Cymorth Cristnogol

Mae Cymorth Cristnogol yn bodoli er mwyn creu byd ble caiff pawb fyw bywyd llawn, yn rhydd o dlodi.

Mae tlodi yn sarhau dynoliaeth. Mae’n dwyn urddas oddi ar bobl ac yn caniatáu i anghyfiawnder ffynnu. Ond gyda’n gilydd mae’r grym gennym i drawsffurfio bywydau.

Mudiad byd-eang o bobl, eglwysi a chyrff lleol ydym sy’n pledio urddas, cydraddoldeb a chyfiawnder o amgylch y byd gydag arddeliad. Ni sy’n mynnu newid, yn adeiladu heddwch, yn gryf o galon.

Rydym yn cyflenwi help ymarferol, brys ar adegau o argyfwng a thu hwnt. Rydym yn ceisio dileu tlodi eithafol trwy fynd i’r afael â’i achosion craidd. Ynghyd â phobl dlawd, rydym yn codi’n llais i ddweud y gwir wrth y grymus ac i greu newid sy’n parhau.

Mae pawb yn gyfartal yng ngolwg Duw. Am 70 blynedd, mae hyn wedi’n hysbrydoli ni i sefyll mewn undod gyda’n cymdogion byd-eang, o bob ffydd a run ffydd.

Ein braint fwyaf yw cael ymateb i alwad Duw i fod yn bartner gydag ef i ddod â newid i’w fyd toredig. I helpu’r eglwys i wneud hynny rydym yn paratoi adnoddau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog, fel adnoddau addoli, sgyrsiau pob oed, posteri ac adnoddau ymgyrchu. Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth neu cysylltwch â’ch swyddfa leol.

Gwefan: www.christianaid.org.uk