill.

www.gobaith.cymru
Gwefan sy’n cynnwys dros fil o emynau a chaneuon Cristnogol cyfoes ar ffurf geiriau yn unig ac fel ffeiliau Powerpoint y mae modd eu lawr lwytho yn rhad ac am ddim.

Gellir cysylltu gydag Aled Davies, y Cyfarwyddwr ar 01766 819120 neu aled@ysgolsul.com