Wrth orchfygu clefyd y gwahanglwyf, trawsnewidir bywydau
Mae Cenhadaeth y Leprosy Mission yn sefydliad Cristnogol byd-eang sy’n arwain y frwydr yn erbyn clefyd y gwahanglwyf.
Gan ddilyn dysgeidiaeth Iesu Grist, ceisiwn weddnewid a thorri cadwyni’r clefyd hwn a grymuso pobl i gael iachâd, urddas a bywyd yn ei holl gyflawnder.
Ni ddylai neb ddioddef oherwydd afiechyd y gellir ei atal a’i drin.
Rydym yn gweithio gyda phobl o bob ffydd a dim ffydd i drechu’r gwahanglwyf a thrawsnewid bywydau’r bobl yr effeithir arnynt.
Mae’r elusen yn gweithio mewn 27 o wledydd.
Rydym yn canolbwyntio ar ddeg gwlad yn Affrica ac Asia – Bangladesh, Ethiopia, India, Mozambique, Myanmar (Burma), Nepal, Niger, Nigeria, a Sri Lanka. Mae gan y lleoedd hyn gyfraddau uchel o’r gwahanglwyf neu nid oes ganddynt y gwasanaethau neu’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl yr effeithir arnynt.
Yn ogystal â chefnogi pobl sy’n byw gyda’r gwahanglwyf heddiw, rydym yn gwasanaethu cenedlaethau’r dyfodol drwy weithio i roi terfyn ar drosglwyddo’r clefyd. Felly gallant gael eu geni i fyd sy’n rhydd o’r gwahanglwyf.
Rydym yn partneru â llywodraethau, eglwysi a sefydliadau eraill. Yn bwysicaf oll, rydym yn gweithio gyda phobl yr effeithir arnynt gan y gwahanglwyf i gyflawni ein gweledigaeth – gwahanglwyf wedi’i drechu, bywydau wedi’u trawsnewid.
Gwefan: www.leprosymission.org.uk